主播大秀

Elin Llwyd Morgan

Enw?
Elin Llwyd Morgan

Beth yw eich gwaith?
Cyfieithydd (yng ngholeg NEWI, Wrecsam).

Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
Gweithio yn S? M么r M么n (y job wyliau orau erioed!); gohebydd papur newydd (papurau'r Herald); golygydd gwasg Y Lolfa; ymchwilydd teledu; cyfieithydd. Adolygydd, colofnydd.

O ble'r ydych chi'n dod?
Mi ges i 'ngeni ym mhentre Cefn Bryn Brain rhwng Brynaman a Chwmllynfell, a'm magu yn ardal Aberystwyth a Sir F么n.

Lle'r ydych chi鹿n byw yn awr?
Glyn Ceiriog, ger Llangollen.

Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?
Rhannau ohoni, fel dosbarth un a'r chweched dosbarth (oedd o fewn yr un uned yn Ysgol David Hughes, Porthaethwy).

Dwedwch ychydig am eich llyfr diweddaraf?
Nofel gymdeithasol efo elfen o nofel dditectif ynddi, sydd hefyd yn s么n am awtistiaeth. 'Oh what a tangled web we weave,' chwedl Syr Walter Scott.

Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?
Tafarnau Cymru; The Seven Wonders of Wales efo'r ffotograffydd Ron Davies; Duwieslebog (cyfrol o farddoniaeth yng nghyfres y Beirdd Answyddogol); Rhwng y Nefoedd a Las Vegas, fy nofel gynta.

Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
Charlotte's Web, E.B. White.

A fyddwch yn edrych arno'n awr?
Mae gen i gopi, ond tydw i heb ei ailddarllen.

Pwy yw eich hoff awdur?
Graham Greene; Ian Rankin; Robert Wilson; Islwyn Ffowc Elis. Ond ar y cyfan, llyfrau unigol sy'n mynd a 'mryd i yn hytrach nag awduron unigol.

A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?
The Catcher in the Rye, J.D. Salinger.

Pwy yw eich hoff fardd?
R.S. Thomas.

Pa un yw eich hoff gerdd?
Nifer gan R.S. Thomas. Hefyd y gerdd gan e.e.cummings sy'n dechrau 'somewhere I have never travelled, gladly beyond any experience...' glywais i hi gynta yn y ffilm Woody Allen, Hannah and her Sisters, a mynd i'r llyfrgell i chwilio amdani wedyn.

Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?
'Duw a'm gwaredo, ni allaf ddianc rhag hon,' T.H. Parry-Williams.

Pa un yw eich hoff ffilm a rhaglen deledu?
Nifer, yn eu plith Some Like It Hot, The Last Seduction, Lost in Translation. Ar y teledu, Twin Peaks, Fawlty Towers, Blackpool, ac yn Gymraeg C'mon Midffild, Talcen Caled, Con Passionate.

Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
Hoff - Holden Caulfield yn The Catcher in the Rye. Cas - Mrs Danvers yn Rebecca, Daphne du Maurier.

Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?
Gorau cyfaill, llyfr da.

Pa un yw eich hoff air?
Nid 'joio', yn sicr. Na 'hys-bys'.

Pa ddawn hoffech chi ei chael?
Gwneud arian mawr yn sgil sgwennu.

Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?
Llyfrbry.
Beirniadol.
Aflonydd.

A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
Gormod o bethau i'w henwi.

Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi'n ei edmygu fwyaf a pham?
Pobol gyffredin sy'n goresgyn pob math o galedi yn eu bywydau.

Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?
Joel yn mynd i'w wely cyn naw (neu hyd yn oed cyn deg) o'r gloch y nos!

Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?
Iesu Grist. Gofyn iddo sut mae o'n teimlo yngl?n 芒 chael dilynwyr rhagrithiol a rhyfelgar fel Bush a Blair a'r holl bobol eraill sydd wedi gwyrdroi gwir ystyr Cristnogaeth dros y canrifoedd.

Pa un yw eich hoff daith a pham?
Adra. Dwi'n lecio cysgu yn fy ngwely fy hun (arwydd o henaint, ma raid!).

Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Bwyd Indiaidd efo'r trimings i gyd. Brechdanau blasus. Dibynnu sut dwi'n teimlo ar y pryd, mewn gwirionedd.

Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Darllen. Cerdded. Ymlacio yn yr haul (Haul? Pa haul?!)

Pa un yw eich hoff liw?
Lliwiau natur.

Pa liw yw eich byd?
Hyfryd o hydrefol ar hyn o bryd.

Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
Dileu'r gwaharddiad ysmygu mewn tafarnau - ar 么l dileu Trident a rhoi'r arian i wledydd a phobol anghenus, wrth gwrs!

A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
Yn llercian yng nghefn fy mhen efallai.

Beth fyddai'r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith llenyddol arall?
Deudwch chi wrtha' i!


Mwy

A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 主播大秀 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.