主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

主播大秀 主播大秀page
主播大秀 Cymru
主播大秀 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

主播大秀 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Eisteddfod Genedlaethol
Carwyn Evans Mewnosodiad arbennig artist o Gaerdydd
Mae gan artist ifanc o Gaerdydd arddangosfa ddiddorol a gwahanol iawn ar faes y brifwyl yng Nghasnewydd eleni.

Mae Carwyn Evans sydd wedi cael ei gomisiynu gan Cywaith Cymru, wedi dod 芒 phedwar bocs symudol mawr glas i faes yr Eisteddfod, i'w harddangos y tu allan i'r babell Gelf a Chrefft.

'Yr Ymraefael' yw'r pwnc ac mae'n ehangiad o waith mewnosod Carwyn Evans yn Eisteddfod Meifod y llynedd. Ef oedd enillydd gwobr Ivor Davies, am ei waith 'Unlliw' sef pentyrrau o flychau adar bychain wedi ei gwneud o gardbord a phob un yn cynrychioli t欧 newydd yn 么l cynllun i'w hadeiladu yng Ngheredigion.

"Parhad o'r darn 'Unlliw' llynedd yw'r shipping containers yma. Mae'n ffordd o gyfleu diwylliant ar symud, fel y mae'r Eisteddfod yn symud o le i le," meddai Carwyn yn esbonio'r stori y tu n么l i'r blychau mawr hyn sydd bob un wedi eu haddurno mewn ffordd gwahanol.

"Rydw i wedi rhoi mewnosodiadau ym mhob un o'r pedwar. Yn y cyntaf mae chwyiaid yn hedfan ar y wal. Mae hyn yn cyfleu y broblem yng nghefn gwlad. Ai'r bobol yn gadael yw'r broblem, neu'r bobol sy'n symud i mewn?"

Mewn un blwch mae yna g锚sys wedi eu clymu ac esbonia Carwyn, "mae pobl yn ffoi i wlad fel Cymru a weithiau maen nhw'n cael trafferthion ac yn teimlo'n gaeth, a dyna mae'r suitcases yn trio ei gyfleu."

Comisiynwyd Carwyn i wneud yr arddangosfa gan Cywaith Cymru, a gofynnwyd am adeilad yr oedd posib i bobol berfformio ynddo ac i ymateb i'r gwaith. Mewn cyd-weithrediad 芒'r Academi y mae perfformiadau gan feirdd ac actorion wedi eu trefnu yn y blychau hyn bob dydd.

Dydd Mawrth, taith y beirdd oedd yna, Iwan Llwyd, Mei Mac a Geraint Lovgreen oedd yn perfformio yn mhob un o'r ystafelloedd yn eu tro.

Mae Sharon Morgan, MC Seizmundo ac Ifan Pryd hefyd yn perfformio yna rhwng heddiw a diwedd yr wythnos.

Cliciwch yma i edrych ar y lluniau.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r 主播大秀 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.



0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
主播大秀 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy