主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod Dinbych 2001

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
Cymru'r Byd
» Dinbych 2001
Straeon
Adolygiadau

Lluniau
Gwledd yn Ninbych
Y lle i fod
Canrif o Brifwyl
Y Sîn Roc
Llais Llên

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Y PafiliwnI 'Ddimbach'

Glyn Evans yn ymweld â thref Dinbych

Dydd Gwener, Awst 3


Yr ydw i鈥檔 synnu braidd na fyddai鈥檙 Steddfod wedi bod ar fy 么l, i arwain ymgyrch i ddenu pobol i Ddinbych yr wythnos nesaf.

Bygythiad i blant drwg

Am flynyddoedd bu pobol yn fy nghyhuddo i o鈥檜 hanfon nhw "i Ddimbach".

"Ti鈥檔 ddigon ag anfon rhywun i Ddimbach, hogyn," meddai Mam ac oedolion eraill wrthym ni blant yn dilyn rhyw ddrygau neu鈥檌 gilydd ar ein rhan.

Ysbyty DinbychDyna oedd Dimbach i ni ers talwm - lle yr oedd plant, oherwydd eu swnian a鈥檜 cambyhafio, yn anfon rhieni ac oedolion eraill.

Yn blentyn yr oedd rhywun, felly, yn ymwybodol iawn o fodolaeth Dimbach ac yr ydw i鈥檔 dal i gofio dychwelyd o drip Ysgol Sul i鈥檙 Rhyl a gweld drwy ffenest y bws yr adeilad anferth yma gyda dynion yn pwyso ar eu sgyfflars neu'n gorffwys ar eu cribiniau a鈥檜 brwsus caled yn yr ardd ac oedolion ar y bws yn dweud, "Dyna fo Dimbach."

Doedd o ddim yn rhywbeth unigryw i ogledd Cymru fod tref yn cael ei hadnabod am ei seilam a dyna oedd Dimbach i ni.

Cysgod ac arogl

Go brin y clywch chi neb yn s么n am anfon pobl i Ddimbach yn yr ystyr hwnnw heddiw ond mi fydd yna ddigon o s么n am fynd i Ddinbych yr wythnos hon a鈥檙 nesaf - clwy traed a genau yn caniatàu.

Ac mae cysgod hwnnw yn dal dros yr Wyl ac arogl ei ddisinffectant wedi hen fod yn hel yn yr awyr o gwmpas y maes erbyn hyn.

Y Sadwrn cyn yr wyl, arogl hwnnw oedd yn cymysgu ar yr awyr 芒 lleisiau plant yn ymarfer eu caneuon yn y pafiliwn.

Codwyd y pafiliwn ar faes gwastad Fferm Kilford ger hen blasty Lleweni ac heb fod yn bell o Eglwys Wen, Santes Marchell, sydd yn cael ei brolio fel yr odidocaf o eglwysi canoloesol Sir Ddinbych.

Stryd gulMae hyn rhyw dair milltir go lew o ganol Dinbych ei hun - "tref ganoloesol" yn 么l yr arwyddion brown ar y ffyrdd i mewn.

Tref y perthyn rhyw hud ac ap锚l arbennig iddi gyda鈥檌 strydoedd cefn culion. A鈥檙 warin cwningod o lwybrau sy'n arwain at y Castell uwchlaw鈥檙 iddi yn atgoffa rhywun rywfaint o鈥檙 strydoedd sy鈥檔 arwain at gastell Caeredin.

Yn lle delfrydol

Ar Sadwrn poeth o haf gwelwch ei fod yn lle delfrydol ar gyfer Castell - "yn uchel ar ben craig" chwedl un o鈥檙 arwyddion - achos wedi yml芒dd yn dringo yma ni fyddai gan neb fawr o galon i ymladd.

Beth bynnag mae yno arwydd wrth y fynedfa yn dweud "Peidiwch a dringo鈥檙 heneb" wrthych, achos dyna ydi castell yng Nghymraeg CADW.

Mae鈥檙 olygfa oddi yma yn ysblennydd gyda鈥檙 dref a鈥檙 wlad islaw ichi.

Ac ar eich ffordd yn 么l i ganol y dref mae bodia鈥檆h traed
yn gwthio yn erbyn trwyn eich sgidiau i lawr yr allt.

Yn L么n Crown yn y dref y mae arwydd arall yn eich rhybuddio rhag dringo - y tro hwn yn ffenest y Denbigh Kitchen Centre sy鈥檔 rhybuddio: "Caution the roof of this building is protected by razor wire" gan brofi fod y meddylfryd canoloesol i gastellu a chaeru yn dal yn fyw yn Ninbych.

Tafarnau clyd

Y Llew AurYr hyn sy鈥檔 taro rhywun wrth grwydro鈥檙 dre yw cymaint o dafarndai clyd a swyddfeydd cyfreithwyr sydd yma - ac efallai fod un yn mynd efo鈥檙 llall - gyda鈥檙 enw gorau ar dwrnai yn L么n Crown, Talog Davies!

Mae Tafarn y Plough yn hysbysebu "cyrfau traddodiadol" yn nhafodiaith y fro ac uwchben drws y Llew Aur y mae arwydd a fydd wrth fodd calon pob Steddfodwr yn cyhoeddi, "Allwedd calon cwrw da".

