主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

主播大秀 主播大秀page
主播大秀 Cymru
主播大秀 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

主播大秀 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

O'r Strade i Barc Y Scarlets - Ond ysbryd y Sgarlad 'Yma o Hyd'
Alun Rhys Chivers sy'n bwrw golwg ar noson olaf Parc y Strade, wrth i'r Scarlets symud i stadiwm newydd.

Yn yr hinsawdd ddiwylliannol sydd ohoni heddiw yng Nghymru, mae'n anodd iawn dod o hyd i gymuned gyfan o bobl sy'n rhannu'r un ymdeimlad o genedligrwydd a brogarwch. Mae'n wir fod gan bob ardal a phob rhanbarth ei hunaniaeth, ond nid cymaint 芒'r De Orllewin. I rywun sy'n rhy bell i'r Dwyrain i amgyffred 芒 meddylfryd o'r fath (ychydig filltiroedd i'r Dwyrain o Bont Llwchwr!), mae'r wledd hon o Gymreictod i'w chael yn achlysurol yn unig. Rhyw genedligrwydd 'prynhawn Sadwrn' fu'n perthyn i dipyn o Dde Cymru, a hynny'n dod yn amlwg yn Stadiwm y Mileniwm bob tro y bydd Cymru'n chwarae. Ond ar Barc y Strade, ffordd o fyw yw'r Cymreictod hwn. Ac yn yr oes broffesiynol fodern, lle mae gornestau Celtaidd ac Eingl-Gymreig yn cael eu cynnal bob noson o'r wythnos bron, byddai'r cyhuddiad o fod yn 'Gymry prynhawn Sadwrn' neu unrhyw noson arall yn yr wythnos yn warth ar dref y Sosban.

Cyn Hydref 24ain, gellir dweud fod yna ddau brif achlysur pan fyddai'r cenedligrwydd hwn wedi amlygu ei hun. Ac yn eironig ddigon, roedd y ddau ddigwyddiad ar Hydref 31ain, er bod tri deg chwech o flynyddoedd rhyngddynt. A'r ddau mor eiconig 芒'i gilydd. Y cyntaf, wrth gwrs, oedd buddugoliaeth byd enwog y Scarlets dros Seland Newydd ym 1972. Hyd yn oed os nad oeddech chi yno, mae'n si诺r y cofiwch chi'r llun enwog o'r capten Delme Thomas yn cael ei godi i'r awyr ar freichiau ei gyd-chwaraewyr a'r cefnogwyr. Yr ail oedd marwolaeth annhymig Ray Gravell yn 56 oed, ar Hydref 31ain, 2007. Cynhaliwyd ei angladd ar Barc y Strade bythefnos yn ddiweddarach, a'i arch yn cael ei gludo ar ysgwyddau Delme Thomas yntau. Dau begwn emosiwn, ond y naill mor gofiadwy 芒'r llall. Dau frodor o Lanelli, dau arwr cenedlaethol.

Bu tipyn o ramant yn perthyn i ymweliadau 芒 Pharc y Strade ar hyd y blynyddoedd, yn fwy nag unrhyw gae arall yng Nghymru. Ni fyddai hyd yn oed y glaw a'r gwynt a'r mellt a tharanau yn ddigon i dawelu ar frwdfrydedd cefnogwyr y Sgarlets, na chwaith ar frwdfrydedd y sawl a fyddai'n mentro'n flynyddol ar draws bont Llwchwr i dir y gelyn.

