主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Oriel yr Enwogion

主播大秀 主播大秀page
主播大秀 Cymru
主播大秀 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

主播大秀 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

cantorion
Geraint Jarman
Geraint Jarman

Ganwyd: 1950 yn Ninbych

Magwyd: Caerdydd


Canwr a bardd, a chyn aelod o'r gr诺p 'Y Bara Menyn' gyda Heather Jones a Meic Stevens

Ganwyd Geraint Rhys Jarman yn Ninbych ym 1950, ond symudodd y teulu i fyw i Gaerdydd pan oedd Geraint yn bedair blwydd oed.

Geraint Jarman
Geraint Jarman a'i ganeuon fydd testun cyfres newydd a gyflwynir gan Geraint ei hun ar C2 bob nos Fercher am 10pm o Fehefin 11 2008 ymlaen.
Ei ddiddordebau cynnar oedd p锚l droed a roc a r么l, ac roedd gweld Bob Dylan yn perfformio yng Nghaerdydd yn 1966 yn dipyn o agoriad llygaid iddo. Gadawodd hynny ei farc ar y perfformiwr roc oedd i ddod.

Ym 1969, ffurfiodd 'Y Bara Menyn' gyda Heather Jones a Meic Stevens. Rhyddhawyd dwy EP ar label Dryw (mae'r goreuon i'w clywed ar y casgliad 'Disgwyl Rhywbeth Gwell i Ddod'). Tynnu coes bandiau'r cyfnod oedd bwriad cychwynnol y gr诺p, ond roeddent yn fuan iawn yn boblogaidd ac yn llenwi neuaddau ledled Cymru! Fodd bynnag, byrhoedlog oedd y gr诺p a chymerodd Geraint hoe o gerddoriaeth pan aeth i'r Coleg Cerdd a Drama yng Nghaerdydd am bedair blynedd.

Roedd ei fryd ar fod yn fardd yn ystod y cyfnod hwn, ac, hyd yma, cyhoeddodd ddwy gyfrol, Eira Cariad (1970) a Cerddi Alfred Street (1976).

Dychwelodd at gerddoriaeth cyn bo hir a rhyddhaodd ei record unigol gyntaf, "Gobaith Mawr Y Ganrif" yn 1976. Roedd yn albwm ffres gyda'i chaneuon am Gaerdydd ac roedd yn cynnwys elfennau o bync, ffync, pop a roc.

Ailddechreuodd berfformio'n fyw yn ystod y cyfnod hwn hefyd, ac yn fuan roedd ei gyngherddau wedi ennill statws chwedlonol fel rhai a ddiffiniai zeitgeist yr oes. Ar 么l 'Tacsi i'r Tywyllwch' (1977), rhyddhawyd daeth 'Hen Wlad Fy Nhadau' (1978), ei albym orau yn 么l llawer, a'r albym a adlewyrchai fachlud cyfnod newydd modern yn y s卯n roc Gymraeg.

Ailryddhawyd 'Gwesty Cymru' gyda'r Cynganeddwyr ym 1979 -blwyddyn ei ysgariad oddi wrth Heather Jones. Adlewyrchai them芒u mwy gwleidyddol, a hithau'n gyfnod lle roedd Cymru wedi gwrthod datganoli, yr oedd Thatcher newydd ddod i rym a'r ymgyrch llosgi tai haf wedi cychwyn. Roedd ei bumed albyn 'Fflamau'r Ddraig' (1981) yn cynnwys rhai o'i ganeuon mwyaf pwerus, 'Cae'r Saeson' yn eu mysg, gyda gwaith git芒r anhygoel Tich Gwilym yn rhoi mynegiant i'r teimlad o ddicter a rhwystredigaeth.

Cymysgedd oedd 'Diwrnod i'r Brenin' (1981) o ganeuon reggae a chaneuon yn seiliedig ar chwedlau'r Mabinogi, ac yn ystod y cyfnod rhwng 1983-87 rhyddhaodd dair albym yn seiliedig ar ffilmiau a gomisiynwyd gan S4C, sef Macsen, Enka a Cerddorfa Wag.

Roedd Geraint Jarman hefyd yn actio ymhob un o'r ffilmiau hyn, fel ag yr oedd wedi action mewn cyfresi teledu Cymraeg yng nghanol y 1970au.

Llais Geraint Jarman oedd i'w glywed ar ddechrau'r sengl "Dwylo Dros Y M么r" a ryddhawyd ym 1985 er mwyn codi arian ar gyfer y newynog yn Ethiopia. Ym 1986, teithiodd Gymru efo Maffia Mr Hughes fel rhan o daith 'Y Carcharorion', a rhyddhawyd t芒p i gyd-fynd efo'r daith. Uchafbwynt y t芒p 'Taith Y Carcharorion' oedd teyrnged Geraint i Saunders Lewis "Nos Da Saunders".

Erbyn hyn, yr oedd Geraint yn ymddiddori fwyfwy mewn gwaith teledu, a ffurfiodd y Criw Byw ym 1988, ac roedd y gyfres a ddilynodd, Fideo 9, yn arloesi'r ffordd yr oedd canu roc Cymraeg yn cael ei bortreadu ar y teledu, ac roedd y gyfres yn llwyfan pwysig i genhedlaeth newydd o grwpiau, megis Datblygu, Tynal Tywyll, Ffa Coffi Pawb ac Y Cyrff.

Dychwelodd Jarman i berfformio'n fyw yn 1991 pan ymddangosodd yng nghyngerdd Cymdeithas yr Iaith 'Rhyw Ddydd Un Dydd' ym mhafiliwn Pontrhydfendigaid efo 32 o grwpiau roc Cymraeg i groesawu dau aelod o Gymdeithas yr Iaith o'r carchar. Rhyddhawyd 'Goreuon Geraint Jarman a'r Cynganeddwyr Cyfrol 1' yr un flwyddyn.

Rhyddhawyd Rhiniog ym 1992. ei albym gyntaf ers 5 mlynedd, ond nid oedd y ddawn wedi pylu. Mae'r albym yn cynnwys sawl clasur o'i gyfnod diweddarach, megis 'Kenny Dalglish', 'Hei Mr DJ', 'Tracsiwt Gwyrdd' a 'Strydoedd Cul Pontcanna' a ddaeth ag ef i sylw cenhedlaeth newydd.

Fe'i dilynwyd gan 'Y Ceubal, Y Crossbar A'r Cwango' (1994) a 'Sub Not Used' (1998), a ddangosai ei hoffter o dub-reggae dwys ac ysbrydol, ond roedd hefyd yn cynnwys fersiwn hyfryd o g芒n y Gorky's 'Pentref Wrth Y M么r'.

Gwelodd 1998 ryddhau casgliad mwy diffiniol o'i glasuron, 'Neb yn Deilwng 1977-97' ac i gyd-fynd 芒'i ymddangosiad yng Ng诺yl y Faenol yn 2002, rhyddhaodd EP o ganeuon newydd, 'M么rladron' a ddangosai bod Jarman y cyfansoddwr yn fyw ac yn iach. Ers hynny, rhyddhawyd casgliad o recordiau byw o gyfnod cyffrous cynnar y Cynganeddwyr, 'Yn Fyw-1977-1981', archif pwysig o eni'r s卯n roc Gymraeg fel y gwyddom amdani heddiw.

Os mai Meic Stevens yw taid y s卯n roc gyfoes, Geraint Jarman yw ei thad, ac mae ei gyfraniad fel cyfansoddwr, perfformiwr, a chynhyrchydd teledu wedi gadael 么l troed anferth ar ddiwylliant Cymraeg cyfoes.


Cyfrannwch

Moi Moresg, Diddiffindir
Ydi Diwrnod i'r Brenin ar gael ar grynoddisg da? Ma na lot o stwff Jarman ar itunes sy'n gret ond di Diwrnod i'r Brenin ddim yna, sy'n biti achos oedd yr albym yna'n dylanwadu fy myfyrdodau am breuddwydion wrth dyfu fyny ym Methesda (cyn i mi symud i'r diddiffindir wrth gwrs!) Sa'n gret pe bai rhywun efo'r ateb, diolch dwds!
Sat Sep 6 10:26:46 2008

Bethan Mair o Gomer
Mae Twrw Jarman, llyfr newydd gan Geraint Jarman am ei fywyd a'i gerddoriaeth, yn cael ei gyhoeddi gan Gomer ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd. Am fwy o wybodaeth ewch i www.gomer.co.uk
Mon May 12 21:59:45 2008

Ffan Geraint Jarman o Gwmtawe
Bydd bocs set Geraint Jarman yn barod erbyn 'Steddfod Caerdydd ym Mis Awst.
Wed Mar 5 09:28:17 2008

Mared Jarman a Elin Rowlands, o gaerdydd.
Well wrth fod yn ferch a ffrind merch geraint jarman, mae'n bleser i weld ei fod yn cael ei edmygu, **mae fy nhad yn rhocio !!**(mewn tracsuit gwyrdd !!)I love you dadi, and ill always b ehind you, so will i, smelin, your daughters pal.Lovin you long time babessss !!xxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxxx
Tue Mar 4 15:12:51 2008

Tecwyn o Caernarfon
Ydi hi'n posib prynnu cd o macsen?
Tue Jul 3 20:51:19 2007

Dafydd Arthur o Rhydyclafdy
Pryd mae'r bocs set o LP's Jarman yn dod allan?O'n i'n eu disgwyl nhw erbyn dolig dwytha.Fydda nhw allan mis Awst tybed?
Mon Jun 25 23:32:41 2007


Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
主播大秀 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy