主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod Dinbych 2001

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
Cymru'r Byd
» Dinbych 2001
Straeon
Adolygiadau

Lluniau
Gwledd yn Ninbych
Y lle i fod
Canrif o Brifwyl
Y Sîn Roc
Llais Llên

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Helyntion trefnydd:
Dygymod â chlwy a phost yn mynd ar goll


Hywel Wyn Edwards yw trefnydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn y gogledd.

Trefnwr sy'n hoff o drefnu

Hywel Wyn EdwardsBu鈥檔 drefnydd eisteddfodau鈥檙 gogledd er 1993 pan adawodd ei swydd yn athro yn Ysgol Glanrafon, Yr Wyddgrug, i weithio gyda鈥檙 brifwyf.

Ar hyn o bryd mae鈥檔 byw y tu allan i鈥檙 Wyddgrug ond fe fu鈥檔 byw yn Ninbych am chwe blynedd yn ystod y saithdegau felly mae鈥檔 hen gyfarwydd a bro鈥檙 Eisteddfod.

Cyn ei swydd bresennol bu鈥檔 trefnu eisteddfod yr Urdd yn Sir y Fflint a Dwyrain Clwyd am dros 20 mlynedd.

Ef oedd ysgrifennydd pwyllgor gwaith eisteddfod yr Urdd yn yr Wyddgrug yn 1984 ac yr oedd yn ysgrifennydd pwyllgor gwaith yr eisteddfod genedlaethol pan ymwelodd a鈥檙 Wyddgrug yn 1991.

Yn Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth 1992 a Llanelwedd 1993 yr oedd yn un o鈥檙 cyfarwyddwyr llwyfan.

Hefyd, bu鈥檔 rhedeg rhagbrofion Eisteddfod yr Urdd yn genedlaethol am ddeng mlynedd yn ogystal 芒 threfnu鈥檙 eisteddfod yn sirol.

"Dwi鈥檔 licio trefnu. Dwi鈥檙 math yna o berson. Mae鈥檙 swydd yn un ddiddorol does 鈥榥a ddim byd arall tebyg iddi yng Nghymru. Mae鈥檔 swydd unigryw."

Tan Orffennaf 20 yr oedd swyddfa鈥檙 Eisteddfod yng nghanol tref Dinbych ond ers hynny bu ar y maes ei hun.

Yr wythnos gyda'r lleiaf o stres

Swyddfa'r EisteddfodWedi鈥檙 holl waith caled fe fydd Hywel Wyn Edwards yn cael y cyfle i fwynhau ffrwyth ei lafur ddechrau Awst.

"Pan yw鈥檙 wythnos yn llwyddiannus mae鈥檔 deimlad braf iawn. Mewn gwirionedd, wythnos yr eisteddfod ei hun yw鈥檙 adeg a鈥檙 lleiaf o stres ac mae鈥檔 gyfle i ymlacio," meddai.

Mae鈥檔 egluro mai profiad go ryfedd yw gweld yr wyl yn dirwyn i ben ddiwedd wythnos.

"Nos Sul fe fydda i鈥檔 teimlo鈥檔 ofnadwy o fewn hanner awr wedi i鈥檙 gymanfa orffen fe fydd popeth o fewn y pafiliwn wedi mynd.

"Wedyn fydda i鈥檔 dechrau meddwl oedd o werth yr holl ymdrech. Wedyn mae鈥檔 amser cychwyn eto."

Nid yw Hywel Edwards yn symud ty ond yn teithio bob dydd i鈥檙 swyddfa lle bynnag mae honno - dros y ddwy flynedd nesaf, Meifod ym Maldwyn fydd ei faes llafur gyda鈥檙 swyddfa yn y Trallwng! Yng Nghaernarfon fydd eisteddfod y gogledd wedi honno.

Mae aelodau eraill o鈥檙 staff yn fwy tueddol o rentu lle am gyfnod o ddwy flynedd a symud gyda鈥檙 Steddfod bob tro.

Bygythiad y clwy

Heb os y cur pen mwyaf eleni fu鈥檙 clwy traed a genau - ac y mae鈥檔 dal i fod.

