主播大秀

Aled Islwyn: Adolygiad o'i nofel Milwr Bychan

Rhan o glawr y llyfr

14 Medi 2009

Dyfodol dadleuol

Adolygiad Janice Jones o Milwr Bychan Nesta gan Aled Islwyn. Gwasg Gomer. tt.304. 拢8.99

Mae'r llinell o gynghanedd sain ar glawr y llyfr hwn, 'Mae'n deffro hen gyffro a guddiwyd', yn awgrym, efallai, o'r iaith glasurol, ond hygyrch, a gaiff ei defnyddio gan Aled Islwyn yn y nofel hon.

Yn glamp o nofel

Ac mae hi'n glamp o nofel - y math o nofel sy'n llenwi pen darllenydd 芒 chwestiynau ond nad yw'n cynnwys yr atebion i'r cwestiynau hynny yn dwt ac yn deidi fel rhan o'r pecyn.

Hanes Nesta a gawn yn y nofel, hen wraig sydd yn byw yn ddigon bodlon ar ei phen ei hun mewn byngalo ar gyrion Coed Cadno. Ond daw dyn dieithr i darfu, os tarfu hefyd, ar drefn ei bywyd, bywyd sy'n cael ei fyw mewn byd sy'n gyfarwydd, ac eto'n anghyfarwydd.

Trwy gydol y nofel gellir ymdeimlo 芒'r bygythiadau o drais sy'n hofran uwchben cartref Nesta: nid yw ochr anghysurus bywyd byth ymhell.

Cawn ar ddeall mai milwr ar ffo yw'r dyn.
Ni chaiff ei enwi gydol y nofel - yn wir, ac eithrio Nesta ei hun, llond llaw o'r cymeriadau eraill sy'n cael eu henwi.

Mae hyn yn creu paradocs drwy sicrhau bod y dyn yn aros yn ddieithr, ond gall y ffaith ei fod yn anhysbys hefyd beri i'r darllenydd roi ei hun yn ei esgidiau.

Ac er y gwahaniaeth amlwg rhwng oedran ac amgylchiadau'r dyn, ac oedran ac amgylchiadau Nesta, mae o yn ei galw hi'n 'ti' gydol y nofel, a hithau yn ei alw ef yn 'chi', sy'n peri i'r darllenydd holi beth yw gwir arwyddoc芒d eu perthynas.

Llenwi bwlch

Nid yw Nesta'n tynnu 'mlaen yn dda iawn gyda'i hunig ferch na'i hwyrion, felly mae'r dyn dieithr yn llenwi bwlch yn ei bywyd sy'n cynnwys dim ar ddechrau'r nofel ond rhaglenni teledu syrffedus.

Ond mae Nesta'n gwylio'r rhain gyda brwdfrydedd, ac efallai bod y straeon gwirion a gwallgof y mae hi'n eu dilyn yn selog yn yr oper芒u sebon y mae hi mor hoff ohonynt yn ei chymell i greu ei hopera sebon ei hun wrth iddi hi ddenu'r dyn i'w chartref.

Nid yw hi ychwaith yn poeni'n ormodol am y byd a'i bethau ac mae'n ymddangos mai felly y bu hi erioed - nid un o fanteision neu felltithion henaint yw ei difaterwch, a daw'r dyn yn bresenoldeb tipyn pwysicach yn ei bywyd na'i theulu.

Dan orthrwm

Er ei bod hi'n amlwg bod cymeriadau'r nofel yn byw dan orthrwm gwladwriaeth ormesol, go brin ei bod hi'n mynd i ddifetha'r nofel i ddarpar ddarllenydd trwy ddatgan nad yw'n cynnwys stribedi o ddigwyddiadau cyffrous James Bond-aidd sydd yn llacio hualau'r dinasyddion, ac nad yw'n cynnig diweddglo gordaclus i'r darllenydd.

Ond wrth gadw'r digwydd o fewn cwmpas cymharol fychan, mae'r awdur yn llwyddo i ddwys谩u'r ymdeimlad caethiwus a chynyddu'r tensiwn.

Talpiau trawiadol

Gellir dyfynnu talpiau mawr o'r gwaith gan fod cymaint o ddywediadau ac ymadroddion trawiadol yn y nofel. Ceir yn y bennod agoriadol y wireb hon:
"Cododd y syniad o geisio torri'r garw gyda'r dyn o'r ymdeimlad hwnnw o 'ddallt ein gilydd' a geir weithiau rhwng pobl nad ydynt yn deall ei gilydd o gwbl."

A gellid bod y disgrifiad hwn o'r fynwent ble gorwedd g诺r Nesta wedi'i godi o gerdd br么s:
"Erwau o dir mewn distawrwydd, a wal gaerog o'i gwmpas, gydag ambell sbrigyn o chwyn dilychwin yn britho byw rhwng ei brics."

Ac ym marn Nesta:
"Dau fath o ddyn 'dyn ni ddim angen mwy ohonyn nhw yn y byd 'ma - beirdd a milwyr."

Mae yma feirniadaeth ar lawer o agweddau ar ein bywyd cyfoes - nid ar '[f]eirdd a milwyr' yn unig.

Yn bennaf, efallai, yr hyn sydd dan lach yw ein difaterwch, ein parodrwydd i gau'n llygaid ar gymaint o'r hyn sy'n digwydd yn y byd o'n cwmpas, yn bell ac agos.

A cheisio dangos hefyd pa mor rhwydd fyddai i ni eistedd yn 么l yn ein clydwch hunanfodlon a cholli popeth sy'n bwysig i ni.


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 主播大秀 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.