主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
abertawe

主播大秀 主播大秀page
主播大秀 Cymru
主播大秀 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

主播大秀 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Abertawe
Sibrydion Adolygiad o Tyrfe Tawe 2006
Edrych yn 么l ar 诺yl 2006 Tyrfe Tawe yn Abertawe, gyda'r Sibrydion, Neil Rosser, Fflur Dafydd, Frizbee a llawer mwy.
Daeth taw yn Abertawe
Ar dridiau'n hirdroedio tafarne!

Ond nid tafarn mo lleoliad noson fawr Tyrfe Tawe eleni. Nid lleoliad mynd allan yng nghanol y ddinas mo hwn, ond un o ganolfannau diwylliannol Abertawe. Os nad oeddech chi yno, ddowch chi fyth i ben 芒 dyfalu am beth ydw i'n s么n. Oblegid Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn y Marina oedd cyrchfan ffans a selogion y s卯n roc Gymraeg ar gyfer uchafbwynt penwythnos o hwyl a sbri.

Mae'r Tyrfe wedi datblygu'n aruthrol ers y noson feddwol honno yng nghanol y ddinas pan benderfynwyd mynd ati i drefnu penwythnos o gerddoriaeth a diwylliant Cymraeg yma yn Abertawe. Roedd elfennau eleni a greodd 诺yl i guro pob g诺yl arall.

Cychwynnodd y cyfan nos Fercher, Hydref 11 yn Nh欧 Tawe gyda noson Pictiwrs yn y Pyb dan arweiniad y ffilm-byff Gary Slaymaker. Dangoswyd amrywiaeth o ffilmiau a'u cyflwyno gyda'r hiwmor arferol. Dyma noson o ffilmiau byrion, pop corn a chwmni da. Un o'm hoff ffilmiau oedd hwnnw am fachgen o Tseina sydd yn penderfynu teithio i'r Iwerddon i ddysgu'r Wyddeleg. Cysyniad hollol ddiddorol. Dyma'r tro cyntaf i ddigwyddiad o'r fath ddod i'r Tyrfe, ond gobeithio nad hwn fydd yr olaf chwaith.

O ganol y ddinas i'r Marina ar gyfer noson werin ar nos Iau, Hydref 12 yng Ngwesty'r Queen's. Dyma gyfle i bobl leol y dafarn fwynhau noson o'r hen ffefrynnau yn eu patsiyn eu hunain. Doedd y dafarn ddim yn orlawn fel y llynedd ond roedd digon o dorf ac awyrgylch i allu joio ma's draw gydag un neu ddau gerddor o'r ardal hon a thu hwnt, gan gynnwys yr amryddawn Dan Morris o 'Gwerinos' gynt a Marc Weinzweig. Roedd cymysgedd o bobl yno ar y noson, gan gynnwys Cymry Cymraeg, y di-Gymraeg, hen, ifanc, cerddorol, anwybodus - y cyfan yn uno mewn noson o fwynhad pur.

Elfen newydd i'r Tyrfe eleni oedd cynnal dwy gig ar yr un noson mewn dau leoliad gwahanol. Cynhaliwyd gig arbennig i bobl dan ddeunaw a'r llall ar gyfer pobl ychydig yn h欧n. Croesawyd band ifanc o'r ardal, 'Yr Angen', sydd yn ddisgyblion yn Ysgol Gyfun G诺yr, a reolir gan athro yn Adran Gemeg yr ysgol, Dr. John Thomas. Perfformiodd y band hwn yn Nh欧 Tawe gyda brwdfrydedd, egni a llawer iawn o hwyl. Mae'n debyg y byddan nhw'n perfformio'n aml yn gigs 'Gwener y Grolsch' dros y misoedd sydd i ddod. Maen nhw'n enw ar gyfer y dyfodol yn sicr. Yn rhannu'r llwyfan oedd Andrew Rhys Lewis, y canwr lleol o Ystalyfera, sydd wedi perfformio sawl gwaith yn y ganolfan o'r blaen. Fe'i gwelwyd ar y llwyfan acwstig ar nos Sadwrn hefyd.

Dafliad carreg o'r fan honno, roedd yr elfen h欧n yn hel atgofion am y dyddiau a fu yng nghwmni nifer o enwau o'r gorffennol. Noson 'retro' gafwyd yn yr Adam & Eve gyda bandiau o'r 70au a'r 80au. Roedd hi'n brofiad da cael eu clywed yn fyw am y tro cyntaf, gan nad ydw i'n eu cofio nhw pan sefydlwyd y bandiau hyn yn wreiddiol.

Agorwyd y noson gan 'Merched Becca' a garlamodd trwy eu set o glasuron, gan gynnwys 'Ynysoedd M么n', un o'r caneuon a berfformiwyd ganddynt yn eu gig gyntaf ryw ugain mlynedd yn 么l. Dyna i chi gwenerlais sydd gan y gantores! 'Crys' oedd nesaf ar y llwyfan gyda'u roc trydanol a'r traciau'n amrywio o 'Pendoncwyr' i 'Dyma'r Band Cymraeg'. Dyma set egn茂ol llawn roc a r么l. Fe daniwyd y dorf ganddyn nhw! Yn arwain y noson hon o ansawdd uchel oedd y dyn lleol ei hun, Neil Rosser. Roedd e'n barod i blesio gyda'i arlwy o ganeuon am y ddinas a'r cyffiniau, a nifer o ganeuon bl诺s. Mae hi bob amser yn bleser cael ei glywed yma yn y ddinas a doedd eleni ddim yn eithriad.

Cyn i ni sylweddoli, fe ddaeth noson olaf yr 诺yl, a draw 芒 ni i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn y Marina. Lle digon rhyfedd i gynnal gig ar yr olwg gyntaf, ond roedd hi'n amlwg yn weddol fuan yn y noson y byddai'n lleoliad poblogaidd. Teimlwyd bod Tyrfe Tawe wedi aeddfedu wrth ddod 芒'r noson i'r fath le, ac mae'n bosib ei bod hi wedi dod o hyd i'w chynefin yma yn y ddinas. Rhannwyd y bandiau i ddau lwyfan, gyda'r dorf yn gorfod symud rhwng y neuadd a'r caffi. Roedd amrywiaeth o bobl yn y dorf, o fyfyrwyr Caerdydd ac Abertawe i bobl broffesiynol y ddinas.

Fe gafwyd gwledd o gerddoriaeth ar eu cyfer, gyda sbectrwm cyfan o roc, pop, gwerin, hip-hop a chanu gwlad hyd yn oed! Roedd y lein-yp yn cynnwys Y Rei, Merched Mecca, Cowbois Rhos Botwnnog, Frizbee a Sibrydion, a Fflur Dafydd, Huw Dylan, Gareth Phillips ac Andrew Rhys Lewis. Rwy'n sicr fod gan bawb eu ffefrynnau, ond i fi, ar y llwyfan acwstig, Fflur Dafydd oedd y gorau o bell ffordd gyda pherfformiad hyderus, aeddfed a chwbl syfrdanol. Ond fe wnes i fwynhau Huw Dylan yn fawr hefyd, yn enwedig 'Nos Fawrth yn Abertawe', c芒n wreiddiol a ysgrifennwyd ar gyfer Tyrfe Tawe ryw ddwy flynedd yn 么l. Uchafbwyntiau'r prif lwyfan i fi oedd Frizbee a Sibrydion. Roedd eu fersiynau unigryw o 'Heyla' a 'Madame Guillotine' fel ei gilydd yn fodd o fywioc谩u'r amgueddfa gyfan.

Ar y cyfan, bu Tyrfe Tawe 2006 yn llwyddiant ysgubol. Mae un peth yn sicr. Mae'r Tyrfe'n cynyddu, ac mae 2007 yn addo mwy a mwy o gyffro ledled y 'second siti'. Tyrfe-tastig!

Ewch i www.tyrfe-tawe.com am ragor o fanylion a lluniau'r 诺yl eleni ac am wybodaeth am Tyrfe Tawe 2007.

Gan: Alun Rhys Chivers


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r 主播大秀 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.



Bws 主播大秀 Cymru
Lluniau
Digwyddiadau


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy