主播大秀

Hen Benillion - argraffiad newydd

Rhan o glawr y llyfr

12 Mai 2010

  • Adolygiad Glyn Evans o Hen Benillion, golygydd T H Parry-Williams. Gwasg Gomer. 拢8.99.

"Perthyn rhyw swyn anarchaidd iddynt," meddai T Robin Chapman mewn rhagair i'r argraffiad newydd hwn o gyfrol a gyhoeddwyd gyntaf yn 1940.

Ac mae hyfryd gweld bod y cyhoeddwyr yn ei hystyried werth chweil cadw mewn print y gist drysor hon o emau llawn cyffro telynegol- heb anghofio hefyd ragymadrodd T H Parry-Williams a'i nodiadau yng nghefn y gyfrol.

Clawr y llyfr

Er wedi eu cyfansoddi yr holl flynyddoedd yn 么l - cyn y bymthegfed ganrif - y maent hefyd yn hyfryd o ddiddyddiad a'u gwirioneddau weithiau mor berthnasol heddiw ag erioed;

Llawer un wrth fyw yn gynnil
O ddwy ddafad aeth i ddwyfil.
Llawer un wrth fyw yn afrad
Aeth o ddwyfil i ddwy ddafad.

Teimlo'n gyfforddus

Er gwaethaf eu hynafiaeth "maent yn perthyn i fyd y gallwn deimlo'n gyfforddus ynddo" chwedl T Robin Chapman ond byd a "erys er hynny'n fyd dieithr" ychwanega.

Hyfrydwch arbennig - a ddylai, mae'n debyg, fod yn rhwystredigaeth - yngl欧n 芒 hwy yw na wyddys pwy 芒 ysgrifennodd y rhan fwyaf ohonynt.

Er i'r penillion gael eu gweld ar bapur gyntaf yn yr ail ganrif ar bymtheg nid oes amheuaeth eu bod yn dyddio'n 么l gryn dipyn cyn hynny ac wedi eu trosglwyddo ar lafar o un genhedlaeth i'r llall.

Er bod casgliadau eraill pwysig, un T H Parry-Williams yw'r unig un cynhwysfawr a safonol i'w gyhoeddi yn y cyfnod modern a theyrnged i'w gyfraniad ef yw yr erys ei gyfrol y casgliad awdurdodol ac ni w锚l T Robin Chapman, wrth gyflwyno'r argraffiad newydd hwn, yr angen, meddai, i ychwanegu at yr hyn oedd gan T H Parry-Williams i'w ddweud.

"Nid wyf yn gymwys i ychwanegu dim at ysgolheictod eu golygydd gwreiddiol," meddai.

Ond y mae, fodd bynnag, yn ychwanegu'r sylw buddiol; "Eu hygyrchedd, mae'n si诺r, sy'n ein denu atynt yn y lle cyntaf; ond eu hodrwydd sy'n ein denu'n 么l."

Yn gyfoes

S么n am odrwydd, weithiau mae rhywbeth yn hynod o 'fodern' yn eu hiwmor gan ymdebygu yn hynny o beth i greadigaethau eraill yr un mor hynafol, yr un mor eang a'r un mor gyfoes eu hap锚l, ein hwiangerddi plant gyda'u hiwmor anystywallt hwythau.

Rhannodd T H Parry-Williams ei gasgliad dan wyth pennawd;

Doethineb
Da am dda sy'n dra rhesymol,
Drwg am ddrwg sy'n anghristnogol,
Drwg am dda sydd yn gythreulig
Da am ddrwg sy'n fendigedig.

Profiad
Canu wnaf a bod yn llawe,
Fel y gog ar frig y gangen;
A pheth bynnag ddaw i'm blino,
Canu wnaf a gadael iddo.

Bywyd
Bum yn hwsmon cynnil caled,
Heliais arian, prynais ddefed,
Aeth y c诺n a'r brain 芒'r rheini,
O waith imi droi i ddiogi.

Hanes
Mae llefain mawr a gweiddi
Yn Ytrad-ffin eleni,
A'r cerrig nadd yn toddi'n blwm
Gan ofon Twm Si么n Cati.

Cyfeddach
A gym'ro ddybaco yn fynych i'w iwsio,
Ni fedran' hwy beidio 芒 hwnnw.
Mae llawer o ddynion, er maint a'r a gaffon',
Ni ch芒n' hwy fyth ddigon o hwnnw.

Canu
Gwych gan gerlyn yn ei wely
Glywed s诺n y droell yn nyddu;
Gwych gen innau (dyn a'm helpo)
Glywed s诺n y tannau'n tiwnio.

Natur
Pe bae Cadair Idris Fawr
Yn siwgwr gwyn o'i phen i lawr,
A dail y coed i gyd yn de,
Cystal gwlad drachefn 芒'r dre.

Serch
Gwenwyn pur ar lefrith twymyn
Ydyw caru mab penfelyn.
Fe ddaw hwn dan gribo'i gudyn
脗 merch wen i lwyr anffortun.

a Ffraethineb
On'd ydyw yn rhyfeddod
Bod dannedd merch yn darfod?
Ond tra bo yn ei genau chwyth,
Ni dderfydd byth ei thafod.

Blas ac arogl y gymdeithas wledig sydd ar yr hen benillion wrth gwrs ac amaethyddol gan fwyaf yw'r delweddau a'r profiadau.

Rhywbeth arall na ellir osgoi sylwi arno yw mai o safbwynt gwrywaidd y byddai'r awduron yn cyfansoddi gyda'r merched gan amlaf yn dafotrydd, yn gegog, weithiau'n ddiog ac yn meddu ar holl ffaeleddau ystrydebol eu rhyw.

Yn awr 'r wyf wedi drysu,
Wrth gerdded i hir garu,
Er bod y merched yn dra rhwydd,
Mi rof y swydd i fyny
meddai un - ac meddai arall:

Llawer gwaith y bum yn meddwl
Mynd i'r dafarn, gwario'r cwbwl,
Dyfod adre'n feddw, feddw,
Curo'r wraig yn arw, arw.

Oes, ymhlith eu difyrrwch, mae darlun gwerthfawr o gyfnod ac adlewyrchiad o agweddau.

Cyfrol sy'n haeddu'i lle ar bob silff ac arwydd o'i gwerth yw fod 么l traul ar argraffiad blaenorol sydd yn fy meddiant innau.

Rhaid llongyfarch Gomer am gadw hon mewn print.


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 主播大秀 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.