主播大秀

Ifor ap Glyn - 'Waliau'n Canu'

Rhan o glawr y llyfr

28 Tachwedd 2011

Adoygiad Janice Jones o Waliau'n Canu gan Ifor ap Glyn. Gwasg Carreg Gwalch. tt. 13. 拢7.50

Waliau'n Canu yw'r pedwerydd casgliad o gerddi Ifor ap Glyn i gael ei gyhoeddi. Mae'r gyfrol hon, fel y dywed y broliant ar gefn y llyfr, yn cynnwys "[]degawd o ganu", ac yn cwmpasu'r cyfnod 2008-9, pan oedd Ifor ap Glyn yn Fardd Plant Cymru.

Mae clawr y gyfrol yn denu sylw ac mae nifer fawr o ffotograffau wedi eu cynnwys yn y gyfrol, er nad yw'r cysylltiad rhwng llun a cherdd bob amser yn amlwg.

Wedi dweud hynny, mae eraill o'r ffotograffau yn drawiadol ac sicr yn ychwanegu dimensiwn arall at y gwaith.

Oddeutu trigain o gerddi sydd yn y casgliad, ac mae amrywiaeth eang o bynciau a them芒u yn mynd 芒 bryd y bardd.

Ceir esboniad o'r cyd-destun gydag ambell gerdd ac mae hynny i'w groesawu.

Clawr y llyfr

Mae yma gerddi i Gymru a'r Gymraeg, gyda nifer o'r rhain yn talu teyrnged i fawrion yr iaith, megis Golau yn y gwyll sy'n canu clodydd dawn "eu Gwydion" i ddifyrru cenedlaethau o blant Cymru.

Mae'r gerdd sy'n rhoi i'r gyfrol ei theitl yn cofio Iwan Llwyd:
Ddoe'n y Babell L锚n,
o'i glywed yn diasbedain
yng nghynteddau gwag y cof,
roedd y waliau'n canu.

Nid cymwynaswyr amlycaf yr iaith yw'r unig rai y dethlir eu cyfraniad gan Ifor ap Glyn. Mae'r gerdd Campfa Russ Williams, Caerwys yn disgrifio dawn un sy'n hyfforddi bocsio Thai:
Gorau dwrn, dwrn sy'n agor
yn blodeuo'n hael,
yn hau'i gelfyddyd.

Ceir cyfres o gerddi wedi eu hysbrydoli gan deithiau'r bardd i'r Unol Daleithiau i ymchwilio i hanes Cymry America, ac yn sicr mae'r lluniau a gynhwysir gyda'r cerddi hyn yn ychwanegu at ddealltwriaeth o'r canu.

Gyda'r gorau o'r cerddi argraffiadol, teimladwy (ond heb fod yn sentimental) hyn yw Tu Draw i'r Potomac am Fynwent Arlington ble:
Mae adlais yn y rhesi beddi hyn
o'r lluoedd yn cysgu fel llwyau
yn ffosydd y gaea' gynt;
claddwyd sawl fory fa'ma.

Yn ogystal 芒'r colledion hyn, mae'r bardd, mewn cerddi megis Sul y Cofioa Hwiangerdd yn cofio am y milwyr sydd yn dal i golli eu bywydau mewn rhyfeloedd hyd heddiw.

Cynhwyswyd nifer o gerddi a luniwyd gan Ifor ap Glyn ar y cyd 芒 disgyblion o sawl ysgol yn ystod ei gyfnod yn Fardd Plant Cymru. Ysgrifennwyd Tomenydd ar y cyd 芒 phlant Ysgol Dolbadarn, a'r gerdd 1912 overture - Ysgol Beddgelert gyda phlant yr ysgol honno, ble y bu taid y bardd yn un o'r disgyblion cyntaf.

Mae yma gerddi wedi eu hysgrifennu yn dilyn ymweliad y bardd 芒 gwlad Pwyl, a cherddi'n deillio o Daith y Saith Sant yn 2002.

Yn ogystal, mae'r bardd yn trafod digwyddiadau cyfoes megis yn y gerdd ddychanol Drudwen sy'n ymateb i eiriau Paul Starling, gohebydd yr ymadawedig Welsh Mirror, pan ddisgrifiodd yr Eisteddfod Genedlaethol fel "Festival of Fear and Hatred".

Yn y gerdd Galwad disgrifir sefyllfa y mae'n debyg y bydd mwyafrif darllenwyr yn gyfarwydd 芒 hi, sef cael ein gorfodi i wrando ar hynt a helynt ein cyd-deithwyr wrth iddynt adrodd eu hanes (mewn llais uchel gan amlaf) ar ffonau symudol ar drenau.

Ys dywed y bardd: "Twnel ddaw; a dwi'n llawen . . .".

Mae'r casgliad hwn yn cynnwys y llon a'r lleddf, y digrif a'r dwys. Cyflwynir y cyfan trwy gyfrwng iaith hygyrch, naturiol a chyhyrog.

Penrhydd yw mwyafrif y cerddi gydag ambell eithriad fel y cywydd i Namrata Gupta.

Mae gafael y bardd ar y gynghanedd ac ar rhythmau naturiol iaith yn amlwg gydol y gyfrol drwyddi draw.

Cyfrol i wneud i ddarllenydd chwerthin a chrio am yn ail ac yn sicr casgliad sy'n cynnig digon i gnoi cil arno.
Janice Jones


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 主播大秀 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.