主播大秀

Geraint V Jones

Enw
Geraint V. Jones

Beth yw eich gwaith?
Athro (wedi ymddeol) - Pennaeth Adran y Gymraeg yn Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog.

Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?
Arholi'n allanol i'r Cyd-bwyllgor Addysg.

O ble'r ydych chi'n dod?
Yn enedigol o Flaenau Ffestiniog.

Lle'r ydych chi'n byw yn awr?
Ym mhentref Llan Ffestiniog.

Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?
Yn rhannol, do.

Dwedwch ychydig am eich llyfr diweddaraf?
Dyma sydd yn y broliant ar glawr y nofel - Zen - cyn filwr ac aelod, erbyn hyn, o warchodlu arfog Palas Westminster, swydd sydd eisoes wedi dechrau troi'n ddiflas iddo oherwydd undonedd y gwaith. Ond mae pethau ar fin newid yn gyflym iawn!

Alex - merch o ardal Caerfyrddin. Gohebydd uchelgeisiol gyda'r Chronicle yn Fleet Street, Llundain. Ar 么l chwe blynedd yn y swydd mae'n dal i ddisgwyl am Y Stori Fawr, y Sg?p sy'n mynd i ddod 芒 hi i amlygrwydd ym myd cystadleuol y cyfryngau. Mae'r annisgwyl yn ei haros hithau.

Cynllwynio ar goridorau Westminster...ysbiwyr a gwrth-ysbiwyr y Gwasanaethau Cudd...asasin...llofruddiaeth...brad. Mae'r cyfan i'w gael rhwng cloriau'r nofel hon, a'r stori'n datblygu'n gyflym, yn gyffrous ac yn gelfydd, efo mwy nag un tro annisgwyl cyn ei diwedd.

Pa lyfrau eraill ydych chi wedu eu sgrifennu?
I blant: Antur yr Alpau (1981)
Antur yr Allt (1981)
I'r arddegau Alwen (1974) Nofel am helyntion serch
Storiau'r Dychymyg Du (1986) Casgliad o storiau iasoer
Melina (1987) Stori antur yng ngwlad Groeg
I oedolion: Yn y Gwaed (1990) Gwobr Goffa Daniel Owen, Cwm Rhymni
Semtecs (1998) Gwobr Goffa Daniel Owen, Bro Ogwr
Asasin (1999) Dilyniant i 'Semtecs'
Ar Lechan L芒n (1999) Nofel am streic mewn chwarel lechi
Omega (2000) Dilyniant i 'Semtecs' ac 'Asasin'
Cur y Nos (2000) Gwobr Goffa Daniel Owen, Llanelli
Yn Saesneg: The Gates of Hell (2003) Nofel Drychineb wedi'I lleoli yng Ngogledd Cymru

Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?
Yn Gymraeg, nofelau ditectif John Ellis Williams ac wedyn gweithiau Islwyn Ffowc Ellis. Yn Saesneg, stori芒u Enid Blyton, yna Agatha Christie et al.

A fyddwch yn edrych arno'n awr?
Na

Pwy yw eich hoff awdur?
Un o'm hoff awduron Cymraeg ydi Rhiannon Davies Jones.

A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?
Yn Gymraeg, cefais fy swyno gan nofelau hanes Rhiannon Davies Jones a Cyril Hughes.

Mae nofelau megis Un Nos Ola Leuad, Traed mewn Cyffion, Cysgod y Cryman hefyd yn aros yn fyw yn y cof. Yn Saesneg, Wuthering Heights a Lord of the Flies (William Golding).

Pwy yw eich hoff fardd?
Gwyn Thomas, wrth reswm. T. Gwynn Jones hefyd, ymysg eraill.

Pa un yw eich hoff gerdd?
Blaenau, Cymylau Gwynion a Croesi Traeth gan Gwyn Thomas a Madog gan T. Gwynn Jones. Hefyd rhai o gerddi R Williams Parry, Gerallt Lloyd Owen, Bryan Martin Davies, Iwan Llwyd... Mae'r rhestr yn faith!

Pa un yw eich hoff gwpled neu linell o farddoniaeth?
Hysbys y dengys y dyn O ba radd y bo'i wreiddyn (Tudur Aled)

Pa un yw eich ffilm a rhaglen deledu?
Hedd Wyn; Rownd a Rownd, Talcen Caled, rhaglenni newyddion a chomed茂au megis Cym on Midff卯ld ac Allo Allo.

Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
O safbwynt edmygu dawn nofelydd i bortreadu, yna mae Capten Trefor gan Daniel Owen a Heathcliffe gan Emily Bronte yn ffitio'r ddau gategori.

Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?
Beth am y cwpled uchod?

Pa un yw eich hoff air?
Maddeuant.
Fy nghasaf gair ydi lladd/kill

Pa ddawn hoffech chi ei chael?
Dawn cerddor neu arlunydd.

Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?
Cyffredin...
Gwerinol...
a gwylaidd hefyd, gobeithio.

A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?
Llawer iawn o bethau!

Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi'n ei edmygu fwyaf a pham?
Pobl gadarn eu hegwyddorion a rhai sydd wedi aberthu dros genedl a chyd-ddyn - Gandhi, Martin Luther King, y Fam Teresa.

Mae'r rhestr yn faith, diolch am hynny. Yng Nghymru (ar wahan i arwyr hanesyddol megis Llywelyn ap Gruffudd ac Owain Glynd?r), Aneurin Bevan a Gwynfor Evans.

Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?
Y Dadeni Dysg yng Nghymru.

Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu ei ofyn?
Llywelyn y Llyw Olaf.
"Gair o gyngor, Llew! Cadw'n glir o Gilmeri."

Pa un yw eich hoff daith a pham?
Mynd i bysgota, ar ddiwrnod braf o wanwyn, i Lynnoedd y Gamallt ar Fynydd y Migneint uwchlaw Ffestiniog.

Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?
Unrhyw beth efo tsips!!

Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?
Pysgota a darllen - yn y drefn yna.

Pa un yw eich hoff liw?
Glas.

Pa liw yw eich byd?
Du iawn tra bo gwleidyddion yn mynnu cyfiawnhau mynd i ryfel.

Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?
Deddf sy'n gorfodi Dyn i barchu'i gyd-ddyn (Cwbl anymarferol, ond dyna fo!)

A oes gennych lyfr arall ar y gweill?
Mae dwy nofel fer wedi'u cwblhau ond does wybod pryd y c芒nt weld golau dydd. Ar hyn o bryd, rwy'n gweithio ar nofel Saesneg arall.

Beth fyddai'r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith llenyddol arall?
Ar y clawr - International Bestseller!!

Cyhoeddwyd nofel ddiweddaraf Geraint V. Jones, Zen, fis Tachwedd 2004


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 主播大秀 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.