主播大秀

Roger Boore - atebion holiadur

Roger Boore

Cyhoeddwr ac awdur

23 Ionawr 2009

Enw?

Roger Boore

Beth yw eich gwaith?

Awdur.

Pa waith arall ydych chi wedi bod yn ei wneud?

Cyfrifydd siartredig, cyhoeddwr llyfrau Cymraeg (Dref Wen).

O ble'r ydych chi'n dod?

Caerdydd.

Lle'r ydych chi鹿n byw yn awr?

Yr Eglwys Newydd, Caerdydd.

Wnaethoch chi fwynhau eich addysg?

Do, ond nid yw wedi gorffen eto.

Dwedwch ychydig am eich llyfr diweddaraf?

Teitl: Taith i Awstralia.
Cyhoeddwyd: 2008 gan Dref Wen. Pris: 拢8.99. 192 tt o destun + 32 tt o luniau lliw. Crynodeb: Hanes taith a wnaeth fy ngwraig a minnau i gynefin fy nhad-cu yn Awstralia, cyn iddo ymfudo i Gymru; ein hanturiaethau difyr, doniol neu drychinebus, lleoedd a welsom, pobl a gwrddasom, tipyn am hanes y wlad ac eitha tipyn am Gymry a adawodd eu nod yno - er da neu er drwg.

Pa lyfrau eraill ydych chi wedi eu sgrifennu?

Ymerodraeth y Cymry (straeon byrion); Y Bachgen Gwyllt (nofel i blant).

Pa un oedd eich hoff lyfr pan yn blentyn?

Llyfrau A. A. Milne am Christopher Robin.

A fyddwch yn edrych arnynt yn awr?

Byddaf.

Pwy yw eich hoff awdur?

R. L. Stevenson, ar hyn o bryd.

A oes unrhyw lyfr wedi gwneud argraff arbennig neu ddylanwadu arnoch?

Y Beibl, sydd wrth wraidd ein gwareiddiad ac yn dylanwadu arnom i gyd, hyd yn oed os na fyddwn yn edrych arno.

Pwy yw eich hoff fardd?

Horas; neu Waldo Williams.

Pa un yw eich hoff gerdd?

Yr Odyseia.

Pa un yw eich hoff linell o farddoniaeth?

"Eheu, fugaces, Postume, Postume, labuntur anni ..." Tristwch am y blynyddoedd yn llithro heibio.

Pa un yw eich hoff ffilm neu raglen deledu?

Y dyddiau hyn, "Con Passionate".

Pwy yw eich hoff gymeriad a'ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?

Hoff gymeriad: Maigret.
Cas gymeriad: Robert d'Artois, yn Les Rois Maudits.

Pa ddywediad, dihareb, adnod neu gwpled sydd agosaf at y gwir?

"Pawb at y peth y bo."

Pa un yw eich hoff air?

"Erbyn meddwl"

Pa ddawn hoffech chi ei chael?

Y gallu i deithio mewn amser - yn enwedig yn 么l.

Pa dri gair sy'n eich disgrifio chi orau?

Tad heiffen cu

A oes rhywbeth yr ydych yn ei ddrwglecio amdanoch eich hunan?

Peidiwch gofyn!

Pa berson byw neu hanesyddol ydych chi'n ei edmygu fwyaf a pham?

"Anon", am fod yn wylaidd.

Pa ddigwyddiad hanesyddol fyddech chi wedi hoffi bod yn rhan ohono?

Refferendwm 1997 - ac mi roeddwn i!

Pa berson hanesyddol hoffech chi ei gyfarfod a beth fyddech chi yn ei ddweud neu yn ei ofyn?

Unrhyw un, bron. Dywedwn, "Esboniwch ..."

Pa un yw eich hoff daith a pham?

Y daith adref.

Disgrifiwch eich hoff bryd bwyd?

Cinio Nadolig gyda'r teulu.

Beth yw eich hoff weithgareddau amser hamdden?

Chwarae gyda'r wyrion a'r wyresau.

Pa un yw eich hoff liw?

Gwerthfawrogaf bob un, a diolch am fedru eu gweld.

Pa liw yw eich byd?

Lliw'r wawr a'r machlud.

Pe gallech gyflwyno deddf newydd beth fyddai hi?

Tybed a fyddai'n well meddwl am ddeddfau i'w dileu?

A oes gennych lyfr arall ar y gweill?

Llyfr am deithiau yn Sbaen.

Beth fyddai'r frawddeg agoriadol ddelfrydol i nofel neu waith llenyddol arall?

"Hmmm ..."


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn 主播大秀 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.