主播大秀

John Alwyn Griffiths - Pleserau'r Plismon

01 Rhagfyr 2011

Adolygiad Gwyn Griffiths o Pleserau'r Plismon gan John Alwyn Griffiths. Gwasg Carreg Gwalch. 拢7.50

Cael ein dal gan straeon difyr

Dyn sy'n hoffi pobol - da neu ddrwg - 芒'i gydymdeimlad 芒 phechaduriaid a saint fel ei gilydd. Argraff fel yna ges i o John Alwyn Griffiths o ddarllen ei gyfrol Pleserau'r Plismon. Dyn braf i fod yn ei gwmni, dybiwn i, yn sicr o fewn tudalennau llyfr.

Gwladwr o blismon, pysgotwr a heliwr, a thebyg y dylai plismon da fod yn un sy'n perthyn i'w gymdeithas ac yn adnabod ei bobol.

Dyma gyfrol ddarllenadwy a hwyliog. Cyfrol llawn straeon da am gymeriadau lliwgar o aml haenau cymdeithas a'r dweud yn raenus a difyr.

Nid stori am un plismon chwaith ond hanesion plismyn yn perthyn i oes a aeth heibio, lawer ohonyn nhw, dynion oedd yn cadw'r heddwch yn eu dull unigryw eu hunain.

Clawr y llyfr

Mae yma ddegau o stori芒u ardderchog yn cael eu hadrodd yn dwt a bachog. Fel y plismon gafodd gerydd am ymladd yn y stryd fawr ar ei ddiwrnod bant.

"Mi alwodd fi yn fastad, syr," atebodd Gwyn.
"Evans," gwaeddodd Gonc, "'does dim rhaid i mi fynd allan o'r plis stesion yma i gael fy ngalw'n fastad, ond tydi hynny ddim yn rheswm i ddechrau cwffio efo pawb."

Medrwn yn hawdd lenwi'r adolygiad yma'n ailadrodd rhai o emau'r gyfrol. Mae'n amhosib peidio ag ildio i'r demtasiwn i gynnwys ambell un, fel honno am yr awdur a chydweithiwr o CID Llangefni yn mynd i restio bachgen ifanc.

Roedd y ddau blismon mewn siwtiau tywyll, parchus, fel byddai dynion CID 'slawer dydd.

Wedi cnocio sawl gwaith daeth mam y bachgen i'r drws.

"CID o Langefni ydan ni, wedi dod i arestio'ch mab ..." meddai'r awdur.

"Diolch i'r nefoedd am hynny," medda'r fam. "Roeddwn i'n meddwl mai Jehovah's Witnesses oeddach chi!"

Mae yna glasur o stori am un o'i gydweithwyr yn mynd i d欧 cyngor yng nghyffiniau Rhos-goch, Sir F么n, i chwilio am ddafad. Roedd y plismon wedi cael sicrwydd fod y bachgen oedd yn byw yno gyda'i dad a'i fam, wedi dwyn dafad.

Er gwaetha bytheirio'r tad aed i chwilio'r t欧 a chael hyd i'r ddafad o'r diwedd yn yr atic - a 'doedd y tad na'r fam yn gwybod dim ei bod yno.

Mae hanes John Alwyn Griffiths yn cychwyn fel 肠补诲茅迟 ym Mangor ac yn gorffen ac yntau'n Bennaeth Adran Dwyll Heddlu Gogledd Cymru.

Er gwaetha cyfnodau ar drywydd "pobol ddrwg" mewn mannau mwy poblog - wel, Caergybi, beth bynnag - mae'n amlwg mai dyn y wlad yw'r awdur. Ond dyn pobol hefyd. Cafodd yrfa ddisglair a difyr tu hwnt.

Dyma gyfrol un a gafodd flas ar yrfa, ac ar fywyd. Diolch iddo am rannu'r llawenydd a'r blas hwnnw gyda ni. Atgofion pum seren - neu bum streipen, os oes y fath beth yn bod.
Gwyn Griffiths


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 主播大秀 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.