主播大秀

Eluned Phillips

03 Mawrth 2009

Ar raglen Dei Tomos, nos Sul, Hydref 14, bu Eluned Phillips yn siarad am ei bywyd a'i gwaith ac am ei hunangofiant, The Reluctant Redhead, oedd newydd ei gyhoeddi gan Wasg Gomer.

Eluned Phillips yw'r unig ferch i ennill coron yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith - yn gyntaf yn 1967 ac wedyn yn 1983 gyda phryddest am Ryfel y Malvinas / Falklands yn gefndir iddi.

Fe'i ganed yng Nghenarth a'i magu yn bennaf gan ei mam-gu. Aeth i goleg yn Llundain ond ni pharhaodd gyda'i hastudiaethau.

Trwy gysylltiad brawd i gyfeilles iddi symudodd maes o law i fyw a newyddiadura ym Mharis lle daeth i gysylltiad 芒 Maurice Chevalier, Pablo Picasso ac Edith Piaf ymhlith eraill.

Eluned Phillips - noson cyhoeddi ei hunangofiant

Yng Nghymru yr oedd yn gyfarwydd 芒 Dylan Thomas ac Augustus John gan ffafrio yr arlunydd, John, fel cyfaill.
Dywed i Dylan fod yn un anodd ei adnabod a chynnal sgwrs ag ef.

Yr oedd yn gyfeillgar hefyd a'r bardd o Gymro, Dewi Emrys, a hi a gyhoeddodd gofiant iddo yn 1971.

Treuliodd gyfnod yn yr Unol Daleithiau hefyd ond gartref yng Nghymru mae'n cael ei chofio'n bennaf am ei champ o fod yn un o ddim ond tair merch i fod yn brifeirdd. Hi oedd yr ail i ennill y Goron yn y Genedlaethol gan ddilyn Dilys Cadwaladr a'i henillodd yn 1953.

Erbyn hyn ymunodd Mererid Hopwood 芒 hwy gan ennill y Gadair a'r Goron.

Atgofion plentyndod
Wnaeth Eluned Phillips erioed adnabod ei thad gan iddo gael ei ladd yn y Rhyfel Mawr o fewn wythnosau i'w geni a hithau'n cael ei magu yn bennaf gan ei nain - gwraig a oedd yn ystyried pawb yn gyfartal beth bynnag eu gradd gymdeithasol; agwedd y mae Eluned Phillips ei hun wedi ei hetifeddu, meddai.

Ennill ei hail goron
Enillodd ei hail goron yn Eisteddfod Genedlaethol Llangefni yn 1983 gyda phryddest ar y testun Clymau a Rhyfel y Malvinas / Falklands yn gefndir ynddi. Mae'n s么n am Gymry - un o Gymru a'r llall o Batagonia - yn cyfarfod yn elynion ar faes y frwydr.

Mae'n s么n hefyd am ei phrofiad o Batagonia ac iddi gael ei henwi ar 么l Eluned Morgan, prif lenor Y Wladfa.

I Lundain
Mae Eluned Phillips yn symud i Lundain yn 1930 ac mae'n s么n am ei chysylltiad 芒 Dewi Emrys, Dylan Thomas ac Augustus John gan ddweud i John helpu i gynnal Dylan yn ariannol.

Dyddiau Paris
Ym Mharis daeth Eluned Phillips i gysylltiad ag enwogion fel Picasso, Maurice Chevalier ac Edith Piaf.
Dywed iddi fod fod "yn lwcus drwy fy mywyd" cyfarfod pobl mor ddiddorol. Anfonodd bryddest am Piaff i gystadleuaeth y Goron yn Eisteddfod 1967 ond pryddest arall, a anfonodd i'r un gystadleuaeth, a enillodd y wobr iddi. Oni bai fod un o'r beirniaid yn offeiriad dywed mai pryddest Piaf a fyddai wedi ennill ac mai honno oedd beirniad arall, Alun Llewelyn-Williams, yn ei ffafrio.

Cyhoeddi 'chydig
Yr unig gasgliad o gerddi a gyhoeddodd Eluned Phillips yw cerddi Glyn-y-M锚l yn 1985. Ei hunig lyfr arall yw Cofiant Dewi Emrys nes cyhoeddi ei hunangofiant yn 2007. Mae'n awgrymu mai'r rheswm iddi gyhoeddi cyn lleied yw ' na wnaeth neb ofyn imi' ac mae'n egluro hefyd pam mai yn y Saesneg y cyhoeddodd ei hunangofiant.


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 主播大秀 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.