Ö÷²¥´óÐã


Explore the Ö÷²¥´óÐã

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod Dinbych 2001

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



Ö÷²¥´óÐã Ö÷²¥´óÐãpage

Cymru'r Byd
Cymru'r Byd
» Dinbych 2001
Straeon
Adolygiadau

Lluniau
Gwledd yn Ninbych
Y lle i fod
Canrif o Brifwyl
Y Sîn Roc
Llais Llên

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb




Philip Jones Griffiths'Balch o fod adref'

Y ffotograffydd Philip Jones Griffiths wedi cyrraedd yr Eisteddfod


Mae Philip Jones Griffiths yn falch iawn bod ei waith yn cael ei arddangos yn y Babell Gelf a Chrefft yn yr Eisteddfod eleni ac mae’n ei ystyried yn fraint.

Yn enedigol o Ruddlan mae Philip Jones Grifftiths yn ffotograffydd byd enwog ac yr oedd ar faes yr Eisteddfod yn Ninbych beth cyntaf fore Sadwrn.

Yn enwog am ei luniau o ryfeloedd yn enwedig Rhyfel Fietnam yr oedd wedi hedfan o Efrog Newydd i ddod i weld yr arddangosfa.

"Dwi’n gynnyrch Dyffryn Clwyd ac mae bob amser yn dda bod adref," meddai wrth Ö÷²¥´óÐã Cymru'r Byd.

Dal i deithio
Mae’r ffotograffydd hwn yn dal i deithio o gwmpas y byd gyda’i gamera. Yr wythnos nesaf fe fydd yn mynd yn ôl i Gambodia ac Indonesia ac wedyn fe fydd yn hedfan i Lundain erbyn Hydref 1af ar gyfer lansiad ail argraffiad ei ‘Vietnam Ink’.

Mae wrth ei fodd yn teithio o amgylch Asia "Mae na rhythym arbennig i fywyd yn Asia a dwi wrth fy modd gyda hynny."

Lle dechreuodd y diddordeb mewn ffotograffiaeth felly? Wedi gadael yr ysgol fe aeth Philip Jones Griffiths i weithio fel fferyllydd. Ond cafodd lond bol ar gyfri’r tabledi bob dydd a phenderfynodd newid cyfeiriad a dilyn gyrfa’n tynnu lluniau.

Dilyn ei reddf
Ni dderbyniodd unrhyw hyfforddiant dim ond dilyn ei reddf. "Pan oeddwn i’n fferyllydd roeddwn i’n dysgu am gemeg a ffiseg ac felly roedd hyn yn gymorth i mi wrth i mi droi at dynnu lluniau. Doedd ‘na ddim mewn ffotograffiaeth oedd yn fy nrysu wedyn. Dwi wastad wedi deall prif egwyddor y grefft sef meddwl byw a llygaid craff.

Yn fuan teimlodd yr ysfa i fynd i’r gwledydd hynny lle roedd gwrthdaro a dal y cyfan gyda’i gamera. "Mae’n anodd dweud yn sicr pam y mae gen i ddiddordeb mewn gwrthdaro ond mae wedi bod yna erioed. Yr hyn yw gwrthdaro fel arfer yw grwp bychan o bobol yn y byd yn ceisio rheoli grwp sy’n fwy. Mae pethau’n cael eu datgleu yn ystod rhyfel a dyma amser lle gallwch weld pethau’n glir."

Yn y dyfodol fe allwn edrych ymlaen am fwy o lyfrau gan Mr Griffiths "Mae’n anochel y bydda i’n gwneud llyfr ar Gambodia a’r newidiadau yn Fietnam ers y rhyfel. Ond un broblem wrth ysgrifennu llyfr yw nad oes dim esgus gennych i fynd yno mor aml wedyn."

Straeon Eisteddfod 2001:
Ö÷²¥´óÐã
© MMI

Pafiliwn (dydd)
Pafiliwn (nos)
Clecs Clwyd - Dysgwyr
Dinistr - Pabell Roc
Drama
Gigs y Gymdeithas
Gwyddoniaeth
Maes B
Pabell Cymdeithasau
Pagoda
Pabell Lên
Theatr y Maes
Y Stiwdio

Neuadd Ddawns
Be wyddoch chi am  y Steddfod?
[an error occurred while processing this directive]
Be wyddoch chi am  y Steddfod?


Gwledd yn Ninbych
[an error occurred while processing this directive]
Gwledd yn Ninbych
Y byd llyfrau - Llais Llên
Y byd llyfrau - Llais llên
Newyddion diweddaraf y sîn roc
Newyddion Y Sîn Roc
Gemau
Chwaraewch y gemau



About the Ö÷²¥´óÐã | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy