主播大秀

Atal y Fedal Ddrama

06 Awst 2010

Cefin Roberts a Mari Emlyn

Cefin a Mari Emlyn yn mynegi eu siom wedi'r feirniadaeth

Er i'r holl wobrau yn adran sgrifennu drama Eisteddfod Blaenau Gwent gael eu hatal ddoe - gan gynnwys y Fedal Ddrama - dywedodd Cefin Roberts nad oedd angen anobeithio am gyflwr y ddrama yng Nghymru heddiw gan fod sgrifennwyr medrus ar gael.

Yr oedd ef a'i gyd feirniad, Mari Emlyn, newydd gyhoeddi o lwyfan y Brifwyl nad oedd yr un o'r chwe drama fer a'r chwe drama hir yn deilwng o'r Fedal nac o wobr yn eu hadran eu hunain ychwaith.

"Yr oedd hi'n anodd cyhoeddi yn y Pafiliwn nad oedd teilyngdod," meddai Cefin Roberts.

Ond ychwanegodd nad arwydd o brinder sgrifenwyr yw'r hyn a ddigwyddodd ym Mlaenau Gwent a gresynai na fyddai mwy wedi cystadlu.

"Mae gennym ni sgrifenwyr ifanc cynhyrfus iawn ond dydw i ddim yn meddwl bod llawer o'r rheini wedi cystadlu eleni ac felly mi wnes i drio gwneud cais ar eu rhan nhw i gystadlu yn y dyfodol agos .

"Mae o'n lwyfan ffantastig. Maen nhw'n cael sylw gan y Wasg a'r Cyfryngau. Dwi ddim yn gwybod lle maen nhw [nad ydynt yn cystadlu]," meddai.

Dywedodd ef a Mari Emlyn eu bod yn gwbl gytun yn annibynnol ar ei gilydd nad oedd teilyngdod a'u bod yn hynod siomedig o hynny yn enwedig yn wyneb y ffaith i haeddiant fod yn yr holl gystadlaethau ll锚n cyn hynny.

"Mi gefais i'n ddigon lwcus i gael beirniadu cystadleuaeth sgwennu monolog yr Academi ac yr oedd yna 35 wedi cystadlu ac yr oeddwn i'n edrych ymlaen wedyn at gael beirniadu'r gystadleuaeth yma gan feddwl y byddai rhai o'r egin awduron yna wedi ymgeisio ond dydw i ddim yn meddwl bod rhai wedi gwneud achos yr oedd yna safon uchel iawn yn y gystadleuaeth honno," meddai.

Dywedodd eu bod yn chwilio am awdur gyda drama "gweddol orffenedig" ond na chafwyd hynny.

Galwodd hefyd am well canllawiau gan yr Eisteddfod ar gyfer cystadleuwyr gyda'r nod yn cael ei osod yn sicr fel cyfansoddi drama lwyfan yn unig.

"Ond yr oedd rhai awduron fel pe na bydden nhw'n siwr i pa gyfrwng oeddan nhw'n sgrifennu.

"Beirniadodd hefyd ddisgrifiad y gystadleuaeth o ddrama hir fel un dros 50 munud.

"Gallai hynny fod yn 51 munud a dydi hynny ddim yn ddrama hir yn fy ngolwg i," meddai. "Mae drama hir yn noson gyflawn o theatr ac yn o leiaf awr a chwarter," meddai.


Blogiau 主播大秀 Cymru

:

Nia Lloyd Jones

Doeddwn i ddim yn gweithio gefn llwyfan tan hanner dydd a'r gystadleuaeth gyntaf ar ...

Canlyniadau

Bandiau pres

Rhestr lawn

Holl ganlyniadau'r wythnos a chlipiau fideo o'r buddugol.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.