主播大秀

John Meirion Morris - Gwyn Thomas yn holi

05 Rhagfyr 2011

Adolygiad Lois Eckley o'r gyfrol John Meirion Morris, Artist gyda Gwyn Thomas. Y Lolfa. 拢9.95

Y gwir yw nad pob artist sy'n meddu ar y gallu i drafod ei waith mewn ffordd ddiddorol.

Yn aml, mae darlun yn dehongli yr hyn nad oes angen ei ddweud o bosib.

Ond mae John Meirion Morris yn artist sy'n rhugl ar lafar hefyd yn ogystal ag yn weledol ac o ganlyniad, yn y llyfr hwn, mae darllen ei ddyfyniadau yn ychwanegu at y detholiad o weithiau sydd rhwng y cloriau.

Tryweryn

Mae sawl rhan i'r llyfr; o wybodaeth gefndirol am fagwraeth John Meirion Morris yn Llanuwchllyn a'r hyn sydd wedi ei arwain ar hyd ei lwybr celfyddydol.

Rhannwyd y daith dan sawl pennawd yn y llyfr gan yr Athro Gwyn Thomas megis 'symbolau' a 'thrafodaeth am weithiau unigol'.

Dau enaid hoff gytun a gawn yma ac wedi dod ynghyd droeon er pan oedd Gwyn Thomas yn ddarlithydd ar John Meirion Morris flynydde n么l. Mae ei ddealltwriaeth o a'i angerdd am weithiau John Meirion yn gyfartal a greddf yr artist ei hunan i greu ac mae'n hyfryd o beth gweld yr ymblethiad hwnnw yn y llyfr.

Bu sawl sesiwn holi ac ateb rhwng y ddau a'r holwr yn cynnig ei ddehongliadau ei hunan hefyd o sawl darn.

Yn astudiaeth fanwl o'r artist mae'r lyfr yn gyfuniad braf o ddarluniau ac o ddehongliadau dwys.

Mae yna ym mywyd John Morris sawl carreg filltir neu groesffordd; ei gyfnod mewn Ysgol Gelf yn Lemington Spa lle'r oedd yn ddarlithydd arloesol yn cymell ei fyfyrwyr i wrando ar eu lleisiau dyfnaf, eu heneidiau, cyn mynd ati i greu.

Unwaith eto, i mi, mae John Meirion Morris yn chwilio'n ddwfn am y gwirionedd ynddo'i hun ac yng ngwaith ei gyfoedion. Mae'n gofyn inni ddiosg ein gorchuddion materol ac edrych oddi mewn am eiliad fach.

Yn Ghana

Cyfnod pwysig arall - a throbwynt - oedd yr un a dreuliodd yn darlithio mewn Prifysgol yn Kumasi, Ghana.

Dyma inni wlad ac iddi artistiaid oedd yn creu celfyddyd naturiol yn llawn teimlad ac emosiwn ac o symudiad llif bywyd ac fe wirionodd John Meirion Morris ar y rhythm oedd ynghlwm 芒'u gwaith yn gerfluniau pren ac yn lliwiau llachar.

Agorodd hyn ei fyd ymhellach wrth iddo ddatblygu ei synhwyrau ei hun am guriad ei rythm yntau.

Mwy na phennau

Mae yna sawl pen efydd yn gofeb i fawrion Cymru wedi ei creu gan ddwylo medrus yr artist hwn. Rhai yn y Llyfrgell Genedlaethol, yng Nghyntedd y 主播大秀 yn Llandaf ac mae yna ddetholiad diddorol o bennau yn y gyfrol hon o Gwenallt a Gerallt Lloyd Owen a Ray Gravell ac Ann Catrin.

Mae p诺er yn ei bennau efydd. Mae tristwch pell y tu 么l i lygaid Ray Gravell ac mae yna gryfder balch yn wyneb Ann Catrin.

Dywed fod gwneud pen yn fwy iddo na chael tebygrwydd ac mae'n rhannu gyda'r darllenydd ei angen i wneud cysylltiad 芒'i destun ar lefel ddwys, dal teimlad ac enaid y person mae'n ei astudio.

Unwaith eto mae'n chwilio am y gwirionedd yn ei destun ac ynddo'i hun fel artist.

笔颈别迟脿

Yn y llyfr, does dim byd mwy gwirioneddol deimladwy na darllen am ei gerflun 笔颈别迟脿 , cerflun er cof am Dylan ei fab hynaf a galar mam, ei wraig Gwawr. Cerflun pwerus sy'n amlinelliad o ddynes/dduwies yn cario corff. Corff sy'n darlunio "holl alar mamau (a dynion hefyd) yn wyneb coli pant" meddai gwyn Thomas. Gwaith "o bwysigrwydd enfawr".

笔颈别迟脿

Mae pwysau'r corff llipa i'w deimlo drwy'r darlun, mae fel petai'r corff yn cael ei ddychwelyd yn 么l i'r ddaear, i'w gread.

Fe aeth John a Gwawr Morris ati i greu yn eu galar ac mae cerdd Gwawr, er Cof, gafodd ei chyhoeddi yn Nhaliesin ( cyfrol 131) wedi ei chynnwys yma hefyd;

Ond pan ddigwyddodd yr anochel,
Taflwyd ein byd oddi ar ei echel
a diffoddwyd yr haul.
Syrthiodd ei seren
trwy ddiddymdra llwyd
I glai oer Tir Galar

Stori'r creu

Cawn ni ein tywys yn fanwl ac yn ofalus trwy sawl creadigaeth ac mae stori'r creu yn rhyfeddod imi bob tro. O fyd y Mabinogi i weledigaethau gwleidyddol mae nhw i gyd yn ddelweddau gwreiddiol o wirionedd John Morris.

Cofeb Tryweryn a'i hadenydd o ochneidiai. Y gwddf hir yn ymestyn yn falch am y nef. Pam nad yw hwn byth yn gofeb yno mae'n anodd dirnad. Y C么r wedyn yn wynebau tylluanod rhyfedd yn syllu allan o'i cefn pren a Rhiannon yn ben duwies ferch a cheffyl yn waedlyd ac yn brydferth ar yr un pryd.

Mae'r cyfan yn un myfyrdod ysbrydol ac yn wirioneddau ym mywyd John Morris. Mae'n enaid agored. Gwelodd ddechreuad ei ddelweddau yn ei is ymwybod.

Maen nhw fel pe byddent wedi bod erioed ac mai John sydd yn eu gwneud nhw'n efydd er mwyn sicrhau eu parhad.

Mi fydda nhw yma ymhell ar ein h么l ni ac yn dal i syfrdanu.
Lois Eckley


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 主播大秀 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.