主播大秀

Alun Ceri Jones

Enw:
Alun Ceri Jones.

Beth yw eich gwaith?
Cyhoeddwr.

Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
Cyhoeddwr teledu, dylunydd, golygydd.

O ble'r ydych chi'n dod?
Caerdydd.

Lle鹿r ydych chi'n byw yn awr?
Tresaith.

Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?
Do.

Beth wnaeth ichi sgrifennu eich llyfr diweddaraf - a allwch ddweud ychydig amdano?
Er mai addasu teitlau o ieithoedd erail fydda i fel arfer, roedd angen llawer iawn o waith ymchwil i mewn i gyfrol Chwedl Arthur sydd newydd ei chyhoeddi.

Llyfr Ffrangeg oedd hwn yn wreiddiol, ond yn defnyddio hanes Cymreig fel testun. Wrth addasu mi fues i'n pori trwy hen gyfrolau a gweithiau academaidd er mwyn sicrhau bod y fersiwn Gymraeg mor driw 芒 phosib i'r ffynonellau gwreiddiol - fel yr Historia Brittonum, Llyfr Du Caerfyrddin, y Mabinogi ac ati - fel na fyddai neb yn ffeindio bai gormodol ar ein dehongliad ni o'r stori!

Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?
Rwy wedi addasu cyfres Y Derwyddon a Penbleth Dynol Ryw i oedolion, Y Triawd Amser a M么r-ladron y Carib卯, Llywelyn Fychan Ysgol yr Ynfydion i blant, cyfres Asterix, a chyd-addasu Lewsyn Lwcus - y ddau ola ar gyfer darllenwyr o bob oed!

Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
Mops - ond dwi ddim yn credu i mi erioed ei ddarllen o glawr i glawr, ond dyna'r llyfr roedd pawb yn y dosbarth eisiau ei ddarllen. R么n i'n arbennig o hoff o Trysor y M么r-ladron gan T Llew Jones, llyfrau Asterix, C S Lewis, a Dr Dolittle gan Hugh Lofting. Roedd gen i hefyd ddau lyfr Thomas yr Injan Danc, sef y cyfieithiadau gwreiddiol o'r 60au o Tomos y Tanc. Arbennig o dda.

A fyddwch yn edrych arnynt yn awr?
Dwi ddim yn gwybod lle mae Mops. Mae fy nghopi gwreiddiol o Trysor y M么r Ladron yn dal gen i (ynghyd 芒'r siacel lwch); rwy'n edrych ar Asterix o dro i dro; dwi heb edrych ar C S Lewis ers tro na chwaith Dr Dolittle. Mae fy llyfrau Thomas dal gen i hefyd.

Pwy yw eich hoff awdur?
Alan Massie a David Wishart.

A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?
Mae Asterix wedi gadael ei 么l arna i yn anferthol. Fe ddysges i lot fawr o Ffrangeg trwy ddarllen Asterix, ac wrth gwrs mae be dwi'n neud nawr yn deillio o Asterix.

Pwy yw eich hoff fardd?
Does gen i ddim hoff fardd. Ond dwi'n hoffi swn barddoniaeth ar lafar.

Pa un yw eich hoff gerdd?
O diar, does gen i ddim hoff gerdd chwaith.

Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
"Ni fydd eu Lladin ar fy llw / na llon na lleddf tw-wit tw-hw."

Hefyd:
"Mae cystudd rhy brudd i'm bron / hyd f'wyneb rhed afonydd heilltion / collais Elin liw hinon / Fy ngeneth oleubleth lon."

A: "Poni welwch chwi hynt y gwynt a'r glaw"

Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
Fy hoff ffilm yw Casablanca. Fy hoff raglen deledu yw Rome (cyfres 1) (neu unrhyw raglen lle mae'r teulu i gyd yn dod i eistedd gyda'i gilydd i'w gwylio).

Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
Fy hoff gymeriad yw Admiral Morgan yng nghyfresi thriller Patrick Robinson gan ei fod e'n Americanwr mor hunan-bwysig, rhwysgfawr, dros ben llestri.
Does gen i ddim cas gymeriad - er doeddwn i ddim yn hoffi Gordon yng nghyfres Tomos y Tanc.

Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?
Digon i'r dydd ei ddrwg ei hun.

Pa un yw eich hoff air?
Bendigedig.

Pa ddawn hoffech chi ei chael?
Y ddawn i ddweud, "Na".

Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?
Hael,
Trwyadl,
Diamynedd.

A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
Nagoes.

Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi鹿n ei edmygu fwyaf a pham?
Dadcu Llambed, am fod yn grefftwr mor rhagorol.

Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?
Mi fasen i wedi bod wrth fy modd yn byw yn Rhufain adeg y Rhufeiniaid (ond dim ond pe bai gen i'r modd i fyw yn gyffyrddus).

Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
Gwrtheyrn.
"Pam?"

Pa un yw eich hoff daith a pham?
Y daith sha thre - achos dyna lle mae'r bobol sy bwysica i fi (ar wah芒n i Daniel sy yn y coleg).

Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Cinio dydd Nadolig Linda fy ngwraig.

Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Gweithio ychydig yn llai.

Pa un yw eich hoff liw?
Piws.

Pa liw yw eich byd?
Gwyn.

Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
Fod pobol yn gyrru ar gyflymdra derbyniol 9i fi).

A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
Oes; llyfr arall yng nghyfres y Triawd Amser.

Beth fyddai'r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith arall?
Un tro...


Mwy

A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 主播大秀 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.