主播大秀

Bara Caws: Un Fach Flewog - adolygiad

top

12 Medi 2011

Adolygiad Alwyn Gruffydd o Un Fach Flewog Sioe Glybiau Theatr Bara Caws, Eisteddfod 2011 gyda thaith yn dilyn.

Difyr? Oedd.
Doniol? Oedd - ofnadwy.
Enllibus? Oedd - ella.
Cynnil? Nacoedd, nacoedd, nacoedd!

Dyna mewn ychydig eiriau grynhoi cynnwys sioe glybiau ddiweddaraf Theatr Bara Caws, Un Fach Flewog gan Eilir Jones.

Os y bu i chi fethu'r sioe yn Steddfod Wrecsam dyma ail gyfle, i drigolion y gogledd orllewin beth bynnag, fwynhau noson o chwerthin o'i hochr hi (a chywilyddio ar yn ail) wrth i Un Fach Flewog gyrraedd 12 o glybiau'r ardal dros y mis nesaf.

Fel mae'r teitl yn awgrymu, ac yn nhraddodiad gorau - os gorau hefyd - sioeau clybiau Theatr Bara Caws, does dim yn cael ei adael i'r dychymyg yn y cynhyrchiad hwn.

Mae'r golygfeydd yn graffig a dweud y lleiaf a'r iaith yn drybeilig o liwgar. Ond, fel yn y gorffennol, dyna sy'n denu'r cynulleidfaoedd ac o brofi ymateb y dorf yng Nghlwb Rygbi Pwllheli - lleoliad cynta'r daith - mae'n fformat sy'n amlwg yn dal i lwyddo.

Lleolir Un Fach Flewog mewn siop anifeiliad anwes - Pet Palas.

"Run fath 芒 Buckingham Palace ..." chwedl Neville, rheolwr chwantus a di-flewyn ar dafod y siop, "... ond fod yna fwy o g卢卢 _ _ _u yn fan'no!"

Fel mewn siopau tebyg mae gan Pet Palas hefyd nifer o gewyll yn dal amrywiol anifeiliaid gyda'r mwyaf ohonynt i gyd yn gartref i barot lliwgar a swnllyd o'r enw Gwynfryn (sy'n cael ei chwarae gan Sion Trystan).

A dyna gyflwyno elfen arferol arall Sioeau Clybiau Bara Caws sef gwneud cyff gwawd o enwogion y genedl yn arbennig enwogion y cyfryngau - ac mae Maldwyn John (sy'n chwarae rhan Neville) yn hen law arni hi.

Does dim na neb yn gysegredig gan Neville ac roedd amseriad perffaith a dawn gomedi Maldwyn John yn gwaedu pob diferyn o wawd o bob ergyd.

Nid oedd y gynulleidfa'n osgoi sylwadau deifiol y siopwr ychwaith - yn arbennig mewn cyfeiriadaeth fynych at organau rhywiol y trueiniaid dan ei lach.

Kylie (Catrin Mara) sy'n cynorthwyo Neville yn y siop ond mae'r ferch siapus a choman, sy'n siarad gydag acen ardal Wrecsam am rhyw reswm, yn mynnu gwrthod cynigion mawr a bach ei meistr.

Huwsi ( Bryn F么n) sy'n mynd 芒'i bryd hi ac yn gwirioni wrth iddo "falu cacen siocled" ac addo "aros yn bur" ac yn y blaen. Ddyweda i ddim mwy.

Ond dechrau gofidiau Neville yw hynny. Ychwanegwch fod un o swyddogion mwyaf mileinig yr RSPCA (Gwenno Elis Hodgkins) am ei waed o a bod yna lygoden Ffrengig o'r enw Sanna Ben Landing (Iwan Charles) am achub yr anifeiliaid i gyd yna mae cymylau duon iawn uwchben Pet Palas.

Os yw dawn gomedi Maldwyn John yn wych yna mae Iwan Charles llawn cystal. Mae ei ymarweddiad yn ddigri sy'n denu chwerthin cyn iddo yngan yr un gair bron.

Prif gymeriad Iwan Charles yn Un Fach Flewog yw Keith - creadur diniwed sy'n ymwelydd cyson 芒 geudy'r siop. Ond ar ben hynny mae o hefyd yn dioddef o'r math mwyaf dwys o Glefyd Tourette sef yr anallu i lefaru heb weiddi nifer o eiriau anweddus, aflednais a dilornus cyn cyrraedd at rywbeth sy'n ymdebygu i'r gair mae'n chwilio amdano.

Mae'n gamp anghyffredin dynwared dioddefwr y clefyd yma ac mae Iwan Charles yn llwyddo i'r dim. Roedd yn ddoniol drybeilig ar y pryd ond ni allwn lai na theimlo rhyw bigiad o euogrwydd yn ddiweddarach.

Efallai mai fi sydd ar fai am hynny ond mae'r ffin rhwng comedi a thrasiedi, fel y gwyddom, fel edau o denau.

Mae'r set yn syml ac ymarferol er efallai nad oedd y gimics yn gweithio bob tro. Ar 么l dweud hynny roedd golygfa genedigaeth plentyn Huwsi a Kylie (yr un ffunud 芒'i dad gyda llaw) yn glyfar ac effeithiol.

Ond beth am y cymylau duon uwchben Pet Palas? Yn unol 芒 chynllun Sanna Ben Landing dihangodd yr anifeiliaid i gyd heblaw'r parot. Rhoddwyd gwraig yr RSPCA yn ei lle a llwyddodd Neville i ennill llaw - a gweddill Kylie hefyd o ran hynny - gan gyd-fyw'n hapus wedyn weddill eu dyddiau.

O ran stori roedd Un Fach Flewog ymysg y goreuon o sioeau clybiau Theatr Bara Caws.

O ran cynnwys doedd dim yn wahanol i'r arfer.

O ran ymateb y gynulleidfa roedd yn adloniant pur.

Doniol, difyr, enllibus? Oedd.
Cynnil? Nacoedd wir.

Y Daith

  • Mawrth 6 Medi Clwb Chwaraeon Pwllheli 7.30 Alan Gwallt 01758 612126 neu'r Clwb: 01758 613676
  • Mercher 7 Medi Clwb Chwaraeon Pwllheli 7.30 Alan Gwallt 01758 612126 neu'r Clwb: 01758 613676
  • Iau 8 Medi Clwb Chwaraeon Pwllheli 7.30 Alan Gwallt 01758 612126 neu'r Clwb: 01758 613676
  • Gwener 9 Medi Clwb Chwaraeon Porthmadog 7.30 Y Clwb: 01766512055 neu 07831101231
  • Sadwrn 10 Medi Clwb Chwaraeon Porthmadog 7.30 Y Clwb: 01766512055 neu 07831101231
  • Mawrth 13 Medi Neuadd Goffa Criccieth 7.30 Bethan: 01766523672 neu Siop D.J. Criccieth 01766 522308
  • Mercher 14 Medi Clwb Wellmans, Llangefni 7.30 Menter M么n: 01248 725732
  • Iau 15 Medi Clwb Wellmans, Llangefni 7.30 Menter M么n: 01248 725732
  • Gwener 16 Medi Clwb Simdde Wen, Cemaes 7.30 Ian: 07919205217 Linda: 01286 675869
  • Sadwrn 17 Medi Clwb Simdde Wen, Cemaes 7.30 Ian: 07919205217 Linda: 01286 675869
  • Mawrth 20 Medi Clwb P锚l-droed Caernarfon 7.30 Huw: 01286 675607
  • Mercher 21 Medi Clwb P锚l-droed Caernarfon 7.30 Huw: 01286 675607
  • Iau 22 Medi Clwb P锚l-droed Caernarfon 7.30 Huw: 01286 675607
  • Gwener 23 Medi Clwb Rygbi Bethesda 7.30 Linda: 01248 601526 neu Huw: 01248 602480
  • Sadwrn 24 Medi Clwb Rygbi Bethesda 7.30 Linda: 01248 601526 neu Huw: 01248 602480
  • Mawrth 27 Medi Clwb Golff y Bala 7.30 Y Clwb: 01678 520359
  • Mercher 28 Medi Clwb Golff y Bala 7.30 Y Clwb: 01678 520359
  • Iau 29 Medi Clwb Rheilffordd Bangor 7.30 Pontio: 01248 382828
  • Gwener 30 Medi Gwesty'r Dolbadarn 7.30 Aneurin: 01286 870277
  • Sadwrn 1 Hydref Gwesty'r Dolbadarn 7.30 Aneurin: 01286 870277
  • Mawrth 4 Hydref Kinmel Manor, Abergele 7.30 Ioan: 01745 592161 neu 07747037674
  • Mercher 5 Hydref Kinmel Manor, Abergele 7.30 Ioan: 01745 592161 neu 07747037674
  • Iau 6 Hydref Clwb Rygbi Bro Ffestiniog 7.30 Glyn: 01766 830314 neu 01766 830005
  • Gwener 7 Hydref Clwb Rygbi Bro Ffestiniog 7.30 Glyn: 01766 830314 neu 01766 830005
  • Sadwrn 8 Hydref Clwb Rygbi Bro Ffestiniog 7.30 Glyn: 01766 830314 neu 01766 830005

Mae Alwyn Gruffydd yn un o adolygwyr cyson y wefan hon a hefyd yn un o gyfarwyddwyr Bara Caws.


Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.