主播大秀

Hawl - Cwmni'r Fr芒n Wen

Golygfa o'r ddrama - Carys Gwilym, Iwan Charles ac Elen Gwynne

17 Tachwedd 2010

  • Adolygiad Glyn Evans o gynhyrchiad Cwmni'r Fran Wen o Hawl gan Iola Ynyr. Bangor, Tachwedd 16, 2010.

Unigolion yn ymddwyn fel gwledydd. Dwy wlad fawr a gwlad fechan yn cael ei dal yn y canol rhyngddyn nhw wrth iddynt fwrw eu bendithion arni. A'i hamddiffyn. Ei defnyddio.

Sam (Iwan Charles) ydi'r Unol Daleithiau, Rws (Carys Gwilym) ydi Rwsia a Kyrg landeg - mae'r enw'n llithro i lawr y gwddf yn hyfryd ys dywed Sam - (Elen Gwynne) ydi Kwrdistan, un o wledydd bychain, gwantan, canolbarth Ewrop sy'n bwysig am wahanol resymau i'r ddau rym arall.

Gwerin gwlad yng ngwyddbwyll politics rhyngwladol.

Dameg hawdd

Ni fu'n rhaid wrth unrhyw grafu pen yngl欧n 芒 dehongli'r ddameg ger ein bron.

Dameg a gyflwynwyd yn effeithiol iawn o ran llwyfaniad.

Wedi ymgasglu yn y cyntedd caiff y gynulleidfa fechan - nid oherwydd diffyg diddordeb gyda llaw ond oherwydd cyfyngiad ar y niferoedd y mae lle iddyn nhw - ei harwain i lawr coridor a thrwy fynedfa sy'n fflachio'n goch a'i rhoi i eistedd ar feinciau ar hyd dwy ochr i babell.

Mae naws filwrol i'r cyfan gan gynnwys milwr cydnerth blin yr olwg (Neil Wiiams) sy'n sefyll ar ddyletswydd a'i freichiau ar draws ei fron. Drwy ffenestr yn nhalcen y babell gwelir milwr arall wrth ddesg.

Y milwr a Kwrd

Mae synau i atgyfnerthu ias yr awyrgylch oddi allan i'n pabell.

Dydi rhywun ddim i fod i deimlo'n gyfforddus a dydi rhywun ddim.

Merch ifanc yn nillad ystrydebol gwerin canolbarth Ewrop yw'r cymeriad cyntaf i ymddangos. Mae'n ofnus ac ar ffo. Hi yw Kyrg.

Toc wedyn cyrraedd Sam a Rws i annerch i gyfeiliant cymeradwyaeth torfeydd gwerthfawrogol o'u neges warchodol a'u haddewid o gymorth, cynhaliaeth, amddiffyniad a rhyddid.

|Mae'n argoeli'n dda i'r gynulleidfa sydd yn aml o fewn llai na hyd braich i'r cymeriadau - gan gynnwys y milwr cydnerth, bygythiol sy'n dweud cymaint heb yngan gair gydol y ddrama. Yn fwriadol dyw'r actor sy'n chwarae'r rhan hon ddim yn cael ei enwi. Sgifi ydi o. Y dyn sy'n baeddu'i ddwylo i'r ddau arall gadw eu rhai hwy yn l芒n.

Theatr i blant a phobl ifanc ydi Cwmni'r Fran Wen - mae wedi diosg ei hen ddisgrifiad o 'Theatr Mewn Addysg' ond mewn ysgolion y mae'n perfformio fynychaf ac mae rhestr hir o ymrwymiadau Cymraeg a Saesneg rhwng dechrau Hydref a dechrau Rhagfyr.

Y perfformiad hwn - i rai dros 13 oed - yn Neuadd JP yw'r unig berfformiad cyhoeddus ac yr oedd yn gyfle gwych i rai fel fi gael cip ar y gwaith gwerthfawr mae'r cwmni hwn yn ei gyflawni.

Yn yr ysgolion sbardun i drafodaeth yw'r cynyrchiadau hyn ac y mae digon i'w drafod yn sgil Hawl am bob math o bethau yn amrywio o wleidyddiaeth i hawliau dynol.

Gellir ymuno 芒'r drafodaeth honno ar y we ar www.franwen.com/cymraeg/sioe/hawl/adborth.

Trawiadol heb lethu

Cymharol fyr yw'r cyflwyniad - llai nag awr. Digon hir i fod yn drawiadol heb fod yn llethol. Tebyg y byddai ambell ei gwmni wedi rhannu'r noson a chyflwyno ail gynhyrchiad i 'lenwi'r' noson. Camgymeriad fyddai hynny, yr oedd digon i'w dreulio yma ac yr oedd yn braf gadael gyda'r cyfan yn ffres yn y meddwl.

O ran tegwch 芒'r rhai sydd heb ei weld Hawl gwell peidio ag ymhelaethu ymhellach sut mae'r sefyllfa rhwng y tri yn datblygu; digon yw dweud bod yna sawl golygfa afaelgar ac anghyfforddus a'r rhai sy'n ymwneud 芒 chas gwydr yn wir hunllefus gyda cherddoriaeth Osian Gwynedd yn ychwanegu'n fawr at yr awyrgylch o arswyd ac ofn.

O orfod, fel ag ym mhob dameg, caricadurau yw'r cymeriadau a'r actorion oll yn chwarae eu rhannau'n dda 芒'i gilydd.


A - Z theatr

Pori gwefan Cylchgrawn 主播大秀 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.