主播大秀


Explore the 主播大秀

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod Dinbych 2001

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf



Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



主播大秀 主播大秀page

Cymru'r Byd
Cymru'r Byd
» Dinbych 2001
Straeon
Adolygiadau

Lluniau
Gwledd yn Ninbych
Y lle i fod
Canrif o Brifwyl
Y Sîn Roc
Llais Llên

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


Sioe鈥檙 plant cynradd yn amserol, ddoniol, fyrlymus

Gyda miri dewis Archdderwydd newydd yn cyrraedd ei benllanw roedd thema A Oes Ateb?, Sioe Ysgolion Cynradd Dalgylch yr Eisteddfod yn y Pafiliwn nos Sadwrn yn amserol - ac yn ddireidus.

Ac wrth gwrs, rhaid mynd gam neu bedwar ymhellach os am ddychan go iawn.

Yn lle cynnal pleidlais, ateb plant ysgolion Dinbych oedd cael cystadeuaeth Pwy sy isio bod yn Archdderwydd? Run fath a Pwy sy isio bod yn filiwn锚r?

Weithiau mae ymgeiswyr ar yr Archdderwyddiaeth yn honnu nad ydyn nhw, mewn gwirionedd, wir eisiau鈥檙 swydd. Ond bod pobol yn pwyso arnyn nhw. Ddim felly efo cystadleuaeth fel hon.

"Tomos Dolben Hughes oedd Chris Tarrant ac un doniol iawn oedd o," meddai Llinos Snelson aeth i鈥檙 perfformiad ar ran 主播大秀 Cymru鈥檙 Byd.

"Y patrwm oedd bod y cystadleuwyr yn gorfod ateb cwestiynau am gymeriadau hanesyddol Cymru - a鈥檙 ardal o ran hynny. Wedyn bydden ni鈥檔 cael cyflwyniadau am y cymeriad hynny.

"Roedd y cwbl yn ddoniol tu hwnt, er bod y patrwm - ar 么l cael ei sefydlu - ychydig yn amlwg.

"Ond roedd yr hiwmor, y doniolwch, y canu gwych - yn enwedig o gofio mai plant ysgol cynradd oedd y rhain - a鈥檙 coriograffi bywiog yn peri i ni anghofio unrhyw ystyriaethau o鈥檙 fath."

Archdderwyddes!

Roedd y fwydr fawr am gael bod yn Archdderwydd neu Archdderwyddes - gwarchod pawb! - rhwng Bryn Br锚n a Modryb Meinir.

Oedd, roedd Modryb Meinir am fod yr Archdderwyddes gyntaf yn hanes Gorsedd Beirdd Ynys Prydain.

Ac yr oedd y teulu鈥檔 gwylio pob cam - gwag neu gymwys - o鈥檌 eiddo. Fe gawson ni sawl j么c dda wrth iddi fyfyrio am enw groseddawl priodol iddi hi ei hun, megis Meinir Orsedd, Meinir Mynydd ac ati.

Roedd yn rhaid iddi brofi ei bod yn meddu st么r o wybodaeth am gymeriadau fel Owain Glyndwr, Catrin o Ferain, H. M. Stanley - heb son am Dei Tomos, Brynle Williams a Tony Blair!

Sgriptio cryf

"Roedd y sgript yn gryf ac yn ddoniol a鈥檙 holl gyflwyniad yn slic iawn," meddai Llinos.

"Weithiau, fe all bod rhai o鈥檙 jocs yn lleol - doedd ots gen i, rwyn dod o鈥檙 ardal - ond hwyrach bod yna rai yn y gynulleidfa鈥檔 crafu鈥檜 pennau weithiau. Dwi ddim yn meddwl i hyn darfu llawer ar neb, beth bynnag."

Roedd yn agos i 200 o blant o dros ugain o ysgolion yn y cast a rhaid canmol a llongyfarch yr holl athrawon fu鈥檔 hyfforddi鈥檙 plant.

"Buasai鈥檔 annheg i gyfeirio at ambell un yn fwy na鈥檙 lleill," meddai Llinos. "Roedden nhw i gyd yn ardderchog. Dwi鈥檔 siwr y cawn ni weld nifer o鈥檙 perfformwyr unigol ar lwyfannau yn y dyfodol.

"Fe gawson ni sioe oedd yn wirioneddol ddoniol a byrlymus."
Straeon Eisteddfod 2001:
主播大秀
© MMI

Pafiliwn (dydd)
Pafiliwn (nos)
Clecs Clwyd - Dysgwyr
Dinistr - Pabell Roc
Drama
Gigs y Gymdeithas
Gwyddoniaeth
Maes B
Pabell Cymdeithasau
Pagoda
Pabell Lên
Theatr y Maes
Y Stiwdio

Neuadd Ddawns
Be wyddoch chi am  y Steddfod?
[an error occurred while processing this directive]
Be wyddoch chi am  y Steddfod?


Gwledd yn Ninbych
[an error occurred while processing this directive]
Gwledd yn Ninbych
Y byd llyfrau - Llais Llên
Y byd llyfrau - Llais llên
Newyddion diweddaraf y sîn roc
Newyddion Y Sîn Roc
Gemau
Chwaraewch y gemau



About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy