主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

主播大秀 主播大秀page
主播大秀 Cymru
主播大秀 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

主播大秀 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

cantorion
Meic Stevens
Meic Stevens

Ganwyd: 1942

Magwyd: Solfa, Sir Benfro


Canwr, 'Taid' y sin yng Nghymru

Fe'i ganed yn 1942 yn Solfa ac yno y cafodd ei fagu. Bu harddwch naturiol a thraddodiad morol yr ardal, yn ogystal 芒'i chymeriadau a'i deulu, yn ddylanwad mawr ar ei ffordd o weld y byd a them芒u ei ganeuon.

Fe'i addysgwyd mewn ysgolion cynradd ac uwchradd lleol, a dechreuodd chwarae'r git芒r yn ei arddegau, gan chwarae mewn bandiau sgiffl lleol. Mynychodd Goleg Celf Caerdydd yn 1958, ac yno, ac yng nghlybiau a thafarndai dociau'r brifddinas y cafodd ei wir addysg.

Fe'i cyfareddwyd gan fwrlwm ac amrywiaeth y s卯n jazz, blues a gwerin, ac yn fuan roedd wedi dysgu chwarae yn idiom y gwahanol arddulliau. Yn 么l ysbryd yr oes, teithiai i berfformio ledled Prydain, a rhydd ei hunangofiant bortread byw o fyw yn yr eiliad yng nghyffro cyfnod trawsnewidiol y 1960au.

Gan mai Saeseneg oedd prif iaith aelwyd ei fagwraeth, yn yr iaith honno y dechreuodd gyfansoddi caneuon, a rhyddhawyd ambell i sengl ganddo yng nghanol y 60au, na wnaeth lawer o argraff ar y siartiau Seisnig. Er hynny, roedd ei enw wedi tyfu yn y cylchoedd gwerin, ac yn honedig fe'i disgrifiwyd gan Bob Dylan fel 'the best folk singer in the world'.

Gwelai sgowtiaid y cwmni recordiau rhyngwladol, Warner Brothers, ddigon o addewid i gynnig cytundeb iddo gwerth degau o filoedd o bunnoedd, swm enfawr bryd hynny. Nid yw'n swm mor wael heddiw chwaith! Canlyniad hyn oedd y record hir 'Outlander' (1970), casgliad a ddangosai ddylanwad seicadelig y cyfnod, ond hefyd yr elfennau a nodweddai gymaint o'i gerddoriaeth orau - dychymyg cerddorol dwys a delweddiaeth eiriol syfrdanol.

Yr un fu hanes y record honno a'i senglau cynharach, fodd bynnag, ac ni lwyddodd i wneud argraff ar y siartiau.

Erbyn hynny, roedd teledu Cymraeg wedi ei eni, ac yn ei sg卯l cafodd gynnig gwaith yng Nghymru yn y Gymraeg. Roedd eisoes wedi recordio cyfieithiadau o'i ganeuon Seisnig, megis 'Yr Eryr a'r Golomen' a 'C芒n Walter'.

Creodd dipyn o argraff ar y s卯n Gymraeg gyda'i ymddangosiad trawiadol a chaneuon a ddaliai naws a phrotest yr oes, megis 'Tryweryn' ac 'Ysbryd Solfa', ynghyd 芒'i awydd i fyw bywyd i'r eithaf.

Prin y pylodd y dylanwad cynnar hwnnw ar y s卯n. Yn raddol, daeth ei ganeuon yn fwy seiliedig ar brofiad personol, a chanodd yn helaeth i goffa hen gydnabod a theulu a ffigurau a gyffyrddodd ei fywyd mewn rhyw ffordd. Yn wir gellid gwrando ar straeon ei ganeuon megis hunangofiant clywedol amgen. Nid oedd ofn arno chwaith i fynd i'r afael 芒 phynciau anodd, dirdynnol tor-perthynas fel yn achos un o'i ganeuon enwocaf, 'M么r o Gariad', a marwolaeth, nag ychwaith ganeuon a ddathliai joio byw yn ei ffordd ddihafal ei hun.

Mae ei gasgliadau yn y Gymraeg yn cynnwys 'Gwymon' (1972), 'Meic a'r Bara Menyn' (1973), 'Gog' (1977), 'Nos Du, Nos Da' (1982), 'Lapis Lazuli' (1983), 'Gitar yn y Twll Dan St芒r' (1983), 'Gwin a Mwg a Merched Drwg' (1987), 'Whare'n Noeth (Bibopalwla'r Delyn Aur)' (1991), 'Er Cof am Blant y Cwm' (1993) a 'Mihangel' (1997).

Mae'n anodd dychmygu sut olwg fyddai ar y s卯n Gymraeg heddiw hebddo, ac mae'n parhau i gyfareddu cynulleidfaoedd mewn tafarndai a chlybiau ledled Cymru.

Dathlodd Meic Stevens ei benblwydd yn 65 oed ym mis Mawrth 2007. Cynhaliwyd cyngerdd i ddathlu'r achlysur yn y Gyfnewidfa Lo ym mae Caerdydd, lle daeth y band Bara Menyn yn 么l at ei gilydd i berfformio ar y noson, gyda Heather Jones a Geraint Jarman yn canu gyda Meic am y tro cyntaf ers y 1970au.

Beth yw eich barn am gerddoriaeth Meic Stevens? Dywedwch wrthon ni isod.


Cyfrannwch

Stephen Taylor Coedpoeth
Dw i'n cytuno efo Alan o Abertawe mae hunagofiant Meic yn andros o dda. Diolch i Meic am gyfansoddi cymaint o glasuron.

Bethan o Gaerfyrddin
Penblwydd Hapus i Meic yn 65 oed! Rwy'n meddwl fod ei gerddoriaeth yn ffantastig, does neb tebyg iddo!

Doug o Bencader
Nage! Nid "Taid!" Mae y bytholwyrdd Meic yn dod o'r De, felly "Dadcu!"

David yn Swydd Efrog
Heb anghofio am ei gasgliad 3-CD "Disgwyl Rhywbeth Gwell I Ddod", sy'n cynnwys y rhan fwyaf o'i waith cynnar.

Alan Abertawe
Mae rhaid ichi darllen hunangofiant Mike


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Peidiwch 芒 datgelu eich cyfenw os ydych o dan 16 oed.
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r 主播大秀 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
主播大秀 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy