主播大秀

Gareth Roberts - Y S锚r yn eu Tynerwch

07 Tachwedd 2011

Adolygiad Lois Eckley o Y S锚r yn eu Tynerwch gan Gareth Roberts. Gwasg Carreg Gwalch. 拢16

Dal disgleirdeb ein bod

Pleser pur yw syllu ar y lluniau yn y llyfr hardd hwn o Wasg Carreg Gwalch. Casgliad o ffotograffau gan Gareth Roberts sy'n gartwnydd a fu'n cyfrannu i'r Cymro am wyth mlynedd.

Tynnwyd holl luniau y casgliad hwn ym mherfeddion nos ac ochr yn ochr 芒 hwy mae cerddi gan sawl bardd gan gynnwys y diweddar Iwan Llwyd, Dic Jones, Hedd Wyn, Twm Morys ac ambell i hen bennill hefyd.

Ond mae'n rhaid imi fod yn onest a dweud mai tueddu at gyfaredd y lluniau swynol oeddwn i, er mor drawiadol y cyfuniad o ddarluniau a geiriau celfydd ar sawl tudalen.

Clawr y llyfr

Cawn esboniad yn y rhagair gan Gareth Roberts ei hun am drywydd ei fywyd hyd yma, sut y gadawodd yr ysgol yn ddigyfeiriad a ffeindio ei hun ar gwrs ffilm a ffotograffiaeth yng Ngholeg Celf Cernyw.

Wedyn, dod ar draws gwaith y cosmologydd Carl Sagan ar yr un pryd yn tanio ei ddychymyg a goleuo ei lwybr creadigol.

Diolch i'r cyd ddigwyddiadau hynny yn ei fywyd, cawn ninnau yn y gyfrol hon y casgliad mwyaf bendigedig o luniau arallfydol o hudolus.

Mae'r byd cudd yma yn hafan iddo a phan mae nifer ohonom yn cau y llenni ar ddiwedd dydd- eu hagor i'r ffurfafen, y bydysawd a'i ryfeddodau serennog y mae ef.

Yn frenin

Mae'r blaned Iau yn frenin ar sawl ffurfafen yn y lluniau hyn ac mae'n ddarlun dychmygol bendigedig fod Gareth wedi bod ar daith yn ei isymwybod i'r blaned hon tra'n drwm o dan ddylanwad anesthetig wedi iddo gael trawiad ar y galon yn ddeugain oed.

Wrth syllu ar y ffotograffau hudolus, mae'r gwaith yn creu rhyw ymdeimlad fod unrhyw beth yn bosibl. Dychmygaf fy mod yn gweld Afallon yn y pellter trwy'r niwl a golau arian y lloer.

Mae'r lluniau hyn yn feichiog o sawl haen a phosibilrwydd a'u hawyr yn haenau o wahanol las o'r cobalt i'r asur.

Ceir ymdeimlad o'r Aifft hynafol, y cylchoedd cerrig a'u hud a'u hen atgofion. Dyw'r tylwyth teg ddim yn bell o'r darluniau ychwaith ac mae rhyw ymwybyddiaeth neu ysbrydoliaeth o oleuni a pherthyn a chysylltiad nid yn unig gyda'n daear ni, ond gyda'r bydysawd di-ddiwedd yr ydym yn rhan ohono.

Mae'r darluniau i gyd wedi eu tynnu yma yng Nghymru a Gareth wedi hyd yn oed ddal golwg ar yr 'awrora' yma, yn Eryri!

Hedd Wyn

Mae sawl cyfuniad cofiadwy; goleuni seren trwy law cofeb Hedd Wyn yn Nhrawsfynydd yn dod ag ystyr newydd i eiriau R Williams Parry am dristwch y bardd trwm dan bridd tramor. Mae ymdeimlad ysbrydol hyfryd yn perthyn i'r llun hwn. Rhyw obaith nad oedd popeth yn ddu.

Yn dilyn o hynny dyw hi ddim yn syndod imi wirioni wedyn ar ddarlun cylch y derwyddon a dynnwyd ym Mhenmaenmawr, gyda'r blaned Iau fel rhyw fath o negesydd goleuni a gobaith yng nghornel y llun.

Daw geiriau Hedd Wyn yn fyw wrth ochor y ffotograff:
Nid oes gennym hawl ar ddim byd
Ond ar yr hen ddaear wyw;
A honno sy'n anrhefn i gyd
Yng nghanol gogoniant Duw.

Darlun arall aiff 芒'ch gwynt yw'r un o Lyn Teyrn, Yr Wyddfa, na all geiriau wneud cyfiawnder ag ef.

Mae tair cerdd fechan ger hwn gan brofi ei bod yn bosib dianc i sawl byd ar yr un pryd drwy'r lluniau hyn.

Casgliad o sawl celfyddyd wedi ei osod yn berffaith rhwng dau glawr ar gyfer y Nadolig. Mae yna hud y gaeaf 芒'i eira gwyn, goleuni a gobaith a chip ar yr anhygoel yr un pryd.
Lois Eckley


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 主播大秀 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.