主播大秀

Cerdd gaeth yn ennill coron y cerddi rhydd

03 Awst 2009

Ceri Wyn Jones a'r Archdderwydd Selwyn Iolen

Bardd y goron yn ddiedifer iddo ganu'n gaeth

Pe byddai cystadleuaeth y goron wedi nacau cerddi yn y mesurau caeth - fel mae'n gwneud yn aml iawn - ni fyddai bardd buddugol Y Bala wedi cystadlu o gwbl.

Wrth gael ei holi wedi ei goroni dywedodd Ceri Wyn Jones mai bardd y mesurau caeth yn unig yw ef ac na fyddai'n ystyried cystadlu ar y mesurau rhydd.

Yr oedd y ffaith i gerdd yn y mesurau caeth ddod yn fuddugol mewn cystadleuaeth sy'n draddodiadol yn cael ei hystyried yn un y canu rhydd yn destun trafod ar y maes yn syth wedi seremoni'r coroni.

Ond dywedodd y bardd buddugol na theimlai'n euog o gwbl iddo weld y bwlch yn rheolau'r gystadleuaeth a ganiataodd iddo gystadlu. ennill gyda cherdd gaeth mewn cystadleuaeth sy'n draddodiadol yn cael ei hystyried yn un y canu rhydd.

Yn wir, ni fyddai wedi cystadlu o gwbl oni bai y caniateid cyfansoddi ar y mesurau caeth.

"Pe byddai geiriad y gystadleuaeth wedi dweud cerddi rhydd fyddwn i ddim wedi cystadlu - fe fyddwn i wedi gobeithio cael sianel arall rywbryd i'r cerddi," meddai.

Ceri Wyn Jones

Bardd caeth yn unig

"Dydw i ddim yn fardd yn y mesurau rhydd - os ydw i'n fardd o gwbl bardd y mesurau caeth ydw i," meddai

Ychwanegodd iddo edrych ar eiriad y gystadleuaeth dros yr ugain mlynedd ddiwethaf cyn cystadlu a chanfod mai dim ond naw o weithiau mae'r Eisteddfod wedi gofyn yn benodol am gerdd sydd yn rhydd neu heb fod mewn cynghanedd gyflawn.

"Felly mae yna 11 o gyfleon eraill wedi bod yn yr ugain mlynedd ddiwethaf lle gallai rhywun fod wedi sgrifennu mewn cynghanedd gyflawn neu y mesurau caeth fel y dewisais i y tro hwn," meddai.

Dywedodd i'r cerddi fod yn corddi ers blynyddoedd ym mer ei esgyrn ond mai dyddiad cau y gystadleuaeth hon fu'r sbardun iddo eu cwblhau.

"Yr oedden nhw'n wirioneddol wedi corddi yn fy achos i oherwydd mae yna sail benodol iawn i'r dilyniant.

I'w ewythr

"Dwi di cyflwyno'r dilyniant i fy ewythr, y Parchedig Aled ap Gwynedd, a fu farw o glefyd ciaidd motor niwron chwe blynedd yn 么l.

"Ac yntau yn weinidog yr efengyl bron nad oedd ei ffydd ef yn cryfhau po salaf oedd e'n mynd ac i rywun fel fi ei wylio roedd e'n anghredadwy oherwydd dwi'n rhywun sydd wastad wedi simsanu rhwng cred ac anghred ond yr oedd yn rhai edmygu wrth weld dyn oedd yn ffaelu siarad oherwydd ei gyflwr ond oedd yn ymgorffori'r ffydd Gristnogol - yr oedd e'n ysbrydoliaeth ar un ystyr ond hefyd yn anodd ei ddirnad," meddai.

Ond ychwanegodd nad cerddi coffa yw'r cerddi er bod dwy o'r cerddi yn cyfeirio y Parchedig Aled ap Gwynedd a'r rheini "yn sail emosiynol" i'r dilyniant.

"Ond hefyd rwy'n edrych ar y pwnc o ffydd, dadrith ac anghred yn wyneb y ffaith fy mod i yn 诺yr ac yn nai i bregethwyr a fy rhieni yn gapelwyr selog ond finne ddim.

Tyndra ffydd

Ond fy mod i wedi dechrau ar y gwaith o fod eisiau gweld fy mhlant yn cael eu magu yn yr union ffydd honno y mae gen i amheuon amdani. Felly, yn y tensiynau hynny roeddwn i'n gweld bod posibilrwydd gweithio dilyniant.

"Os rhywbeth gallech chi ddadlau fod y dilyniant yn rhyw fath o gerdd hir yn ei hunan - mae yna ryw naratif resymegol yn gweithio'i ffordd drwy'r holl beth.

"Mae'n cychwyn gyda minnau yn dwyn i gof y profiad arswydus yna gafodd cymaint o nghenhedlaeth i o orfod dweud adnod yn capel, dysgu adnod nos Sadwrn i'w hadrodd wedyn ddydd Sul a phobl yn dweud wrtha i ar 么l mynd trwy'r artaith yma fy mod yn mynd i ddilyn fy nhaid [a bod yn bregethwr].

"Roedd y peth yn mynd trwydda i achos doedd dim diddordeb yn y byd genna i ond yn rhyfeddol iawn mae'r dilyniant yn gorffen gyda cherdd sydd yn fy narlunio yn darllen stori'r geni i'r ddau grwt sydd genna i, sef yr union efengyl ag oedd fy nhaid wedi ei phregethu a'm hewythr wedi ei phregethu am flynyddoedd - ac mae hyn yn wir, fe ddigwyddodd e'r Nadolig diwethaf," meddai.

Disgrifiodd y profiadau hyn fel rhai sy'n wir am nifer o'i genhedlaeth ef a gafodd fagwraeth gapelyddol ac sydd ddim yn siwrb a ddyle nhw drosglwyddo yr efengyl i'w plant.


Straeon eraill

Newyddion

Blogiau 主播大秀 Cymru

Nia Lloyd Jones

Doeddwn i ddim yn gweithio gefn llwyfan tan hanner dydd a'r gystadleuaeth gyntaf ar ...

Nia Lloyd Jones, 13 Awst 2012

Canlyniadau

C么r Cynta i'r Felin

Rhestr lawn

Canlyniadau'r wythnos yn llawn.

Cylchgrawn

Ffilm

Y celfyddydau

Blog, adolygiadau a straeon o fyd y theatr, llyfrau a ffilm gydol y flwyddyn.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.