主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
abertawe

主播大秀 主播大秀page
主播大秀 Cymru
主播大秀 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

De Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Trefi

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Natur

骋飞别驳补尘别谤芒耻

Eich Llais

主播大秀 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Abertawe
Adrian Morgan Cofio Eisteddfod Abertawe
Adrian Morgan, Aelod Ifanc o Gyngor yr Eisteddfod Genedlaethol a'r Orsedd, yn bwrw golwg ar lwyddiant Eisteddfod Genedlaethol Abertawe a'r Cylch 2006.
Cawsom wythnos lwyddiannus a chofiadwy ar faes yr Eisteddfod un waith eto eleni, ond ni ddylwn anghofio mai uchafbwynt a ddaeth yn sgil blynyddoedd o baratoi a llafur caled ydoedd yr wythnos fawr a gynhaliwyd ar gyrion Felindre yn Ninas Abertawe. Testun cryn balchder i mi yw cofio'r gweithgarwch byw a fu ymhlith pobl yr ardal, y Cymry Cymraeg a'r di-Gymraeg fel ei gilydd, a hynny er mwyn sicrhau llwyddiant y Brifwyl ym mis Awst eleni.

Mae'r Gymraeg ar gynnydd yn Abertawe; Gwelwyd twf aruthrol mewn addysg Gymraeg yn y ddinas, ac yn ddiweddar cafwyd fod angen ehangu'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg drwy adeiladu ar rhagoriaeth Ysgol Gyfun G诺yr ac agor ail ysgol uwchradd sef Ysgol Gyfun Bryn Tawe. Ym mis Awst eleni, daeth miloedd ar filoedd o Gymry llengar a diwylliedig i ymweld 芒'r ddinas fawr er mwyn atgyfnerthu a chefnogi'r cynnydd hwn a dylwn ddathlu hynny.

Gweithiodd pawb o drigolion y ddinas yn ddyfal ac yn ddiflino er mwyn paratoi i groesawi'r Eisteddfod a chynhaliwyd laweroedd o weithgareddau er mwyn sicrhau llwyddiant ysgubol y gronfa leol. Un o gryfderau'r Eisteddfod, yn ddi-os, oedd atgyfnerthu'r ysbryd o gymuned mewn llawer o ardaloedd yn Abertawe wrth i drigolion pob un ardal gael cyfle unigryw i weithio tuag at nod arbennig; bywiogwyd pob ardal yn y sir a chr毛wyd ymdeimlad newydd o berthyn i genedl. Gwelais bobl yn uniaethu o'r newydd 芒'r iaith Gymraeg ac a diwylliant ein cenedl, a thestun cryn lawenydd i rhai oedd cael cyfle i ailddarganfod eu gwreiddiau a'u Cymreictod. Yn wir, cafodd pob un ohonom gyfle i 'ddal y babi' a chymryd peth o'r cyfrifoldeb am yr 诺yl. Wrth baratoi i groesawi'r Eisteddfod i Abertawe, sylweddolodd nifer o bobl y ddinas, rhai ohonynt am y tro cyntaf, fod yr Iaith Gymraeg a'i diwylliant yn drysor unigryw sydd yn eiddo i bawb yng Nghymru.

Nid hawdd o beth yw cynnal yr 诺yl ddiwylliannol fwyaf yn Ewrop mewn iaith leiafrifol, ond dylwn ymfalch茂o yn y ffaith fod Cymru a'r Gymraeg yn llwyddo i wneud hynny'n flynyddol. Gwyrth yr Eisteddfod Genedlaethol yw gallu'r 诺yl i fodoli fel ynys o Gymreictod am wythnos gyfan ym mis Awst bob blwyddyn - ffenest siop ydyw am bopeth sydd yn arbennig amdanom fel Cymry.

Dylwn gofio mai uchafbwynt ydyw'r 诺yl sy'n dathlu 'proses' na ddaw fyth i ben. Cychwynnodd y broses yn Abertawe blynyddoedd lawer yn 么l ac mae ffrwyth y blynyddoedd hynny yn datblygu ynom ni, trigolion Abertawe, wrth i'r broses barhau i ddylanwadu ar ein bro hyn yn oed wedi i'r Eisteddfod ein gadael. Byddwn yn parhau i elwa o waddol yr Eisteddfod Genedlaethol, wrth iddo gyfoethogi a chryfhau ein bywydau diwylliannol, am flynyddoedd i ddod. Collais gyfrif ar y nifer o bobl a fu'n fy holi 'Where can i learn Welsh?' ac mae'n sicr y gwelwn gynnydd campus yn y nifer o bobl fydd yn mentro i ddysgu'r Cymraeg yn Abertawe. Yr Eisteddfod Genedlaethol fydd yn gyfrifol am hynny.

