主播大秀

Sut i gyrraedd y maes

  1. Maes yr Eisteddfod
  2. Meysydd parcio
  3. Maes B (maes ieuenctid)
  4. Clwb Rygbi Glynebwy
  5. Maes C (maes carafanau)
  6. Gorsaf drenau

Lleolir Eisteddfod Genedlaethol 2010 ar safle'r hen weithfeydd dur ar gyrion tref Glyn Ebwy.

Mae'n agos at Heol Blaenau'r Cymoedd, yr A465, a gellir cyrraedd ato o'r M4, A470 a'r A49.

Cod post y Maes yw NP23 6AA.

Mae Maes B (y maes ieuenctid) y drws nesaf i'r prif faes tra mae Maes C (y maes carafanau a lleoliad gigs) ychydig filltiroedd i ffwrdd ym Mharc Bryn Bach. Bydd bysus gwennol rheolaidd o Faes C i'r maes.

Cyfarwyddiadau

Mae swyddogion yr Eisteddfod yn apelio ar i bobl ddilyn eu cyfarwyddiadau swyddogol a defnyddio'r ddau faes parcio sydd wedi eu nodi ar y map uchod. Mae maes parcio ychwanegol ar gwr yr Eisteddfod ond mae cerdded oddi yno at y brif fynedfa yn dipyn o bellter ac yn amhosib i rai ag anabledd neu sy'n methu cerdded ymhell.

Dilynwch y cyfarwyddiadau hyn:

  • O gyfeiriad gogledd orllewin, canolbarth a gorllewin Cymru: Dilynwch yr A465 o Bentrebach, Merthyr a Dowlais, tan gylchfan Stad Ddiwydiannol Rassau, i'r maes parcio. Bydd bysiau gwennol yn mynd a theithwyr i'r brif fynedfa, ac yn cludo n么l a blaen i'r Maes drwy'r dydd a gyda'r nos.
  • O gyfeiriad y dwyrain: I'r rhai sy'n gadael yr A465 ym Mrynmawr ac yn teithio ar hyd yr A467 i gylchfan Aberbeeg o gyfeiriad Y Fenni a throi i'r dde ar yr A4046 - bydd rhaid dilyn arwyddion i faes parcio ym mhentref Cwm. Bydd bysiau gwennol yn mynd a theithwyr i'r brif fynedfa, ac yn cludo n么l a blaen i'r Maes drwy'r dydd a gyda'r nos. Er ei fod yn ymddangos yn hirach na mynd tuag at Lynebwy, mae yn hwylusach meddai'r Eisteddfod.
  • O gyfeiriad y de: bydd ceir yn cael eu cyfeirio o gylchfan Aberbeeg (A467 / A4046) tuag at Lynebwy. Yna dilynwch yr arwyddion i faes parcio ym mhentref Cwm. Bydd bysiau gwennol yn mynd a theithwyr i'r brif fynedfa, ac yn cludo n么l a blaen i'r Maes drwy'r dydd a gyda'r nos.

Y cyngor gorau yw dilyn yr arwyddion gan y gall y cyfarwyddiadau newid ar fyr rybudd.

Ymweld gyda phram neu gadair olwyn

Nid oes gan bob bws gwennol lawr isel sy'n addas i fynd 芒 phram neu gadair olwyn arno felly'r cyngor yw aros am fws 芒 llawr isel. Mae mwy o wybodaeth i ymwelwyr anabl

Ar dr锚n

Bydd gwasanaeth trenau Arriva yn mynd o Gaerdydd i Lynebwy bob awr am 35 munud wedi'r awr ac yn cyrraedd am 31 munud wedi'r awr. Bydd y trenau'n dychwelyd i Gaerdydd o Lynebwy am 40 munud wedi'r awr, ac yn cyrraedd Caerdydd am 37 munud wedi'r awr. Mae'r daith yn cymryd bron i awr.Bydd bysus gwennol yn cludo pobl o'r orsaf i'r maes yn rheolaidd.

Ar fws

Bydd gwasanaeth bysiau yn mynd o orsaf Caerdydd bob hanner awr - am 5 munud wedi'r awr a 35 munud wedi'r awr. Bydd y bysiau yn dychwelyd i Gaerdydd o Lynebwy bob hanner awr - ar yr awr ac am hanner awr wedi'r awr. Mae'r daith yn cymryd awr a hanner.


Straeon o'r Maes

Tudur Hallam

Edrych n么l

Ailfyw holl straeon a chyfweliadau'r wythnos o faes y Brifwyl yng Nglynebwy.

Canlyniadau

Bandiau pres

Rhestr lawn

Holl ganlyniadau'r wythnos a chlipiau fideo o'r buddugol.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.