Ac ar noson oer olaf ar Barc y Strade, roedd cenedlaethau o gefnogwyr o bedwar ban yno i ffarwelio 芒 theatr llawn atgofion bore oes. Noson oedd hon i dalu teyrnged i arwyr ac i ddathlu Cymreictod. Ymlwybrodd capten ar 么l capten i'r maes ac atgofion o bob un ohonynt yn llifo'n 么l. Ieuan Evans yn croesi am gais yn y gornel, cic a chwrs gan Phil Bennett a hyrddiad drwy'r sgarmes gan Scott Quinnell... heb s么n am gampau Derek Quinnell, Phil Davies a Rupert Moon bob un. Cymaint oedd y noson yn ei olygu, fel bod John Leleu wedi teithio bob cam o Sbaen i orymdeithio ar hyd y cae. Fe dderbyniodd yr holl gapteiniaid grys arbennig i goff谩u'r achlysur, ac roedd cyflwyniad arbennig i'r cyn-chwaraewr a chyn-hyfforddwr Gareth Jenkins. Cafodd chwaraewyr Ysgolion Llanelli dan 11 oed y cyfle i dywys y capteiniaid i'r maes.

Fe ddaeth y dorf i'w thraed wrth groesawu dau o brif arwyr y Sgarlets ar hyd y blynyddoedd, Phil Bennett a'r capten buddugol ar y diwrnod hanesyddol hwnnw ym 1972, Delme Thomas. Ychydig iawn o gyflwyniad oedd ei angen ar y ddau, ac fe fydd y lluniau o Phil Bennett yn taflu ei freichiau i'r awyr ar ei ben-blwydd yn drigain oed, a Delme Thomas yn camu'n hyderus i'r llinell hanner i dderbyn y gymeradwyaeth yn aros yn y cof.

Simon Easterby gafodd y fraint o arwain y Sgarlets allan fel capten ar Barc y Strade am y tro olaf yn seiniau 'Yma o Hyd' gan Dafydd Iwan. Roedd geiriau'r g芒n yn taro'r galon dipyn yn galetach ar y noson, a'r emosiynau'n fwy dwys wrth gofio Grav a ysbrydolodd y defnydd o'r clasur ar Barc y Strade. Ac oedd, roedd ysbryd y cawr o Fynydd-y-garreg 'yma o hyd'. Mae'n si诺r y byddai wedi bod wrth ei fodd yn ei sgarff goch a'i glustffonau dan ganu a bloeddio ei Gymreictod i bob man.

Cofio oedd un o brif them芒u'r wythnos olaf ar Barc y Strade, gyda'r gwasanaeth arbennig gafodd ei chynnal ar nos Fawrth dan ofal y Parchedig Eldon Phillips. Roedd yn gyfle i anrhydeddu'r sawl y mae eu llwch wedi eu gwasgaru ar y tir a'u hangladd wedi ei gynnal ar hyd y blynyddoedd. Roedd naws 'gwasanaeth coffa' i'r noson ar y cyfan, gydag amser i alaru ond i ddiolch hefyd. Cyhoeddwyd yr enwau bob yn un, gan ddwys谩u'r emosiwn, cyn i Derek Quinnell a'r Parchedig Eldon Phillips godi tywarchen symbolaidd oddi ar y cae yn barod i'w chludo i Barc y Scarlets. Fel y dywedodd un o'r cefnogwyr, Mike Mason, "mae'n rhoi parch i'r bobl a ga's eu llwch wedi eu dosbarthu ar y cae 'ma. Pan gawson nhw eu llwch wedi eu dosbarthu, ro'n nhw'n meddwl y byddai cwmni gyda nhw tua ugain penwythnos y flwyddyn ond mae hwnna wedi dibennu nawr, felly mae e'n syniad da". Ac am y gwasanaeth ei hun, fe ddywedodd Monro Walters (mab Glyn Walters a gafodd ei lwch wedi eu gwasgaru ar y cae) fod yr achlysur yn dwyn "atgof trist, dirdynnol, bythgofiadwy" iddo.

Gyda'r ddefod sanctaidd ar ben, roedd hi'n bryd edrych tua'r g锚m olaf. Ac fe ddaeth y dorf o bedwar ban. Un o'r sawl oedd yno yn ystod yr wythnos olaf oedd Anthony Davies, brodor o Gaerfyrddin a fudodd i Awstralia. Cafodd lludw ei dad Syd eu gwasgaru ar y maes ym 1989. Fel y dywedodd hanesydd y clwb, Les Williams, "Mae'r gwasanaeth diolchgarwch yn syniad hyfryd gan ein caplan y Parchedig Eldon Phillips... i gofio am y cyn-chwaraewyr a'r cefnogwyr sydd wedi dewis gwasgaru eu lludw yma".

Roedd yr ornest yng Nghwpan EDF yn eithaf difflach, gyda buddugoliaeth hawdd i'r t卯m cartref o 27-0. Roedd nerth amddiffynnol traddodiadol y Saeson yn golygu nad oedd yr un ohonom yn y cae yn disgwyl g锚m agored. Fe gafwyd ambell agwedd fywiog, gyda Morgan Stoddart yn croesi am gais yn y munudau agoriadol wrth i Regan King fylchu. Wedi i Stephen Jones sgorio g么l gosb, croesodd Simon Easterby am gais arall. Gyda'r sg么r ar yr egwyl yn 17-0, doedd fawr o obaith i'r ymwelwyr daro'n 么l, ac fe gynyddodd y pwysau arnynt.

Wrth grwydro'r maes yn ystod y noson, roedd y m么r o goch yn lledu ar draws yr eisteddleoedd a'r caneuon hoff yn cael eu llafarganu bob yn un. Aethpwyd o 'Sosban Fach' i 'Calon L芒n' yn ddiymdrech, ond yn llawn angerdd ac emosiwn. O edrych o gwmpas, ychydig iawn o lygaid oedd yn sych a llawer lais yn groch. Er yr holl ganu yn y dorf, y mwyaf emosiynol o'r cyfan oedd perfformiad Caryl Parry Jones yn ystod hanner amser o'r g芒n a gyfansoddwyd er cof annwyl am Ray Gravell, 'West is Best'. Roedd dagrau hyd yn oed yn llygaid Caryl hithau wrth i sentiment, a rhodd Grav i'r Gorllewin atseinio i bob cornel o'r cae. Un o'r lluniau mwyaf cofiadwy o'r noson fydd, mae'n si诺r, yn cael ei ddangos am flynyddoedd lawer, yw hwnnw o Mari, Manon a Gwenan yn gwerthfawrogi'r perfformiad o'r eisteddle.

Tra ar y cae, fe ychwanegodd Stephen Jones driphwynt arall lai na deng munud i mewn i'r ail hanner. Rob Higgitt, y Cymro o'r gogledd-ddwyrain gafodd yr anrhydedd o sgorio'r cais olaf, yn eironig yn erbyn ei hen glwb. Ond roedd hi'n briodol yn nheyrnas y 'ffatri maswyr' mai'r Cymro Cymraeg Stephen Jones sgoriodd y pwyntiau olaf ar Barc y Strade i gau'r llenni ar gyfnod hanesyddol. Doedd y pwyntiau ddim yn arbennig o bwysig yng nghyd-destun yr ornest ei hun, gyda'r fuddugoliaeth eisoes yn sicr. Ond mae enwau Stephen Jones a Rob Higgitt yn sicr o godi 'o seler y cof" (chwedl Alun Wyn Bevan) yn y blynyddoedd i ddod ar lawer cwis.

A fyddai'r un dathliad traddodiadol o Gymreictod ddim yn gyflawn heb g么r. Roedd dau hyd yn oed yn fwy priodol. Fe ddaeth C么r y Sgarlets a Ch么r Meibion Llanelli i'r cae i gyd-ganu 'Sosban Fach' am y tro olaf ar y tir sanctaidd, a'r cyfan yn dod i ben yn y ffordd draddodiadol gyda pherfformiad emosiynol o 'Hen Wlad Fy Nhadau'. Wedi'r anthem genedlaethol, daeth un cyfle olaf i'r holl gapteiniaid ddod ynghyd i gael tynnu eu llun ar Barc y Strade. Fe ddaeth seiniau Dafydd Iwan ac 'Yma O Hyd' dros y system sain am y tro olaf cyn i'r t芒n gwyllt cochion ddweud ffarw茅l am y tro olaf wrth gant dau ddeg naw o flynyddoedd o hanes.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
主播大秀 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy