主播大秀

Dewi Pws

Enw?
Dewi Pws

Beth yw eich gwaith?
Actor.

Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
Cyflwyno, Chwarae mewn bandie, "spot welding" a br茂dio moch yn Israel.

O ble'r ydych chi'n dod?
Treboeth, Abertawe.

Lle'r ydych chi'n byw yn awr?
Ar yr A470 rhan fwyaf o'r amser (Caerdydd a'r Felinheli).

Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?
Na - ar wah芒n i chwaraeon a'r noson gynta' 'na 'da Carol Davies 4C.

Dwedwch ychydig am eich llyfr diweddaraf?
Llyfr teithio yn olrhain y teithie 'ma Alun, Rhian a finne wedi neud dros y byd. Lyn Ebenezer sy wedi ei sgrifennu yn seiliedig ar dapie Byd Pws Mae'n llawn o lunie topless felly ewch allan i'w brynu nawr (Fo a Fi Gyda'i Help Hi- Gwasg Carreg Gwalch).

Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?
Llyfr i blant dan gant (Y Lolfa) a Theleri Thwp (Gwasg Gwynedd).

Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
Llyfre "William" gan Richmal Crompton.

A fyddwch yn edrych arno'n awr?
Yn dal i'w ddarllen nawr.

Pwy yw eich hoff awdur?
J.R.R. Tolkein a Joseph Heller.

A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?
Seven years in Tibet gan Heinrich Herrer.

Pwy yw eich hoff fardd?
Y "Mersey Poets" - Roger McGough, Adrian Henry, Brian Patten. Hefyd Wordsworth a Ceiriog, Dylan Thomas a fi!

Pa un yw eich hoff gerdd?
The Highwayman gan Alfred Noyce.

Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
A'r n么s a fu yn Ronsyfal

a hefyd:
With Annie gone,
whose eyes compare
with the morning sun?
Not that I did compare,
But I do compare
Now that she's gone.
(Leonard Cohen).

Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
Lord of the Rings.
Scrum V.

Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
Hoff gymeriad: Yossarian, Catch 22.
Cas gymeriad: Tweetie Pie

Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?
Deuparth gwaith yw ei ddechre ac hefyd "os ychi byth mewn trwbwl - triwch ddod m芒s ohono fe."

Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?
Tipyn o dwat.

A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
Dim dyfalbarhad.

Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi'n ei edmygu fwyaf a pham?
Scott Gibbs, am ei gais yn erbyn y Saeson yn 1999.

Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?
Curo'r Saeson yn 1999.

Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
Helen o Troy - "Ti'n ffansio un bach cwic?"

Pa un yw eich hoff daith a pham?
Fy hoff daith yw mynd gartre, ond w芒c i'r Fic ne'r Gardd F么n yn neis hefyd.

Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Poppadums, Chutneys, Onion Bahjee, Beef Vindaloo, wyth peint o lagyr ag 'After 8'.

Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Cerdded, rhedeg, beicio, mynydda, golffio, yfed.

Pa un yw eich hoff liw?
Coch dwfn, ac oren dwfn.

Pa liw yw eich byd?
GLAS.

Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
Bo pawb negyddol yn gorfod mynd i fyw i Sir F么n.

A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
"Sut i guro'r breathalyzer ac i ddilyn

Beth fyddai'r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith llenyddol arall?
Gwenodd y Mother Superior yn wallgo wrth estyn am y gannwyll - roedd heno'n mynd i fod yn noson fawr...


Mwy

A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 主播大秀 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.