主播大秀

Gwlad yr Addewid yn y Steddfod

03 Awst 2010

Ymarfer ar gyfer y ddrama

Cyfieithiad o ddrama Ed Thomas, House of America yw cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent.

Bydd Gwlad yr Addewid yn cael ei pherfformio gyntaf yn Theatr y Met, Abertyleri, nos Fawrth yr Eisteddfod gyda pherfformiadau eraill nos Fercher a nos Iau.

Cyflwr economaidd enbyd cymoedd y de a'i effaith ar fywyd teulu a chymuned yw testun y ddrama gan adlewyrchu cymdeithas sydd heb waith, heb obaith a heb foesoldeb.

Cafodd ganmoliaeth fawr yn Saesneg pan gafodd ei llwyfannu gyntaf yn 1988.

 

Sharon Morgan a oedd yn chwarae un o'r prif rannau yn y cynhyrchiad hwnnw sydd wedi ei chyfieithu i'r Gymraeg.

"O ganlyniad mae gwybodaeth Sharon o'r ddrama heb ei ail ac roedd hynny'n ei gwneud yn gyfieithydd perffaith," meddai Rheolwr Marchnata Theatr Genedlaethol Cymru, Elin Angharad Williams.

"Hwn yw cynhyrchiad proffesiynol cyntaf Gwlad yr Addewid," ychwanegodd.

Cyfarwyddir Gwlad yr Addewid gan Tim Baker a gynhyrchodd Porth y Byddar i'r cwmni yn 2008.

"Er i House of America weld golau dydd gyntaf dros 20 mlynedd yn 么l y mae'n parhau i fod a'i harwyddoc芒d i ni heddiw ac rwy'n edrych ymlaen i ddod 芒'r ddrama eiconaidd hon yn fyw i ddilynwyr y ddrama Gymraeg," meddai.

Y pump sy'n cymryd rhan yw, Rhodri Meilir, Sarah Harris-Davies, Alun ap Brinley, Elin Phillips a Si么n Young.

Llwyfannir Gwlad yr Addewidyn Theatr y Met, Abertyleri, nosweithiau Mawrth, Mercher, Iau a Gwener, Awst 3-6 gyda phob perfformiad yn dechrau am 7.30.

Gellir cael tocynnau o Theatr Fach y Maes neu'r Met (Ff么n: 01495 544600) a darperir bysiau i gludo'r gynulleidfa o Faes yr Eisteddfod ac o'r Maes Carafanau i'r perfformiadau yn Abertyleri.

Yn dilyn y perfformiadau yn yr Eisteddfod Genedlaethol bydd taith o gwmpas Cymru.

Y daith wedi'r Eisteddfod

Medi - Hydref 2010

  • Medi 09-10 Theatr Y Lyric Caerfyrddin 7:30pm 0845 226 3510
  • 14-16 Galeri Caernarfon 7:30pm 01286 685222
  • 21-22 Canolfan Y Celfyddydau Aberystwyth 7:30pm 01970 623232
  • 25 Canolfan y Celfyddydau Taliesin, Abertawe 7:30pm 01792 602060
  • Medi 30 - Hydref 02 Clwyd Theatr Cymru, Yr Wyddgrug 7:45pm 0845 330 3565
  • Hydref 06-07 Theatr Mwldan, Aberteifi 7:30pm 01239 621200
  • 14-16 Stiwdio Weston, Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd 8pm 02920 636 464

Blogiau 主播大秀 Cymru

:

Nia Lloyd Jones

Doeddwn i ddim yn gweithio gefn llwyfan tan hanner dydd a'r gystadleuaeth gyntaf ar ...

Canlyniadau

Bandiau pres

Rhestr lawn

Holl ganlyniadau'r wythnos a chlipiau fideo o'r buddugol.

主播大秀 iD

Llywio drwy鈥檙 主播大秀

主播大秀 漏 2014 Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.