主播大秀

Bara Caws - Croesi'r Rubicon

Valmai Jones a Christine Pritchard

26 Ionawr 2010

Drama am wraig weddw dlawd yn ceisio ail afael yn ei bywyd ydi cynhyrchiad newydd Theatr Bara Caws.

Bydd yr "whodunnit dywyll, llawn tyndra" yn cychwyn ar daith o amgylch Cymru ym Mhwllheli nos Fawrth Chwefror 2 2010.

Awdur Croesi'r Rubicon ydi Valmai Jones. Yn awdur nifer o gynyrchiadau Bara Caws mae hi hefyd yn actio yn y ddrama a gynhyrchir gan Bryn Fon.

Prif gymeriad y ddrama yw Esme, gwraig weddw dlawd sy'n chwilio am ddechrau newydd ac wedi derbyn swydd fel gofalwr bwthyn unig yn y wlad tra bo'r perchennog i ffwrdd.

"Mae'r t欧, fel ei berchennog, yn llawn cyfrinachau ac ofnau Esme'n cynyddu wrth i ymwelydd diarth gyrraedd i ddwysau'r hunllef. Ai dechrau newydd oedd croesi'r Rubicon, ynteu ddechrau'r diwedd?" meddai llefarydd Bara Caws am y ddrama.

Yn actio gyda Valmai Jones yn y ddrama mae Christine Pritchard a welwyd ar lwyfan ddiwethaf yng nghynhyrchiad Cwmni Theatr Genedlaethol Cymru o T欧 Bernarda Alba. Mae Valmai Jones a Bryn F么n wedi ymddangos yn y gyfres deledu Ista'n Bwl wrth gwrs.

Disgrifir y ddrama fel melodrama ddoniol yn nhraddodiad Actus Reus a Dulce Domum gan yr un awdur.

Y daith

  • Chwefror 2 a 3 Neuadd Dwyfor Pwllheli 01758704088
  • Chwefror 4 Ysgol Y Moelwyn Blaenau Ffestiniog Gwen Edwards 01766 830435
  • Chwefror 5 Canolfan Bro Aled, Llansannan Eilir Jones 01745 870415
  • Chwefror 6 Theatr John Ambrose, Rhuthun Siop Elfair 01824 702575
  • Chwefror 9 a 10 Theatr Seilo, Caernarfon 01286 685222
  • Chwefror 11 Neuadd Ysgol Gyfun, Llangefni Menter M么n 01248 725732
  • Chwefror 12 Theatr Harlech 01766 780667
  • Chwefror 13 Theatr Twm O'r Nant, Dinbych Siop Clwyd 01745 813431
  • Chwefror 16 Neuadd Buddug, Y Bala Awen Meirion 01678 520658
  • Chwefror L7 Neuadd Ogwen,Bethesda Linda Brown 01286 676335
  • Chwefror 18 Neuadd Goffa Amlwch Siop Corwas 01407 830277 neu Cari 07919 151211
  • Chwefror 19 Neuadd Y J.P. Bangor Dyfan Roberts 01248 382141
  • Chwefror 20 Canolfan Cymunedol Llanrwst Menter Iaith Conwy 01492 642357
  • Chwefror 23 Neuadd Talybont, Ger Aberystwyth Falyri Jenkins 01970832560
  • Chwefror 24 Theatr Y Gromlech, Crymych Kevin Davies 01239 831455
  • Chwefror 25 Canolfan Gartholwg Samantha Chamberlain 01443 219589
  • Chwefror 26 a 27 Canolfan Y Chapter, Caerdydd 02920 311050

A - Z theatr

Pori gwefan Cylchgrawn 主播大秀 Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Llyfrau

Matthew Rhys

Holi ac adolygu

Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.