主播大秀

B Si芒n Reeves yn ateb ein holiadur

B Sian Reeves

14 Gorffennaf 2009

I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i (Saesneg) am gyfarwyddiadau.

  • Enw:
    Bethan Si芒n Reeves


  • Beth yw eich gwaith?

  • Cyfieithydd.

  • Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?

  • Cyfryngi cyn magu teulu, yna gwraig t欧 ac athrawes.

  • O ble'r ydych chi'n dod?

  • Caerdydd.

  • Lle'r ydych chi'n byw yn awr?

  • Aberhonddu.

  • Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?

  • Ar adegau.

  • Beth wnaeth ichi sgrifennu eich llyfr diweddaraf?

  • Y syniad bod yna ysbrydoliaeth anweledig o ryw fath sy'n ysgogi gwir athrylith. Cawn ein gadael gyda'r gelfyddyd ond yn aml, dydyn ni ddim yn gwybod beth na phwy oedd yr ysbrydoliaeth a'i ysgogodd.

  • Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?

  • Wedi cyhoeddi stori fer yn Yn Nes At Baradwys (Gwasg Carreg Gwalch) - roedd hon yn fuddugol yng Nghystadleuaeth Stori Fer Radio Cymru.

  • Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?

  • Teulu'r Cwpwrdd Cornel.

  • A fyddwch yn edrych arno'n awr?

  • Na dim ers i fy mhlant gyrraedd eu harddegu - ro'n i'n darllen hanes Tedi a Bwni Fach iddyn nhw pan oedden nhw'n fach.

  • Pwy yw eich hoff awdur?

  • Caryl Lewis, DJ Williams, Marion Eames, Charlotte Bronte, Tracey Chevalier.

  • A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?

  • Girl With a Pearl Earing - Tracey Chevalier.
    The Great Gatsby gan F Scott Fitzgerald.

  • Pwy yw eich hoff fardd?

  • Dafydd ap Gwilym.

  • Pa un yw eich hoff gerdd?

  • Mis Mai.

  • Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?

  • Dechreuad mwyn dyfiad Mai.

  • Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?

  • Ffilm - Dead Poets Society; Elizabeth.
    Teledu - House.

  • Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?

  • Hoff gymeriad: Mr Rochester Jane Eyre, Charlotte Bronte)
    Cas gymeriad: Mrs Danvers (Rebeca Daphne du Maurier)

  • Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?

  • Ni wnawn, wrth ffoi am byth o'n ffwdan ff么l,
    Ond llithro i'r llonyddwch mawr yn 么l. (THPW)

  • Pa un yw eich hoff air?

  • Lol.

  • Pa ddawn hoffech chi ei chael?

  • Y gallu i siarad llu o ieithoedd yn rhugl.

  • Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?

  • Mynd ar wib.

  • A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?

  • Anghofus.

  • Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi鹿n ei edmygu fwyaf a pham?

  • Ar hyn o bryd Barak Obama, am iddo ddal sylw'r byd er gwaethaf pob rhwystr.

  • Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?

  • Gydag Owain Glynd诺r pan gipiodd e gastell Aberhonddu.

  • Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?

  • Dafydd ap Gwilym. Oes gen ti blant?


  • Pa un yw eich hoff daith a pham?

  • O fy nghartref gwledig presennol dros y Bannau at fy hen gartref dinesig i weld fy rhieni.

  • Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?

  • Cyri a reis.

  • Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?

  • Ysgrifennu; sgwrsio gyda ng诺r mewn cornel heulog o'r ardd gyda gwydraid o Chenin Blanc.

  • Pa un yw eich hoff liw?

  • Leim gr卯n.

  • Pa liw yw eich byd?

  • Amryliw.

  • Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?

  • Bod Addysg Cyfrwng Cymraeg yn cael ei rheoleiddio gan y Cynulliad ac nid y Cynghorau Sir. Efallai byddai plant Powys yn cael mwy o chwarae teg wedyn.

  • A oes gennych lyfr arall ar y gweill?

  • Mwy fel pelen o wl芒n nac ar y gweill ar hyn o bryd.

  • Beth fyddai'r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith arall?

  • Mae fy mrawddegau agoriadol yn newid fel y tywydd. Taswn i'n ysgrifennu un i lawr nawr, mi faswn eisiau ei newid erbyn i hwn gael ei gyhoeddi.

Gorffennaf 2009


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 主播大秀 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.