"Mae hyn wedi rhoi llawer o bwysau ychwanegol, roedd yna amheuaeth i ddechrau a fyddai yna eisteddfod o gwbwl."

"Doedden ni ddim yn gwybod a fyddai鈥檙 corau a鈥檙 part茂on am gystadlu am nad oedden nhw鈥檔 gallu ymarfer yn ystod yr argyfwng.

"Hefyd roedden ni鈥檔 poeni a fyddai stondinwyr am ddod i鈥檙 maes ac a fyddai carafanwyr yn dod yma eleni."

Ond erbyn hyn mae dyddiad cau鈥檙 cystadlaethau wedi bod a鈥檙 ymateb wedi bod yn dda iawn, meddai.

Erbyn dechrau Gorffennaf yr oedd 350 o garafanau wedi sicrhau lle ar y maes.

Casglu arian

Ac er gwaethaf cwmwl y clwy llwyddodd yr ardaloedd lleol I nid yn unig gyrraedd n么d y gronfa leol ond i gasglu mwy na鈥檙 disgwyl.

"Roedden ni wedi cyrraedd y targed fwy neu lai ddechrau Ebrill pan oedd y clwy yn ei anterth. Wedi hynny roedd nifer o bethau鈥檔 cael eu gohirio."

Deunydd ar goll

Trafferth fwy annisgwyl oedd un deunydd cystadleuaeth gerdd.

Am nad oedd y beirniad gartref pan alwodd y postmon gadawyd nodyn iddo gasglu鈥檙 parsel o fewn amser penodol.

Ond fe anghofiodd ac anfonwyd y gwaith i Belffast lle鈥檙 anfonir popeth nad yw鈥檔 cael ei gasglu ym Mhrydain.

Creodd hyn dipyn o banig gan fod y dyddiad cau ar gyfer y beirniadaethau ar Fai 15.

Uchafbwynt

Ond beth yw uchafbwynt gwyl gyda chymaint o binaclau I鈥檙 dyn sy鈥檔 ei threfnu?

"Dwi鈥檔 hoffi gweld dawnsio a chlywed canu," meddai.

"O ran cyngherddau fe fydda i wastad yn mynd i gyngerdd C么r yr Eisteddfod. Maen nhw wedi bod yn ymarfer am flwyddyn a hanner yn wythnosol a dwi鈥檔 gwerthfawrogi hynny鈥檔 fawr," ychwanegodd.

C么r enfawr

Ac mae鈥檔 amlwg fod yr eisteddfod ar ymweliad ag ardal gerddgar iawn eleni.

Ar gyfer yr ymarfer cyntaf ar gyfer y c么r daeth 500 o gantorion brwdfrydig ynghyd.

Ond dim ond lle i 345 sydd ar y llwyfan felly roedd hi鈥檔 anodd iawn penderfynu beth i鈥檞 wneud 芒 nifer mor fawr.

"Erbyn hyn rydym ni lawr i 350 gan fod rhai wedi鈥檌 gweld yn anodd parhau. Doedd y c么r ddim yn gallu ymarfer adeg y clwy ac felly erbyn hyn maen nhw鈥檔 ymarfer ddwy waith yr wythnos.

"Mae nifer yn aelodau o gorau eraill felly mae pawb yn gweithio鈥檔 galed iawn."

Straeon Eisteddfod 2001:
主播大秀
© MMI

Pafiliwn (dydd)
Pafiliwn (nos)
Clecs Clwyd - Dysgwyr
Dinistr - Pabell Roc
Drama
Gigs y Gymdeithas
Gwyddoniaeth
Maes B
Pabell Cymdeithasau
Pagoda
Pabell Lên
Theatr y Maes
Y Stiwdio

Neuadd Ddawns
Be wyddoch chi am  y Steddfod?
[an error occurred while processing this directive]
Be wyddoch chi am  y Steddfod?


Gwledd yn Ninbych
[an error occurred while processing this directive]
Gwledd yn Ninbych
Y byd llyfrau - Llais Llên
Y byd llyfrau - Llais llên
Newyddion diweddaraf y sîn roc
Newyddion Y Sîn Roc
Gemau
Chwaraewch y gemau



About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy