主播大秀

T H Parry-Williams - argraffiad newydd o 'Cerddi'

Rhan o glawr y llyfr

15 Awst 2011

Gwerthfawrogiad o argraffiad newydd o Cerddi T H Parry-Williams. Rhagymadrodd gan Angharad Price. Gomer. 拢7.99.

Rwy'n dal i gofio yr union stafell lle cyfarfyddais i 芒 T H Parry-Williams gyntaf erioed.

Parry-Williams y bardd, hynny yw, nid y dyn ei hun achos ddigwyddodd mo hynny erioed. Ai peth da ynteu drwg oedd hynny, pwy sydd i ddweud?

I'r ifanc

Ystafell ddosbarth a gorchymyn gan fyfyrwraig ar ymarfer dysgu i bob un ohonom droi at y gerdd Hon 'yn y llyfr' a'r gerdd honno yn creu argraff nid yn unig oherwydd ei neges ganolog ond oherwydd ei ffordd o ddweud hefyd.

Olion ddaeth wedyn, - yn llyfr gosod yn y Chweched gyda'r cerddi yn y cefn a mwy o ap锚l ar y pryd na'r ysgrifau ar y cychwyn.

O'i wirfodd y trodd rhywun wedyn at gyfrolau fel Cerddi, Lloffion ac yn y blaen a dod i adnabod bardd oedd fel pe'n siarad yn uniongyrchol 芒 chi wrth ei ddiberfeddu ei hun a chreu darluniau trawiadol.

Er yr awgrym ar y pryd mai chwiw a berthynai i ieuengrwydd rhywun oedd gwirioni ar T H Parry-Williams ac y byddai rhywun 'yn tyfu allan ohono' ddigwyddodd hynny ddim yn fy achos i, yn ffodus iawn, ac y mae ei lais yn dal yn un i'w glywed.

Ac ym marddoniaeth Parry-Williams yr ydych yn clywed llais mewn ffordd arbennig iawn.

Argraffiad cain

Ychydig cyn yr Eisteddfod yn Wrecsam - lle'r enillodd y bardd ei ddwbl cyntaf yn 1912 - cyhoeddodd Gwasg Gomer argraffiad newydd eithaf cain o'r casgliad cyntaf o farddoniaeth y bardd, Cerddi - rhigymai a sonedau (1931).

Mae i'r argraffiad newydd hwn ragymadrodd gan y llenor a'r beirniad llenyddol, Angharad Price sy'n crynhoi'r gwaith fel hyn:

"Mae ymadroddion a llinellau a chwpledi llawer o'r cerddi . . . wedi dod yn rhan o wead yr iaith Gymraeg erbyn heddiw; daethant mor gyfarwydd inni ag adnodau o'r Beibl neu ddiarhebion . . ."

Wel, i rai ohonom beth bynnag.

A hithau yn gyfrol o gymaint ffresni a newydd-deb yr hyn nad yw rhywun bob amser yn ei gofio yw nad bardd ifanc mo'r awdur adeg ei chyhoeddi ond dyn canol oed "a chanddo dros ddeugain mlynedd o brofiad bywyd, heb s么n am ryw ddeng mlynedd ar hugain o brofiad barddoni".

Yn y cyd-destun hwnnw mae ei ap锚l at yr ifanc yn gymaint mwy o ryfeddod.

Dal i apelio

Yr oedd hynny yn 1931 wrth gwrs ac mae'n ddifyr gweld Angharad Price yn tystio yr erys yr ap锚l hyd yn oed heddiw.

"Gallaf innau dystio dros flynyddoedd o ddarlithio mai gwaith T. H. Parry-Williams, o blith holl feirdd yr ugeinfed ganrif . . . sydd yn dal i apelio rwyddaf at Gymry Ifanc yr unfed ganrif ar hugain," meddai.

Mae'n priodoli'r rhyfeddod hwn i'w "ddefnydd moel o iaith, a hefyd ei gyfuniad o sgeptigiaeth a chyfriniaeth".

Dyfynna Saunders Lewis ei enwi fel y "llenor pwysicaf ei ddylanwad ar feirdd a llenorion eraill a fu'n cyhoeddi eu gwaith yn yr un cyfnod".

Heb Parry-Williams roedd ef yn amau a fyddai "sonedau mawr" R Williams Parry neu Ysgubau'r Awen Gwenallt wedi bod yn bosib.

"Yn hanes barddoniaeth Gymraeg y mae i Parry-Williams le mor arbennig fel arloeswr ag y sydd i'w gyfoeswr Eliot yn hanes barddoniaeth Saesneg."

Casgliad cyflawn

Bu'n rhyfeddod i sawl un ohonom nad oes casgliad cyflawn o farddoniaeth y bardd eiconig hwn ar gael - cyhoeddwyd rai blynyddoedd yn 么l gasgliad o'i ysgrifau.

Mae hwn yn fater y mae Angharad Price hefyd yn ei gyffwrdd ond gan ddwyn dimensiwn ychwanegol i'r drafodaeth sef "y corff sylweddol" o farddoniaeth a hepgorwyd gan y bardd ei hun o'i gyfrol gyntaf, Cerddi.

"Mae hyn," meddai, "yn gwneud cyfrol gyntaf T. H. Parry-Williams yn gynnyrch yr hunan-sensoriaeth fwyaf llym yn hanes holl hanes llenyddiaeth Gymraeg."

Diarddelwyd swmp o gerddi Rhamantaidd o'i gyfnod yng ngholegau Aberystwyth a Rhydychen a rhai mwy arbrofol, cyfandirol fodernaidd, dyddiau Freiburg a Pharis.

"Heb s么n am gerddi gwrthryfelgar, gwrth-grefyddol, gwrth-filitaraidfd, dadrithiedig (a llac) cyfnod y Rhyfel Byd Cyntaf a'i adladd chwerw," ys dywed Angharad Price.

"Nes y daw dydd cyhoeddi casgliad cyflawn . . . boed i Cerddi ar ei newydd wedd fod, nid yn unig yn 'flaenffrwyth' yr hyn a ddaeth wedyn, ond yn 么l-ffrwyth y cyffro a'r arbrofi a aeth o'r blaen," meddai.

Diolch i Wasg Gomer am gyfrol gain ei gwedd, braf i'w thrafod, sy'n ychwanegiad at argraffiad cyffelyb a gyhoeddwyd eisoes o Dail Pren Waldo, yn yr un gyfres o glasuron.


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 主播大秀 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.