Ö÷²¥´óÐã


Explore the Ö÷²¥´óÐã

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod Dinbych 2001

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage

Cymru'r Byd
Cymru'r Byd
» Dinbych 2001
Straeon
Adolygiadau

Lluniau
Gwledd yn Ninbych
Y lle i fod
Canrif o Brifwyl
Y Sîn Roc
Llais Llên

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Cymdeithas yr Iaith yn y Steddfod

O Faes B i'r gwely!

Ta ta Maes B
Nid Cymdeithas yr Iaith sy’n trefnu gigs Maes B eleni wedi i gyngor yr eisteddfod ddatgan na fyddai’n adnewyddu ei gytundeb.

Mae nifer yn credu fod yr eisteddfod wedi gwneud y penderfyniad wedi i Gymdeithas yr Iaith wrthod ymrwymo i beidio â gweithredu’n uniongyrchol ar brif faes yr eisteddfod.

Pwysleisiodd cyd-gadeirydd y gymdeithas bryd hynny, Aled Davies: "Nid yw Cymdeithas yr Iaith yn barod i chwarae gêm yr Eisteddfod trwy gadw’r ddysgl yn wastad am un wythnos o’r flwyddyn – mae’r frwydr i achub y Gymraeg yn un barhaol."

Dywedodd Hywel Wyn Edwards, trefnydd yr Eisteddfod yn y Gogledd, mai diffygion yn y trefniadau diogelwch sydd wrth wraidd y newid.

Ychwanegodd ei fod yn flin i’r Gymdeithas achosi difrod i stondinau yn Llanelli ar ôl arwyddo cytundeb yn dweud na fyddai hynny’n digwydd.

"Fedrwch chi ddim bod yn bartner mewn un man a derbyn arian Maes B ac wedyn ar faes yr Eisteddfod daro’n ôl a malu stondinau rhai o’n prif noddwyr," meddai.

Mewn tair canolfan

Er i’r Gymdeithas golli gafael ar Faes B fe fydd yn trefnu adloniant mewn tri lle yn ardal yr Eisteddfod.

Meddai Ffred Ffransis: "Mae Cymdeithas yr Iaith wedi symud ymlaen eleni. Rydyn ni’n falch o’r hyn yr ydym ni wedi ei greu, sef Maes B, a’i fod yn dal i fodoli. Ond eleni rydyn ni’n cynnig amrywiaeth ac rydyn ni wedi symud ymlaen i greu sîn ar yr ymylon."

Dywedodd i nifer o bobol gwyno yn y gorffennol fod y digwyddiadau i gyd mewn cae

Ychwanegodd y bydd y Gymdeithas yn canolbwyntio eleni ar greu amrywiaeth a fydd yn apelio at gynulleidfa eang.

• Yng nghlwb yr Enwogion yn Y Rhyl bydd cyfle i’r genhedlaeth hynaf weld hen ffefrynnau fel Meic Stevens a Geriant Lovegreen.

• Yn Nhafarn y Tarw , Dinbych bydd bandiau newydd.

• Clwb y Venue, Rhuthun.

Dywedodd mai’r bwriad yw targedu cynulleidfa newydd a mynd i ganol y gymuned leol.

Fe fyddan nhw’n darparu gwasanaeth bws i gludo’r rhai hynny sydd am deithio o Faes B i’r canolfannau hyn.

Ewch i'r rhestr gyflawn o ddigwyddiadau

Her

Meddai Ffred Ffransis: "Yn sicr mae hyn yn rhoi her newydd i Gymdeithas yr Iaith ac rydyn ni am sicrhau fod y Cymry Cymraeg y cael dewis ac amrywiaeth o adloniant. Fe fydd ganddyn nhw hyd at bedwar dewis bob nos. Mae’n amlwg y bydd cystadleuaeth ac rydyn ni am dargedu cynulleidfaoedd nad ydyn nhw yn mynd i Faes B fel arfer lle mae’n well ganddyn nhw fynd i glwb neu dafarn yn hytrach na mynd i ganol cae."


Galwad i ddeffro o'r gwely

Neges ‘wleidyddol’ y Gymdeithas yn yr eisteddfod yw fod angen i Gymru ddeffro ac ar y dydd Gwener bydd protest i bwysleisio’r neges hon gan orymdeithio am ddau o’r gloch o babell y Gymdeithas i babell y Cynulliad Cenedlaethol.

Yno fe fyddan nhw’n galw am Ddeddf Iaith newydd a Deddf Eiddo.

Ymwelir a phebyll y pleidiau gyda gwely pedwar poster yn dweud: "nad oes angen deddf iaith, nad oes angen deddf eiddo, mae’r frwydr drosodd, cerwch i gysgu!"

Eglurodd Ffred Ffransis arwyddocâd y gwely: "Mae’r pleidiau gwleidyddol wedi ceisio creu rhyw gonsensws ynglyn â’r iaith ac felly maen nhw wedi gyrru pobol Cymru i gysgu."

Gwahoddir steddfotwyr i orweddar y gwely - ond bob awr bydd swn byddarol yn eu deffro.


Straeon Eisteddfod 2001:
Ö÷²¥´óÐã
© MMI

Pafiliwn (dydd)
Pafiliwn (nos)
Clecs Clwyd - Dysgwyr
Dinistr - Pabell Roc
Drama
Gigs y Gymdeithas
Gwyddoniaeth
Maes B
Pabell Cymdeithasau
Pagoda
Pabell Lên
Theatr y Maes
Y Stiwdio

Neuadd Ddawns
Be wyddoch chi am  y Steddfod?
[an error occurred while processing this directive]
Be wyddoch chi am  y Steddfod?


Gwledd yn Ninbych
[an error occurred while processing this directive]
Gwledd yn Ninbych
Y byd llyfrau - Llais Llên
Y byd llyfrau - Llais llên
Newyddion diweddaraf y sîn roc
Newyddion Y Sîn Roc
Gemau
Chwaraewch y gemau



About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy