主播大秀

Sharon Morgan - yr hunangofiant

Sharon Morgan ar glawr y llyfr

31 Hydref 2011

Golwg ar hunangofiant Sharon Morgan, Hanes Rhyw Gymraes. Lolfa. 拢9.95. Dewis da iawn o luniau.

B没m yn edrych ymlaen at hunangofiant Sharon Morgan ers imi ddarllen un rhagorol Meic Povey ddwy flynedd yn 么l.

Yn hwnnw , talodd Meic deyrnged i Sharon ei gariad am ei roi ar ben ffordd yngl欧n 芒 sgiliau carwriaethol.

"Sharon, heb os, ddaru wneud dyn ohona i," meddai'r dramodydd a oedd, yn 么l ei gyfaddefiad ei hun, yn garwr trwsgl a di-lun cyn hynny.

Clawr y llyfr

Gan nad aeth o i ymhelaethu yr oeddwn i, a sawl un arall, bosib, wrth fy modd clywed mai un o hunangofiannau'r Nadolig hwn yw un Sharon ei hun, Hanes Rhyw Gymraes

Cyfle, bosib, i ddod i wybod mwy am fedrau rhywiol gan nad yw rhywun byth yn rhy hen i ddysgu.

Gwerth chweil

Yn ogystal 芒 bod yn un o actorion gorau Cymru y mae Sharon Morgan yn awdur llwyfan o fri hefyd ac mae ei chyfraniad dros y blynyddoedd i fyd y ddrama yn llwyr gyfiawnhau cyhoeddi hunangofiant ganddi.

Ac mae ganddi bethau gwerth chweil, a beirniadol, i'w dweud - a'u hystyried - am gyflwr y ddrama, theatr, actio a theledu yng Nghymru.

A hithau a chymaint o brofiad bydd Hanes Rhyw Gymraes o ddiddordeb i bawb sy'n ymddiddori yn y maes hwn.

Mae'n gyfle hefyd i ddod i adnabod Sharon Morgan ei hun yn well; dod i wybod am ei chefndir a'r fagwraeth a'i gwnaeth y ferch ag yw.

mae'n un sy'n ymwybodol iawn o gyfoeth ei gwreiddiau yng Nghwm Aman.

"Hanes 'y nheulu trwy ddau ryfel byd a dirwasgiad, mewn cwm o'dd yn bair crefyddol, addysgp;l a diwylliannol lliwgar, yn llawn s诺n a mwg, yw gwraidd fy hunaniaeth i," meddai ar ddalen gyntaf ei chofiant.

Hynafiaid

Mae'n olrhain y gwreiddiau teuluol yn ddiarbed bron yn y penodau cynnar ond er mor eithriadol ddiddorol yw darllen am lwybr teuluol sy'n golygu perthynas 芒 Ryan Davies; 芒 hen fodryb liwgar fyddai'n sefyll i wneud d诺r; a geni plentyn o flaen y t芒n ar yr aelwyd, torri'r cordyn a chario mlaen 芒 gwaith y dydd fe allai'r holl fanylder teuluol beri dryswch i rai.

Gall manylion achyddol syrthio i'r un fagl a lluniau gwyliau pobl eraill sydd o ddiddordeb angerddol i'r unigolyn sy'n gysylltiedig 芒 hwy ond braidd yn llethol i'r sawl sy'n edrych o hirbell.

Tybed ai fi fydd yr unig un i dybio y byddai'r rhan hon o'r llyfr wedi elwa ar fwy o naddu achos rhaid cyfaddef mai ar 么l y penodau cychwynnol hyn y dechreuodd yr hunangofiant symud i mi er iddo arafu fymryn weithiau gyda'r hyn ymdebygai yn gatalog o gynyrchiadau.

.

Er mwyn deall

Wrth gwrs, mae'n rhaid wrth rywfaint o'r cefndir hwn i ddeall y person yr ydym ni yn gyfarwydd 芒 hi. Mae llawer yn y cefndir hwn sy'n egluro ei phryderon a'i safiad dros hawliau'r fenyw er enghraifft a'r annhegwch a amlygir tuag at ferched mewn cymdeithas.

"Wrth feddwl am fywydau fy nghyn-neiniau a'u teuluoedd anferth, dwi'n teimlo fel syrthio ar 'y ngliniau i ddiolch am y bilsen," meddai ar ddalen 38.

Ac ar ddalem 117 meddai:

"O'dd gweld Mam, yn fenyw amldalentog, yn byw bywyd llawer rhy gyfyngedig i'w gallu, fel llu o rai eraill yn y pumdege, yn wers bwysig wrth i ddelfryd domestig y ffroge ffrili a'r jam sbynj ga'l ei gyflwyno fel pinacl uchelges benywaidd a'r rhwystredigaeth fydde hyn yn ei greu."

