主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod Dinbych 2001

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
Cymru'r Byd
» Dinbych 2001
Straeon
Adolygiadau

Lluniau
Gwledd yn Ninbych
Y lle i fod
Canrif o Brifwyl
Y Sîn Roc
Llais Llên

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Grym y lluniau

Arddangosfa yn dangos dylanwad rhyfeddol Cymro o fro'r Eisteddfod gyda'i gamera

Clawr un o lyfrau Philip Jones GriffithsBydd gwaith Cymro sy鈥檔 un o dynwyr lluniau mwyaf dylanwadol America i鈥檞 gweld yn y Babell Gelf a Chrefft yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ninbych.

Daeth Philip Jones Griffiths i amlygrwydd pennaf yn ystod rhyfel Vietnam pan fu ei luniau trawiadol yn fodd i agor llygaid Americaniaid gartref i鈥檙 hyn oedd yn digwydd yn Fietnam.

Fe fuo nhw hefyd yn fodd i newid agwedd pobol tuag at y rhyfel.

Talu'n ddrud

Yr oedd ei lyfr o luniau, Vietnam Inc yn gyhoeddiad dylanwadol iawn ac yn un y mae casglwyr llyfrau heddiw yn barod i dalu鈥檔 ddrud am yr argraffiad cyntaf ohono.

Cymro Cymraeg sy鈥檔 dod o Ruddlan brin ddeng milltir o faes yr Eisteddfod yw Philip Jones Griffiths yn wreiddiol er wedi byw a gweithio yn yr Unol daleithiau ers blynyddoedd.

Daeth yn adnabyddus ar draws y byd am ei waith fel ffotograffydd newyddiadurol.

Cafodd ei eni yn Rhuddlan yn 1936 ac wedi gadael yr ysgol fe aeth i astudio Fferylliaeth.

Bu鈥檔 dynnwr lluniau rhan amser am gyfnod ac wedi hynny bu鈥檔 gweithio gyda鈥檙 Observer yn Llundain.

Lluniau gwleidyddol

Ddwy flynedd wedyn gadawodd ei swydd er mwyn dilyn gyrfa fel tynnwr lluniau yn gweithio ar ei liwt ei hun.

Mae ei waith yn amlygu鈥檙 ffaith ei fod yn dynnwr lluniau sy鈥檔 poeni am faterion gwleidyddol a hawliau dynol.

Tynnwyd y lluniau cyntaf ganddo yn Rhyfel Algeria yn 1962 lle bu鈥檔 byw gyda鈥檙 milwyr yng nghanol y mynyddoedd am ddeufis.

Ond y lluniau trawiadol a chignoeth yn dangos gwir natur y rhyfel yn Fietnam a ddaeth ag ef i amlygrwydd pennaf.

Yn wahanol i鈥檙 propaganda gartref dangosodd ef i Americaniaid mai ymgais oedd y rhyfel gan y bobol i ddod yn rhydd o afael imperialaeth.

Ddim yn plesio

Doedd ei luniau ddim yn rhai oedd yn plesio yr awdurdodau yn America a hwythau yn dangos nid yn unig fryntni a chaledi rhyfel ond hefyd filwyr yn ymweld a phuteiniaid ifainc.

Gyda'r enwocaf o'i luniau yw un o blentyn yn dal ei law dros ei wyneb sydd wedi ei lapio yn llwyr â bandejus.

Mae llun arall o filwr wedi ei anafu a fu'n cerdded am ddyddiau gyda'i goluddion yn ei dun bwyd.

O鈥檙 herwydd yr oedd yr asiantaeth yr oedd yn gweithio iddi yn cael trafferth gwerthu ei luniau.

Ond bu lluniau a dynnodd o Jackie Kennedy ar wyliau gyda鈥檌 chymar yng Nghambodia yn fodd i ddod 芒 thipyn o arian iddo barhau a鈥檌 ymdrechion i ddweud y gwir am yr hyn a ddigwyddai yn Fietnam.

Yn 1971 y cyhoeddodd ei lyfr Vietnam Inc yn cynnwys lluniau o鈥檙 rhyfel. Dewisodd y teitl gyda gofal er mwyn cyfleu鈥檙 ffaith fod Llywodraeth America yn rhedeg y rhyfel fel busnes.

Amrywiaeth o bynciau

Er mai am Fietnam y mae rhywun yn meddwl gyntaf o glywed enw Philip Jones Griffiths y mae o wedi tynnu lluniau mewn dros 140 o wledydd ar bum cyfandir y byd gan ganolbwyntio ar Algeria, Gogledd Iwerddon, Kuwait, a Bosnia.

Mae wedi ymdrin ag amrywiaeth eang o bynciau ar wah芒n i erchylltra rhyfel gan gynnwys crefydd yng Nghambodia, sychder yn yr India a thlodi yn Texas.

Ei lyfr diweddaraf yw Dark Odyssey sy鈥檔 cynnwys 70 o luniau sy鈥檔 cynrychioli ei waith dros y deugain mlynedd diwethaf.

Mae鈥檔 dal i grwydro Indo-Tseina gyda鈥檌 gamera. Mae鈥檙 arddangosfa yn y babell Gelf a Chrefft yn olrhain ei waith o鈥檙 chwedegau hyd heddiw ac fe fydd yn sicr o fod yn un o arddangosfeydd mwyaf gwefreiddiol y Genedlaethol ac yn deyrnged haeddiannol i broffwyd yn ei wlad ei hun.



Straeon Eisteddfod 2001:
主播大秀
© MMI

Pafiliwn (dydd)
Pafiliwn (nos)
Clecs Clwyd - Dysgwyr
Dinistr - Pabell Roc
Drama
Gigs y Gymdeithas
Gwyddoniaeth
Maes B
Pabell Cymdeithasau
Pagoda
Pabell Lên
Theatr y Maes
Y Stiwdio

Neuadd Ddawns
Be wyddoch chi am  y Steddfod?
[an error occurred while processing this directive]
Be wyddoch chi am  y Steddfod?


Gwledd yn Ninbych
[an error occurred while processing this directive]
Gwledd yn Ninbych
Y byd llyfrau - Llais Llên
Y byd llyfrau - Llais llên
Newyddion diweddaraf y sîn roc
Newyddion Y Sîn Roc
Gemau
Chwaraewch y gemau



About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy