主播大秀

Bethan Gwanas - 'Yn 么l i Gbara'

16 Tachwedd 2010

Dilyniant i Dyddiadur Gbara am ymweliad Bethan Gwanas a Nigeria lle treuliodd ddau dymor yn athrawes yn yr Wythdegau.

  • Adolygiad Megan Jones o Yn 么l i Gbara gan Bethan Gwanas. Gwasg Carreg Gwalch. 152 tud. 拢7.50.

Mae Yn 么l i Gbara gan Bethan Gwanas yn dilyn ei thaith i ffilmio rhaglen deledu ar gyfer S4C yn y pentref bychan, diarffordd, yn Nigeria ble treuliodd ddwy flynedd yn gweithio gyda'r VSO fel athrawes Saesneg.

Chwarter canrif ers ei hymweliad cyntaf 芒 Gbara, mae llawer wedi newid yn y pentref, yn Nigeria ac ym mywyd Bethan Gwanas ei hun hefyd.

Heb os nag oni bai, mae hon yn gyfrol ddiddorol sy'n rhoi cyfle inni brofi gwlad a diwylliant sydd yn gwbl ddieithr i'r rhan fwyaf ohonom.

Yn fwy na hynny, rydym yn profi Nigeria drwy lygaid un sydd yn amlwg ym meddwl y byd o'r wlad a'i phobl gan roi darlun byw o Nigeria a Gbara yn eu holl ogoniant: y cymeriadau diddorol, eu croeso cynnes, y farchnad yn fwrlwm o fywyd a chwarae a chwerthin y plant.

Dangos y gwahaniaeth

Mae'r gyfrol yn llwyddo i ddisgrifio'r gwahaniaethau rhwng Nigeria a Gbara heddiw a Nigeria a Gbara pan oedd Bethan Gwanas yno ddiwethaf.

Rhannwn amheuon a phryderon Bethan Gwanas wrth iddi sylweddoli bod rhai traddodiadau ac arferion yn colli tir i'r diwylliant Eingl-Americanaidd byd-eang a'i thristwch o sylweddoli ei bod hi'n amhosibl ail-afael yn Gbara a Nigeria y gorffennol y gwyddai amdano.

Calon y gyfrol yw berw teimladau Bethan Gwanas yn ystod y daith. Y nerfusrwydd a'r pryder cyn cychwyn, y gorfoledd o gyfarfod rhai o'i chyn ddisgyblion a'r balchder o ddod 芒'r Nigeria go iawn, yn hytrach na'r straeon negyddol di-baid, i'r sgr卯n.

Ond dyw pethau ddim yn f锚l i gyd a hithau'n gorfod ymdopi 芒 chlywed am farwolaethau cyn-ddisgyblion annwyl yn ogystal 芒 sawl sefyllfa annifyr ble mae pobl yn erfyn arni am arian ac un hyd yn oed yn gofyn iddi fynd 芒'i fab yn 么l i Gymru gyda hi.

Mae'n dda gweld rhywun sydd yn fodlon ymdrin 芒'r da a'r drwg gan osgoi creu darlun ffals a thaith berffaith.

I'r teledu

Ond gan mai llyfr sy'n cyd-fynd 芒 rhaglen deledu yw hwn rhaid inni ddarllen hefyd am ail-ffilmio rhai ymweliadau neu gyfweliadau.

Yn amlwg, byddai'n rhaid gwneud cryn dipyn o ymchwil cyn teithio i Gbara, ond ar brydiau mae'n ymddangos fel pe na byddai gan Bethan unrhyw amser rhydd i ail ddarganfod y pentref a'r trigolion gydag amserlen y daith yn ymddangos mor dynn ac wedi'i chynllunio mor fanwl, nes codi cwestiynnau am fwriad y daith: rhoi cyfle i Bethan Gwanas ail-ymweld 芒 Gbara gan gyfarfod 芒 hen ffrindiau a ffilmio rhaglen ddogfen am ei phrofiad - ynteu ffilmio rhaglen ddogfen yng Ngbara a gwneud hynny mewn cyn lleied o amser a phosibl?

Beth bynnag yw'r ateb, byddai'n ddiddorol darllen y dyddiadur y byddai wedi'i ysgrifennu pe byddai wedi dychwelyd heb y criw teledu!

Colli rhai pethau

Gwendid y gyfrol yw'r ffaith bod Bethan Gwanas, yn wahanol i'r cyfnod pan ysgrifennodd ei Dyddiadur Gbara, yn ymwybodol wrth ysgrifennu yn awr y bydd y dyddiadur hwn yn cael ei gyhoeddi a hynny'n golygu ein bod ni'n colli llawer o'r pytiau personol a'r arddull agos atoch chi oedd yn gwneud Dyddiadur Gbara yn gymaint o bleser i'w ddarllen.

Er bod ambell ran yn ymdrin 芒 materion a theimladau personol iawn, caiff darllenydd deimlad o ymatal ar ran yr awdur ac o gadw haen oddi wrth y darllenydd.

Ond ar y cyfan mae hon yn gyfrol hynod ddiddorol sydd yn dilyn hynt a helyntion taith fythgofiadwy ond, efallai, yn fwy na dangos y newid yn Nigeria a Gbara, bod y dyddiadur yn dangos y newid rhwng yr awdures heddiw a'r ferch ifanc aeth yno gyntaf 25 mlynedd yn 么l.
Megan Jones.


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 主播大秀 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.