主播大秀

Am y Tywydd

Tywydd

Doethineb storm a hindda rhwng cawodydd!

Adolygiad Glyn Evans o Am y Tywydd - Dywediadau, rhigymau a choelion tywydd gan Twm Elias. Gwasg Carreg Gwalch. 拢12.

Hawdd credu na fyddai'r un sgwrs yn cychwyn o gwbl yng Nghymru oni bai ein bod ni'n gallu s么n am y tywydd.

Weithiau, yn hytrach na dweud sut mae hi (yn oer, yn boeth ac yn y blaen) mae'r sgwrs yn cychwyn gyda'r geiriau, "Be mae hi am wneud . . ."

Ar un adeg pan oedd mwy o bobl yn byw yn nes at natur a chanddynt yr hamdden i sylwi ar arwyddion naturiol fel mwg yn codi'n llinell syth o gyrn yn hytrach na tharo at y llawr neu ddail coed yn troi tu hwyneb allan yr oedd pawb yn hyddysg mewn arwyddion o sut byddai hi.

Clawr y llyfr Yr oedd hon yn duedd na fudodd gyda'r rhengoedd o gefn gwlad i'r dref.

Chlywch chi neb mewn tref yn darogan rhew ar sail y ffaith fod mwg ceir yn gymylau gwynion trwchus neu'n rhagweld diwrnod braf am fod colomennod yn clwydo'n wynebu'r dehau ar ymylon rhyw adeilad dinesig!

Bosib mai'r rheswm yw ei bod yn bwysicach i drigolion cefn gwlad wybod sut ddiwrnod fydd hi a thros y blynyddoedd - y canrifoedd yn wir - tyfodd pob math o chwedloniaeth tywydd.

Gwartheg yn gorwedd fel a'r fel, adar yn heidio fel hyn ac fel arall, cathod yn chwarae yr adeg a'r adeg ac yn y blaen.

Cyfrol sy'n corlannu'r chwedloniaeth honno yw un Twm Elias, Am y Tywydd - cyfrol sy'n cyflawni yr union hyn a addewir ar y clawr - s么n am y tywydd!

Yn y pen draw, rhestr 287 tudalen o arwyddion tywydd yw hi a'r awdur, bendith arno fo, heb fod yn rhy ddiog i lunio mynegai i'n cyfeirio i wahanol rannau o'r llyfr - pum dalen ohono.

Ac mae geiriau'r mynegai hwnnw gystal arwydd 芒 dim o amrywiaeth hyfryd y gyfrol: adlewyrchion, arogl yn cario, blew geifr, baromedr, byddigions Cricieth, cymylau, glaw tinwyn, gwallt y forwyn, llwybr awyren cicaion Jona, pryfed, s锚r cynffon a tanio milwrol ymhlith y pethau y cawn ein cyfeirio atyn nhw.

Glaw tinwyn, gyda llaw, yn law trwm " a yrrir yn donnau mawrion o flaen gwynt isel o'r de".

A thra'n s么n am law mae'n werth sylwi bod yna law Castell-nedd, glaw Cefn Sidan a glaw Llanrwst i wahaniaethu rhyngddyn nhw!

Ydi wir, o ddod 芒'r holl arwyddion ynghyd mae'r amrywiaeth yn un - wel, yn un amrywiol!

Man cychwyn

Y cylchgrawn difyr hwnnw, Llafar Gwlad yw man cychwyn y gyfrol. Yn hwnnw y bu Twm Elias yn sgrifennu am ddywediadau tywydd a chyhoeddi casgliadau ohonyn nhw "yn ddi-dor am 78 o rifynnau".

Ond chwarae teg iddo gwnaeth fwy na throsglwyddo'r colofnau hynny rhwng dau glawr gan iddo hefyd roi trefn ar yr amrywiol fathau o ddywediadau a'u categoreiddio - rhai yn rhagfynegi'r tywydd eraill yn ddywediadau wedi eu sylfaenu ar y tywydd er enghraifft.

Pwrpas y llyfr

Mae'n rhoi mewn cneuen bwrpas ei lyfr: "Cyflwyno arwyddion a choelion tywydd fel y'u cefais a'u dosbarthu mewn modd sy'n ein galluogi i'w gwerthfawrogi fel rhan hynod o bwysig a chyfoethog o'n llenyddiaeth werin."

Mae ymdrech hefyd i werthuso rhai o'r dywediadau gan fod "cywirdeb rhai mathau o arwyddion yn gallu bod yn bur amheus ar adegau i ddweud y lleiaf".

"Rhai," meddai, "yn eithriadol o dda a defnyddiol ac eraill mor anghyson nes eu bod yn dda i fawr ddim," meddai.

Yn wir, yn achos y coelion hynny sy'n darogan tywydd y tymhorau dywed:

"Prin iawn yw'r rhai sy'n gallu dal eu tir pan y'u profir yn erbyn ystadegau tywydd y tair canrif ddiwethaf . . . llawer iawn ohonynt yn gysylltiedig 芒 defodau tymhorol anhygoel o hen oedd, yn aml, 芒 fawr ddim i'w wneud 芒'r tywydd mewn gwirionedd."

Egluro na wna rhai o'r dywediad ddim mwy "na disgrifio cyflwr y tywydd ar y pryd" ond er efallai'n gymharol ddiwerth at iws bob dydd buan y mae rhywun yn sylweddoli fod y rheini o gryn ddiddordeb hefyd o safbwynt eu hathrylith gwerin a'u cyfoeth iaith.

Lle pwysig

Ond fe ymddengys fod mwy o werth na hynny hyd yn oed i rai arwyddion:

"Mae lle pwysig o hyd i'r arwyddion traddodiadol oherwydd, er cymaint y mae arwyddion y Swyddfa Dywydd wedi gwella o ran eu rhagolygon cyffredinol, maent yn dal yn ddiffygiol yn eu manylder am yr hyn all ddigwydd yn lleol.

"Felly os ydych yn meddwl am roi'r dillad ar y lein neu fynd i gerdded ar y mynydd y peth callaf i'w wneud yw ystyried y rhagolygon cyffredinol oddi ar y teledu ac yna manylu arnynt drwy ddarllen eich arwyddion lleol. Os yw'n bygwth cawodydd ar y teledu, o leia fe fedrwch eu gweld yn dod, neu beidio, wrth edrych ar yr awyr," meddai.

Mae'r gyfrol wedi ei rhannu yn chwe phennod i gyd gyda sawl is adran; Arwyddion yr amseroedd; Arwyddion o fyd natur; Y Gofod, y Ddaear a'r Awyr; Darllen y Cymylau; Y Gwynt ac yn olaf, Glaw a Hindda, Eira Oerfel a Thes.

Y cyfan gyda sylwadau eglurhaol gan yr awdur.

Nid o'i chymryd o'i chwr y mae cael y gorau o'r gyfrol hon ond o grwydro'n ddiamcan yma ac acw gan ryfeddu weithiau at groesddweud sy'n digwydd, at amrywiaethau lleol o ran ardal ac at gyfoeth a dyfeisgarwch yr ymadroddi.

Cyfrol hyfryd i'w chael mewn safle cyfleus ar unrhyw silff lyfrau a throi ati pan nad yw'n dywydd mynd allan.


Mwy

A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 主播大秀 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.