Methodd ei Mam a thorri'n rhydd o'r hualau er cymaint ei dymuniad:

"O'dd Mam-gu'n ymhyfrydu yn ei rheolaeth ar ei theyrnas ddomestig, tra bod Mam yn dirmygu'r domestig ac yn ei weld fel gwastraff amser pan allai rhywun fod yn gwneud rhywbeth llawer mwy diddorol a dwi wedi cofleidio'i hathroniaeth hi yn frwdfrydig," meddai Sharon

A dengys ei dewisiadau mewn bywyd sut y llwyddodd hi i gael ei thraed ei hun yn rhydd o'r cyffion a gyfyngai gymaint ar fywyd ei thylwyth mewn cymdeithas fwy gwrywaidd.

Ond fu hynny ddim yn rhwydd ac mae cyfres o fwy nag un perthynas a ddarfu a chariad gafodd ei hepgor wrth iddi wneud dewisiadau anodd.

Ie, er bod pethau wedi gwella efallai na ddigwyddodd hynny i'r graddau a ddymunai.

"Er i ni ennill ychydig o dir," meddai mewn anobaith, " mae patriarchaeth yn wydn ac fe ymladdodd gyda phob arf posib yn ei feddiant, gan olygu bod safonau dwbwl yn dal yn fyw ac yn iach yn 2011."

Deffroad cenedlaethol

Yr un mor ddifyr yw hynt deffroad gwleidyddol genedlaethol merch na roddai ddirfawr bwys ar werthoedd iaith a chenedl nes iddi hi a Si芒n Edwards - merch Raymond Edwards - ddod yn ffrindiau yn Ysgol Ramadeg y Frenhines Elizabeth.

Mae'r gyfrol yn deyrnged hael i Si芒n a dynnodd ei hymwybyddiaeth genedlaethol i'r wyneb.

"Ar y dechre ro'n in gwrthod yn l芒n 芒 siarad Cymraeg 芒 Si芒n. I fi cai'r diwylliant hwnnw ei gynrychioli gan agweddau hen-ffasiwn, cul ac amherthnasol. I berson o'dd yn ceisio ehangu ei gorwelion ym mhob ffordd bosib ro'dd hyn yn ymddangos yn gam am yn 么l," meddai ar ddalen 80.

Ond erbyn ymgyrch etholiadol hanesyddol Gwynfor Evans yng Nghaerfyrddin yn 1966 yr oedd y ferch ddi-hid yn genedlaetholwraig ac mae ei darlun o'r ymgyrch etholiadol honno yn un o rannau difyrraf y gyfrol gyda berw arbennig i'r sgrifennu.

Y theatr yn gyntaf

Gyrfa sy'n troi o gwmpas y theatr yw ei hun hi yn bennaf gyda chyfaddefiad clir mai dyna'r cariad yn hytrach na'r teledu er iddi wneud ei chyfraniad ar y sgrin fach hefyd.

Mae hanes ei chyfnod cychwynnol gyda'r hen Theatr Genedlaethol Cymru dan adain Wilbert Lloyd Roberts - un a grybwyllir gymaint o weithiau yn y llyfr - yn arbennig o ddifyr.

Yr oedd Sharon hefyd yn un o sylfaenwyr Theatr Bara Caws ac yn y bynyddoedd diwethaf trodd at sgrifennu hefyd gyda'i sioeau Shinani'n Siarad, Ede Hud a Holl Liwie'r Enfys wedi eu canmol ac fe gynhwysir sawl dyfyniad o'r ddwy olaf yn yr hunangofiant.

Rhai blynyddoedd

Wrth gyflwyno ei chyfrol adeg ei lansio dywedodd Sharon iddi gymryd "rhai blynyddoedd" i'w roi wrth ei gilydd.

"Ac ynddo dw i'n gweld merch ifanc ar frys wyllt, yn trio gwasgu popeth mewn a llyncu bywyd, dw i'n teimlo'n flinedig nawr mond wrth ddarllen amdani. Ond dw i ddim yn condemnio'r egni a'r brwdfryddedd ifanc hwn, dw i'n ei edmygu, yn ei weld yn ddoniol ac yn annwyl, ac yn beth hollol naturiol," meddai.

Mae'r gyfrol hefyd yn rhydd o hunan dyb a hunanganmoliaeth wrth iddi briodoli unrhyw lwyddiant i lwc.

"Yn enwedig ar ddechrau fy ngyrfa, mi roedd pobl yn cymryd risg yn fy nghastio i. Dw i yn wastad wedi bod eisiau gwneud yn dda, ddim i fod yn enwog nac i wneud arian ond i dyfu ac i ddatblygu," meddai.

"Dw i wedi edrych o'r newydd ar fy hanes a'm trywydd fy hun ac yn gobeithio y bydd pobol yn meddwl ei fod yn ddiddorol. Dyna'r oll dw i wedi wneud ydy adrodd fy stori bersonol fy hun ond yn y gobaith y gall eraill uniaethu 芒 fi neu fy mod yn agor rhyw ddrws yn rhywle i rhywrai," meddai.

O ie, a beth am Meic Povey, y disgybl diolchgar? Wel ydi, mae yntau yn cael ei enw yn oriel y cariadon. Bydd Sharon, yn diolch imi am beidio dyfynnu'r hyn sydd ganddi i'w ddweud. Efallai na fyddwch chi. Bydd yn rhaid prynu'r llyfr.
Glyn Evans


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 主播大秀 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.