主播大秀

Bobi a Sami

Llyr Evans, Bobi

Bobi a Sami

Taith 'abswrd' yn deyrnged i Wil Sam

Teyrnged i un o ddramodwyr mwyaf diddorol y theatr Gymraeg fydd cynhyrchiad cyntaf Cwmni Theatr Genedlaethol Cymru yn 2009.

Er mai gyda'r cymeriad cegog a lliwgar hwnnw, Ifas y Tryc, y bydd W S Jones - Wil Sam - a fu farw Tachwedd 2007, yn cael ei gysylltu yn bennaf yr oedd hefyd yn ddramodydd ac iddo lais Ewropeaidd yn nhraddodiad mawrion fel Beckett a Pinter.

Yr oedd hefyd yn gwmn茂wr diddan a difyr ac yn berson llawn hiwmor.

Theatr yr Abswrd

Ond ar drothwy taith o amgylch Cymru a fydd yn deyrnged i'w gyfraniad i fyd y ddrama Gymraeg dywedodd llefarydd ar ran y Theatr Genedlaethol:

"Er bod cymeriadau cofiadwy y dramodydd o Eifionydd, William Samuel Jones (WS Jones neu Wil Sam), yn rhai Gymraeg a Chymreig o ran iaith ac anian, y mae nhw hefyd yn perthyn i steil o ysgrifennu sydd 芒 chyd-destun Ewropeaidd iddo."

Daeth Wil Sam dan ddylanwad Theatr yr Abswrd a ddatblygwyd gan ddramodwyr byd enwog fel Harold Pinter, Eugene Ionesco a Samuel Beckett yn ystod ail hanner yr Ugeinfed Ganrif.

Theatr sy'n fath ar gomedi ond sy'n gymysg ag elfennau trasig gyda'r cymeriadau wedi'u caethiwo mewn sefyllfaoedd anobeithiol ac yn cael eu gorfodi i ailadrodd ac ail-wneud yr un pethau gan ddefnyddio deialog sy'n llawn ystrydebau a chwarae ar eiriau.

"Roedd Wil Sam yntau'n feistr ar y math yma o ysgrifennu," meddai Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru, Cefin Roberts.

"Gan ei osod yn solet gyda'r dramodwyr enwog eraill yng nghanol traddodiad Theatr yr Abswrd," ychwanegodd.

Enghraifft orau

Dywedir mai un o'r enghreifftiau gorau o'r math yma o ddrama gan Wil Sam yw Bobi a Sami y bydd y Theatr genedlaethol yn teithio a hi o amgylch Cymru yn ystod Chwefror a Mawrth dan y teitl Bobi a Sami...a Dynion Eraill.

Yr actorion fydd Ll欧r Evans, Sion Pritchard a Llion Williams ac yn ogystal 芒 pherfformio Bobi a Sami ei hun bydd y tri hefyd yn llwyfannu monolog newydd sbon gan Luned Emyr, Meical ynghyd 芒 dwy ddrama heb eiriau gan Samuel Beckett.

Gwerthfawrogi a deall

"Ein nod yw ceisio gwerthfawrogi a deall y dylanwadau fu ar waith Wil Sam," eglurodd Cefin Roberts sy'n cyd gyfarwyddo'r cynhyrchiad gyda Judith Roberts.

"Dyma gyfle Theatr Genedlaethol Cymru i anrhydeddu mawredd y dramodydd nodedig hwn a'i gyfraniad i fyd y ddrama Gymraeg," meddai.

Cynlluniwyd y set ar gyfer y cyhyrhciad gan 诺yr WS Jones, Gwyn Eiddior Parry, a chyfansoddwyr y gerddoriaeth gan aelod o'r gr诺p Sibrydion. Nick Mumford sy'n gyfrifol am y goleuo.

Y daith

Bydd y daith yn cychwyn yn Y Llwyfan, Caerfyrddin (01267 233882) nosweithiau Mercher, Iau a Gwener, Chwefror 11-13, 2009 gan ymweld wedyn 芒:

  • Mawrth, Mercher, Iau a Gwener, Chwefror 17-20.
  • Theatr y Gromlech, Crymych (01239 831455). Mawrth a Mercher, Chwefror 24-25.
  • Sadwrn, Chwefror 28.
  • Mawrth a Mercher, Mawrth 3-4.
  • Gwener a Sadwrn, Mawrth 6-7 Mawrth.
  • Neuadd Goffa, Cricieth (01766 522491) Mawrth a Mercher, Mawrth 10-11.
  • Gwener a Sadwrn, Mawrth 13-14.
Oherwydd ffurf y seddi cyfyngir y cynulleidfaoedd i 120 ym mhob perfformiad.

Mwy

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.