Aelodau o'r OrseddCawsom fwynhau seremon茂au lliwgar Gorsedd y Beirdd a pheth hyfryd oedd gweld beirdd a llenorion, rhai ohonynt yn ifanc ac eraill ohonynt yn fwy profiadol, yn dod i'r brig. Cafwyd teilyngdod ym mhob un o brif seremoni'r Eisteddfod ac ychwanegwyd at barhad cyfoethog y traddodiad llenyddol disglair sydd yng Nghymru. Cafodd gannoedd o bobl, yn hen ac yn ifanc, gyfle gwych i arddangos eu gallu a'u dawn ar ein llwyfan cenedlaethol a chawson wledd o gystadlu o'r dechrau hyd y diwedd un.

Bywiogwyd y pafiliwn gyda'r hwyr hefyd a chafodd y gynulleidfa niferus gyfle i fwynhau doniau pobl megis Katherine Jenkins, Catrin Finch, Dewi Pws Morris ac eraill. Un o uchafbwyntiau pennaf yr wythnos oedd llwyddiant ysgubol 'Pasiant y Plant' - Halen yn y Gwaed - a oedd yn arwydd sicr fod dyfodol yr iaith Gymraeg, ymhlith y bobl ifanc yn Abertawe, yn fyw ac yn iach. Pleser a phrofiad oedd gweld y cyffro a'r mwynhad yn eu wynebau wrth iddynt berfformio ar y llwyfan ac mae'n sicr y byddant trysori'r profiad o gael gwneud hynny am byth.

Adrian Morgan 芒 Archesgob Caergaent Dr Rowan WilliamsOnd nid perfformio a chystadlu yn unig a gawson ar lwyfan yr Eisteddfod. Rhoddwyd lle teilwng hefyd i fywyd ysbrydol ein cenedl yn y brifwyl; cawson y fraint o wrando ar bregeth gan Archesgob Caergaint, Y Parchedicaf Ddr. Rowan Williams sydd yn enedigol o ddinas Abertawe, yn ystod Oedfa'r Bore Sul a chawson gyflwyniad ar y thema 'Cenedl, Cymuned, Cyfiawnder' gan rhai o bobl ifanc y cylch. Roedd y neges grymus a oedd yn ein hatgoffa i barchu ein cyd-ddyn a'n cenedl yn un, mae'n sicr, a wnaeth argraff ar bawb a'i clywodd.

Rhyfeddaf yn flynyddol at y llu o brofiadau sydd ar y Maes i bawb fydd yn ymweld 芒'r eisteddfod, ond ni ddylwn anghofio chwaith am weithgareddau pwysig y maes ieuenctid. Cefais innau gyfle i fwynhau adloniant Maes B - daeth Dafydd Iwan, Bryn Fon a llu o bobl eraill i'n diddanu - a braf oedd gweld cynifer o bobl ifanc yn mwynhau ac yn ymlacio drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg. Dyma un o'r ffyrdd bwysicaf o ofali nad iaith addysg yn unig ydyw'r Gymraeg. Roedd bod yno yn brofiad a hanner!

Cawsom fwynhau wythnos gofiadwy ar faes anhygoel o gyffroes ac mae Abertawe a'r Cylch yn gyfoethocach o fod wedi croesawi'r Eisteddfod i'r ddinas. Ond ni ddylwn anghofio chwaith fod y 'broses Eisteddfodol' wedi hen ddechrau yn Sir y Fflint erbyn hyn hefyd. Rwy'n sicr y cewch yr un croeso twymgalon a charedig yn y fan honno yn y flwyddyn 2007.

Gan: Adrian Morgan, yn 2006


Cyfrannwch

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Hwlffordd):

Sylw:




Mae'r 主播大秀 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.



Bws 主播大秀 Cymru
Lluniau
Digwyddiadau


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy