主播大秀

Deffro'r Gwanwyn y Theatr Genedlaethol

Ymarfer ar gyfer y cynhyrchiad

08 Chwefror 2011

Cyfieithiad o sioe gerdd Saesneg fydd cynhyrchiad nesaf Cwmni Theatr Genedlaethol Cymru.

Deffro'r Gwanwyn - cyfieithiad o Spring Awakening - yw sioe gerdd gyntaf y cwmni a bydd yn cychwyn ar daith o amgylch Cymru fis Mawrth 2011.

Fe'i troswyd i'r Gymraeg gan Dafydd James.

Mae'n seiliedig ar ddrama wreiddiol gan Frank Wedekind.

"Er i Frank Wedekind ysgrifennu'r ddrama yn 么l ym 1891, mae ei sylwadau cymdeithasol yr un mor berthnasol heddiw," meddai llefarydd ar ran Theatr Genedlaethol Cymru am y stori am bobl ifanc yn eu harddegau cynnar sy'n ymateb i'w chwilfrydedd ac yn ceisio dygymod 芒 phrofiadau herfeiddiol fel hunanladdiad, rhyw a pherthynas hoyw.

Mae'n cael ei ddisgrifio fel "cynhyrchiad grymus a gafaelgar" a fydd yn ysgogi trafodaeth.

"Gwaharddwyd drama wreddiol Frank Widekind am ychydig oherwydd ei chynnwys beiddgar," meddai swyddog Marchnata Theatr Genedlaethol Cymru, Elin Williams.

"Wedi'i selio ar y ddrama derbyniodd y ddrama gerdd, a ysgrifennwyd gan Steven Slater a'r gerddoriaeth gan Duncan Sheik, lu o wobreuon ers ei llwyfannu gyntaf yn Broadway Efrog Newydd yn 2006 ac fe'i chyfieithwyd i'r Gymraeg gan Dafydd James," meddai.

Elen Bowman sy'n Cyfarwyddo ac mae'r cast o dri ar ddeg yn cynnwys actorion profiadol fel Ffion Dafis a Dyfed Thomas sy'n chwarae rhan yr oedolion llym ac didostur.

Cymerir rhan y bobl ifanc ar eu trugaredd gan Zo毛 George, Owain Gwynn, Iddon Jones, Daniel Lloyd, Elain Lloyd, Ellen Ceri Lloyd, Elin Llwyd, Berwyn Pierce, Aled Pedrick, Lynwen Haf Roberts a Meilir Rhys Williams. Y Cyfarwyddwr Cerdd yw Dyfan Jones.

"Cynhyrchiad ar gyfer cynunlleifaoedd ifanc yn bennaf yw hwn ond mae ynddo agweddau sy'n taro tant gyda phobl o bob oed," ychwanegodd Elis Williams.

"Gyda band roc byw yn cyfeilio bydd yn brofiad theatrig bythgofiadwy," meddai.

Y daith

Dyma fanylion y daith:

  • Caerfyrddin - Mawrth 09-11, 2011. 7:30. (Rhagwelediad y noson gyntaf) Y Llwyfan, Heol Y Coleg. 0845 226 3510 (Theatrau Sir G芒r yn gwerthu tocynnau)
  • Caerdydd Mawrth 15-16. 1:30pm ac 8.00* (*isdeitlo. Stiwdio Weston, Canolfan Mileniwm Cymru. 029 2063 6464.
  • Pontardawe Mawrth 22-23. 7:30pm Canolfan Hamdden. 01792 863722 (Canolfan Celfyddydau Pontardawe yn gwerthu tocynnau)
  • Aberaeron Mawrth 25-26. 7:30. Canolfan Hamdden Syr Geraint Evans. 01239 621200 (Theatr Mwldan yn gwerthu tocynnau)
  • Dolgellau, Mawrth 29 - Ebrill 1. 7:30. Canolfan Hammden Glan Wnion. 01341 421800 (T欧 Siamas yn gwerthu tocynnau).
  • Llanrwst Ebrill 5-6. 7:30. Canolfan Hamdden Dyffryn Conwy 01492 642357 (Menter Iaith Conwy yn gwerthu tocynnau).
  • Wrecsam Ebrill 8-9 7:30 Canolfan Hamdden Plas Madoc, Acrefair 01978 293293 (Prifysgol Glynd诺r yn gwerthu tocynnau).
  • Ymys M么n Ebrill 12-15. 7:30. Canolfan Hammden Biwmares. 01248 382828 (PONTIO Bangor yn gwerthu tocynnau).

Pobl ifanc

Mae ofn a chwilfrydedd y bobl ifanc yn y sioe yn eu harwain at brofiadau herfeiddiol sydd a chanlyniadau dirdynnol i rai ac i eraill yn newid cwrs bywyd am byth.

"Mae Deffro'r Gwanwyn yn ymdrin 芒 gormes rhywiol ac anhrefn hormonaidd wedi ei hadrodd mewn ffordd gonest a miniog," meddir.

Ymhlith caneuon y sioe wreiddiol a agorodd ar Broadway yn 2006 y mae: Mama Who Bore Me'; The Bitch of Living'; My Junk; Touch Me; The Word of Your Body; I Believe a The Song of Purple Summer.


A - Z theatr

Pori gwefan Cylchgrawn 主播大秀 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.