Ac mae鈥檔 amlwg fod i Ddinbych draddodiad go gyfoethog o lymeitian achos ar lechen ar y llawr ger cofgolofn anferth a gododd y Dr Pierce iddo鈥檌 hun gwelir y geiriau Saesneg, "Now darkly silent Denbigh township rests
Until the taverns spew their midnight guests.
"

Cofgolofn Dr PierceA gallwn ni fod yn siwr nad y tafarnau yn unig fydd yn chwydu wythnos yr Eisteddfod.

Mae'r gofgolofn urddasol a gododd y gwr hynod hwn iddo'i hun mewn cilfach gardd gyferbyn a'r fan lle'r oedd ei dy ond lle mae archfarchnad heddiw!

Llenorion yn cyfrif

Gwilym R. JonesBu dyfodiad yr Eisteddfod yn amlygu ei hun ers yr wythnosau diwethaf a dim ond un arwydd o sut y mae鈥檙 wyl yn tynnu pobl go annisgwyl at ei gilydd yw arddangosfa fechan yn ymwneud 芒 Kate Roberts a Gwilym R. Jones mewn ffenest swyddfa cyfrifydd o bobman.

Y tu allan i Woolworths, wedyn, hysbysebir "Folding chair in carry bag" fel rhywbeth "ideal for the Eisteddfod" a hynny am ddim ond 拢9.99 yn lle pymtheg punt namyn ceiniog gyda鈥檙 rhybudd "only a few left."

Ond os hynny, meddai rhywun wrtho鈥檌 hun, pam eu gwerthu mor rhad - onid cyngor Menter a Busnes fyddai dyblu鈥檙 pris nid ei haneru bron pan fo nwyddau鈥檔 brin?

Eisteddfod Geidwadol

Clwb y CeidwadwyrAc o edrych ar falconi Clwb y Ceidwadwyr ar gornel Llain Portland gellid taeru yn 么l yr arwydd mai rhywbeth y maen nhw yn ei drefnu yw鈥檙 Eisteddfod ac yntau鈥檔 cyhoeddi "Eisteddfod Dinbych a鈥檙 Cylch Clwb Ceidwadwyr."

Da cael cadarnhad swyddogol o鈥檙 fath i鈥檔 amheuaeth mai sefydliad go geidwadol yw鈥檔 Prifwyl!

Ond hold on Defi Jon, beth fydd y Ceidwadwyr yn ei wneud o鈥檙 plastar o luniau Castro islaw arwydd steddfod mawr arall bron gyferbyn â鈥檙 clwb yn ein gwahodd i wrando ar "grwp salsa gwyllt" ac yfed Cwrw Ciwba yn Neuadd y Dref ar Awst 10!

Posteri CastroNid y bydd hynny鈥檔 syndod i鈥檙 rhai sy鈥檔 cofio mai tref y Cynghorydd David Jones - Dai Ciwba - yw hon.

Ac ef, sy鈥檔 cael y clod yn lleol am fod y cyntaf i addurno ei dy â baneri a dreigiau coch i groesawu鈥檙 Eisteddfod.

Chwifio baneri

Ers hynny mae amryw wedi dilyn gyda chefnogaeth dra banerog i鈥檙 Wyl yn y cyffiniau.

Gobeithio y bydd yna achos i chwifio鈥檙 holl faneri hyn erbyn diwedd yr wythnos.

Fu yna ddim pan ymwelodd yr Eisteddfod 芒 Dinbych yn 1939. Fu yna ddim cadeirio na choroni - ond fe enillodd John Gwilym Jones y Fedal Ryddiaith gyda鈥檌 nofel Y Dewis.

Arwydd mewn ffenest siopA hyd yn oed os bydd y Steddfod yn siom y mae gan drigolion Dinbych - a鈥檙 cyffiniau - rywbeth sy'n argoeli cyn wyched â Steddfod i edrych ymlaen ato yn 么l arwydd llachar yn ffenest siop sydd wedi cau ar y sgw芒r;

"Mecsico; Y Dwyrain Pell; China; Brasil; Paris ac yn awr . . . Dinbych.

"Dim ond saith milltir o鈥檙 dref

"Yn agor cyn bo hir . . ."

Mae popeth yn awgrymu mai "i Ddimbach" yw y lle i fynd.
Straeon Eisteddfod 2001:
主播大秀
© MMI

Pafiliwn (dydd)
Pafiliwn (nos)
Clecs Clwyd - Dysgwyr
Dinistr - Pabell Roc
Drama
Gigs y Gymdeithas
Gwyddoniaeth
Maes B
Pabell Cymdeithasau
Pagoda
Pabell Lên
Theatr y Maes
Y Stiwdio

Neuadd Ddawns
Be wyddoch chi am  y Steddfod?
[an error occurred while processing this directive]
Be wyddoch chi am  y Steddfod?


Gwledd yn Ninbych
[an error occurred while processing this directive]
Gwledd yn Ninbych
Y byd llyfrau - Llais Llên
Y byd llyfrau - Llais llên
Newyddion diweddaraf y sîn roc
Newyddion Y Sîn Roc
Gemau
Chwaraewch y gemau



About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy