主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod Dinbych 2001

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
Cymru'r Byd
» Dinbych 2001
Straeon
Adolygiadau

Lluniau
Gwledd yn Ninbych
Y lle i fod
Canrif o Brifwyl
Y Sîn Roc
Llais Llên

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Shakespeare ar y llechen yn y Gymraeg

Llechan LasYn Theatr y Maes brynhawn Llun perfformiwyd Taith wib drwy rhai o ddram芒u Shakespere gan Gwmni鈥檙 Llechan Las Bethesda.

Roedden nhw wedi dewis perfformio darnau o bedair drama gan William Shakespeare a oedd wedi鈥檜 cyfieithu i鈥檙 Gymraeg.

Perfformiwyd detholiad o Romeo a Juliet, Marsiandwr Fenis, Hamlet a Nos Ystywyll.

Roedd y dewis o ddram芒u yn un doeth iawn gan fod yma ddigon o amrywiaeth a chyfle i鈥檙 gynulleidfa fwynhau鈥檙 llon a鈥檙 lleddf, y dwys a鈥檙 digirf.

Cyfarwydd
Wrth gwrs dyma rai o ddram芒u mwyaf poblogaidd y dramodydd enwog hwnnw o鈥檙 unfed ganrif ar bymtheg ac felly roedd y mwyafrif yn gyfarwydd a鈥檙 cymeriadau oedd ar y llwyfan.

Ond i鈥檙 rheiny nad oedden nhw鈥檔 gyfarwydd iawn 芒 dram芒u Shakespere doedd dim angen poeni gan fod storiwr yn cyflwyno鈥檙 stori鈥檔 fras ar ddechrau pob drama.

Roedd hyn yn golygu fod pob darn felly鈥檔 cael ei roi yn ei gyd-destun.

Eurwen Llewelyn Jones oedd y cynhyrchydd ac yn falch iawn fod y cwmni鈥檔 cael y cyfle i lwyfannu rhai o ddram芒u Shakespere: "Dwi wrth fy modd a dram芒u Shakespeare. Dwi鈥檔 cael buzz o wrando, mae 鈥榥a rhythm yn y geiriau i mi."

Dechreuwyd y rhaglen gyda Romeo a Juliet roedd hyn yn ddewis doeth gan fod y stori鈥檔 gyfarwydd i bawb. Trasiedi yw Romeo a Juliet a llwyddodd Caren Brown (Juliet) gyda鈥檌 pherfformiad grymus i fynd dan groen y cymeriad a chreu naws y ddrama.

Gwrthgyferbyniad llwyr wedyn i hyn oedd Marsiandwr Fenis. Dewisodd y cwmni olygfa鈥檙 llys ac roedd digon o fwrlwm yn yr olygfa o鈥檌 gymharu 芒 dwyster y ddrama flaenorol. Roedd y gwisgoedd lliwgar yn cyfleu naws llys o鈥檙 16ed ganrif i鈥檙 dim.

Iddewon
Mae Shakespere yn yr olygfa hon yn mynegi teimladau鈥檙 oes tuag at yr Iddewon. Roedd hwn yn ddarn addas iawn i鈥檞 berfformio gan ei fod yn stori ynddo鈥檌 hun heb orfod bod yn ymwybodol o weddill ddrama.

Darn o Hamlet gafodd ei pherfformio nesaf gyda perfformiadau graenus gan yr actorion. Fe鈥檌 dilynwyd gyda Nos Ystywyll a golygfa ddoniol o鈥檙 ddrama honno. Llwyddwyd i gyfelu cymeriad balch a ffroenuchel Malfolio i鈥檙 dim.

Roedd yna nifer o elfennau drwy gydol y rhaglen oedd yn ychwanegu at yr awyrgylch. Ar ochr chwith y llwyfan roedd grwp o gerddorion. Roedd y rhain yn perfformio ar ddechrau鈥檙 cynhyrchiad wrth i鈥檙 gynulleidfa ddod i mewn i鈥檙 theatr a rhwng y dram芒u.

Yn sicr roedd y gerddoriaeth yn creu naws oes Shakespeare ac yn creu awyrgylch arbennig yn y theatr. Hefyd roedd yn gyflwyniad i鈥檙 dram芒u gan fod y gerddoriaeth leddf yn awgrymu mai golygfa ddwys oedd o鈥檔 blaen a鈥檙 gerddoriaeth fywiog yn ein paratoi ar gyfer golygfa ysgafn.

Rhaid canmol y gwisgoedd hefyd. Mae gwisgoedd yn hynod bwysig wrth berfformio drama glasurol er mwyn gosod y cyd-destun.

Llechan LasGorffennwyd y rhaglen gyda chan gan y ffwl. Rhan o Nos Ystywyll oedd hwn ond roedd wedi鈥檌 ddewis yn fwriadol er mwyn cloi鈥檙 perfformiad. Roedd yn ddiweddglo da i鈥檙 daith wib gan ei fod eto鈥檔 ychwanegu at naws a hynafiaeth y dram芒u.

Llwyddodd Cwmni鈥檙 Llechan Las felly i roi darlun cytbwys i ni o ddram芒u Shakespere. Roedd yma rywbeth i blesio pawb sy鈥檔 hoff o waith y dramodydd hwn o gomedi i drasiedi a鈥檙 cwbwl mewn perfformiad graenus iawn.

Bydd Cwmni鈥檙 Llechan Las yn perfformio鈥檙 ddrama hon eto yn Theatr Gwynedd ar Fedi鈥檙 8fed.


Straeon Eisteddfod 2001:
主播大秀
© MMI

Pafiliwn (dydd)
Pafiliwn (nos)
Clecs Clwyd - Dysgwyr
Dinistr - Pabell Roc
Drama
Gigs y Gymdeithas
Gwyddoniaeth
Maes B
Pabell Cymdeithasau
Pagoda
Pabell Lên
Theatr y Maes
Y Stiwdio

Neuadd Ddawns
Be wyddoch chi am  y Steddfod?
[an error occurred while processing this directive]
Be wyddoch chi am  y Steddfod?


Gwledd yn Ninbych
[an error occurred while processing this directive]
Gwledd yn Ninbych
Y byd llyfrau - Llais Llên
Y byd llyfrau - Llais llên
Newyddion diweddaraf y sîn roc
Newyddion Y Sîn Roc
Gemau
Chwaraewch y gemau



About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy