主播大秀

Delyth Morgans

Gellir clicio i wrando ar Delyth Morgans yn cael ei holi wedi darllen yr atebion hyn.

Enw:
Delyth Gwenllian Morgans.

Dwedwch ychydig am Cydymaith Caneuon Ffydd. Beth yw y cynnwys a soniwch am y dasg o gasglu gwybodaeth?
Mae'n gyfrol sy'n cynnig gwybodaeth am bob emyn, emyn-d么n, emynydd, cyfieithydd a chyfansoddwr sy'n y llyfr cydenwadol, Caneuon Ffydd. Ceir hefyd ysgrif sy'n crynhoi hanes emynyddiaeth yng Nghymru.

Treuliais dair blynedd a mwy yn pori mewn llyfrau, cyfeirlyfrau, cyfnodolion a gwefannau, ac yn cysylltu ag emynwyr a chyfansoddwyr yng Nghymru. Gallwn fod wedi treulio blynyddoedd lawer eto yn cribinio mwy o wybodaeth a holi hwn a'r llall. Fel gyda phob gwaith ymchwil, cyfrol amherffaith ac anghyflawn yw'r Cydymaith hwn.

Beth oedd yr wybodaeth fwyaf syfrdanol ichi ei ganfod?
Sylweddoli mai dim ond 10 oed oedd Euros Rhys Evans yn cyfansoddi'r d么n Dod ar fy mhen.

A oes gennych hoff emyn ac emynwr - dywedwch ychydig am eu cefndir?
Hoff emyn: mae'n dibynnu ar amgylchiadau a theimladau, ond un y byddaf yn troi ato dro a thrachefn yw emyn Thomas Jones o Ddinbych, Mi wn fod fy Mhrynwr yn fyw.

Emyn cadarn sy'n datgan argyhoeddiad ac ymgysegriad, ac mae'r briodas rhwng y geiriau a'r d么n 'Trewen' yn gwbl wefreiddiol.

Hoff emynydd: Williams Pantycelyn, am fod ei emynau yn Feibl-ganolog a Christ-ganolog ac nad ydyn nhw'n dyddio o gwbl.

Ydych chi'n cofio'r emyn cyntaf ichi ei ddysgu erioed?
Fel yr rhan fwyaf o blant, Iesu tirion, gw锚l yn awr, mae'n si?r.

Beth sy'n gwneud emyn da?
Profiad. Hynny yw, profiad yr emynydd o rym y Duw byw, datgan yr argyhoeddiad Cristnogol, a'r gallu i roi mewn geiriau brofiadau'r Cristion cyffredin (a hynny fel unigolyn neu'n rhan o gynulleidfa).

Pa emyn gyfansoddwyd dan yr amgylchiadau rhyfeddaf?
Fe'm rhyfeddwyd fod cymaint o emynau yn ganlyniad i alar a dioddefaint a salwch. Enghreifftiau yw Mae Duw yn llond pob lle (David Jones, Treborth), O fy Iesu bendigedig (Eben Fardd), ac emyn Saesneg George Matheson, O love that wilt not let me go.

Er i'r dynion hynny brofi trallod a phrudd-der, nid dyna ddiwedd y g芒n; yn hytrach, maen nhw'n canu am yr ymgeledd, y gobaith a'r hyder a dderbynion nhw o bwyso ar yr Arglwydd Iesu Grist.

Oes yna emynydd annisgwyl yn y casgliad?
Does neb wedi fy nharo i fel emynydd cwbl annisgwyl. Ond efallai ei bod hi'n syndod gan rai i weld gwaith T. H. Parry-Williams mewn llyfr emynau - er mai cyfieithu a wnaeth, yn hytrach na llunio emyn - o gofio'r teimladau a fynegwyd ganddo mewn cerddi fel Yr Esgyrn Hyn, Nefoedd a Dychwelyd.

Beth yw'r llinell neu gwpled emynyddol sy'n rhoi'r mwyaf o wefr ichi?
Euogrwydd fel mynyddoedd byd
Dry'n ganu wrth dy groes.
(Williams Pantycelyn)

Mae'r geiriau syml hyn yn f'atgoffa fod Iesu Grist a'i aberth ar Groes Calfaria yn ddigon i droi pob gofid a bai ac euogrwydd yn g芒n o ddiolch ac o lawenydd.

Ydi emynau yn berthnasol ac o arwyddoc芒d y dyddiau hyn?
Ydyn, yn ddi-os - fel mynegiant o'n ffydd yn y Duw digyfnewid a'n profiad ohono. Yr emyn hefyd yw cyfrwng defosiwn ac 'eicon crefyddol' llawer ohonom ni'r Cymry.

Beth yw eich gwaith bob dydd?
Swyddog Cyfathrebu Undeb yr Annibynwyr.

Par her sydd i'r swydd y cyfnod arbennig hwn o drai crefyddol?
Ydi, mae'n gyfnod o drai yn ein heglwysi; dyw mynd i'r capel neu'r eglwys, dilyn Iesu Grist a siarad amdano ddim yn 'norm' bellach. Felly yr her i bob un sy'n gweithio yn y maes Cristnogol yw dangos i bobl fod Iesu Grist a'i Efengyl yn berthnasol iddyn nhw.

Fy ngwaith penodol i yw rhannu gwybodaeth a newyddion am yr eglwysi, am y ffydd ac am weithgarwch yr Undeb. Ac er ein bod ni'n profi cyfnod o drai crefyddol, rhaid diolch fod Duw yn dal i alw gweithwyr i'w winllan.

Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
Ymchwilydd i baratoi Cydymaith Caneuon Ffydd o 2002 hyd 2005. Wedyn bues i'n gweithio i'r Cyngor Llyfrau (yn yr Adran Grantiau a'r Adran Farchnata), cyn ymuno 芒 staff Undeb yr Annibynwyr ym mis Mai 2006.

O ble'r ydych chi'n dod?
Fferm Blaenfallen uwchlaw Dyffryn Aeron, Ceredigion.

Lle'r ydych chi'n byw yn awr?
Aberystwyth.

Pwy yw eich hoff awdur yn gyffredinol?
Ffuglen: Daniel Owen - dawn naturiol i adrodd stori a phortreadu cymeriadau.

Ffeithiol: D Densil Morgan - gallu i ysgrifennu'n rhwydd a chyflwyno hanes yn ddiddorol.

A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?
Yn ogystal 芒'r Beibl (yn enwedig Testament Newydd y Gideoniaid), y llyfr wnaeth ddyfnhau fy mrwdfrydedd ym myd yr emyn (ac a fu'n help hefyd i ddyfnhau fy mhrofiad Cristnogol) oedd Dechrau Canu, E. Wyn James.

Pwy yw eich hoff fardd?
Dic Jones.

Pa un yw eich hoff gerdd?
'Gwanwyn', Dic Jones.

Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
Mae'r gwaed a redodd ar y groes / o oes i oes i'w gofio.
(Robert ap Gwilym Ddu)

Mae s?n y geiriau'n ychwanegu at eu neges.

Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
Ffilm: y comedi Johnny English.

Teledu: ar hyn o bryd, Strictly Come Dancing ac X Factor.

Ar S4C, mae unrhyw beth gyda Dai Llanilar neu Bethan Gwanas yn si?r o blesio. Rwyf hefyd yn hoff o gyfresi drama; Y Palmant Aur oedd yr orau erioed imi ei gwylio.

Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
Hoff: Esther yn Y Llyffant (Ray Evans), oherwydd ei diniweidrwydd a'i sensitifrwydd.

Cas: Judy yn Martha, Jac a Sianco (Caryl Lewis), portread da o Saesnes hunanol nad yw'n deall dim am hanfod teuluoedd cefn gwlad.

Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?
1 Ioan 4:10: 'Yn hyn y mae cariad: nid ein bod ni'n caru Duw, ond ei fod ef wedi ein caru ni, ac wedi anfon ei Fab i fod yn aberth cymod dros ein pechodau.'

Pa un yw eich hoff air?
Perthyn.

Pa ddawn hoffech chi ei chael?
Y gallu i werthfawrogi celf fodern.

Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?
Cyfeillgar
Sensitif
Gwerinol

Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi鹿n ei edmygu fwyaf a pham?
Dad a mam - am bob arwydd o gariad ac o gefnogaeth a gaf.

Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?
Diwygiad Llangeitho, 1762. Byddai'n gr锚t cael bod yn rhan o gyffro ysbrydol gwerin Sir Aberteifi, a chael gwrando ar bregethu ysgubol Daniel Rowland.

Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
Ieuan Gwyllt.
"Help! Beth wnawn ni 芒 chanu cynulleidfaol heddiw?"

Pa un yw eich hoff daith a pham?
Y daith drwy Dregaron i Soar y Mynydd a Llyn Brianne - oherwydd y golygfeydd, y tir agored iachus, a'r teimlad nad yw amser yn cyfrif wrth oedi yn y capel syml.

Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Cyri poeth a reis, ac wedyn cacen siocled neu gacen gaws i bwdin.
Ddim eto.

[an error occurred while processing this directive]

Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden? Fyddwch chi'n llunio emynau?
Na fyddaf.
Rwy'n hoff o ddarllen, gwneud sudoku a gwrando ar sawl math o gerddoriaeth, yn ogystal 芒 chanu'r piano a'r organ (a'r delyn hyd at fy nyddiau coleg).

Bydd sawl Sadwrn yn mynd i feirniadu mewn eisteddfodau, a sawl Sul yn mynd i bregethu ac i arwain cymanfaoedd canu.

Rwy'n hoff o gerdded a helpu ar fferm ddefaid fy rhieni.
Mae gen i ddiddordeb hefyd mewn ceir 4x4, cyfrifiaduron a 'gadgets' ... hob茂au drud, gwaetha'r modd!

A oes gennych lyfr arall ar y gweill?


Mwy

A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 主播大秀 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.