主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

主播大秀 主播大秀page
主播大秀 Cymru
主播大秀 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

主播大秀 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Gemau y Rhyl Adnabod ardal - Glannau Dinbych a Fflint
Mae'r fro hon yn cynnwys lleoedd mor amrywiol 芒 Threffynnon, sy'n gyrchfan pererinion Cristnogol, Y Rhyl a arferai fod yn brifddinas tripiau Ysgol Sul, Llanelwy sy'n ddinas, Prestatyn, a phentrefi gwledig fel Brynffordd, Bagillt, a Babell.

Cael 'thrill' yn y Rhyl
Yn ystod yr haf, ar ben grisiau sy'n arwain at y traeth yn Y Rhyl, y mae dyn mewn cap llongwr a jersi nefiblw yn annog pobol i, "Give yourself a thrill - have a boat ride in Rhyl."

Tref i ymwelwyr - o ogledd Lloegr yn bennaf - ydi'r un sy'n disgrifio ei hun fel Blodyn Gogledd Cymru ac y mae'r traddodiad o ddod i'r Rhyl i fwyta candifflos, mynd ar ferigorownds a marchogaeth asynnod yn un sy'n ymestyn yn 么l ddegau o flynyddoedd - yn wir mi fu Buffalo Bill yno unwaith ond nid ar wyliau nac ar gefn asyn ond i berfformio gyda'i sioe Wild West.

CychodCyn 1700, fodd bynnag, doedd yna ddim ond corstir lle mae'r Rhyl heddiw a m芒n ffermydd ar Forfa Rhuddlan.

Lle mae'r rhesi o dai ar y ffordd i Brestatyn heddiw yr oedd hen goedwig yn dyddio'n 么l saith mil o flynyddoedd gydag olion ceirw a buail ac offer pobl Oes y Cerrig wedi eu darganfod yno.

Yna gwelwyd gwerth y lle fel cyrchfan gwyliau a thyfodd y boblogaeth o gwta 800 yn 1841 i wyth mil yn 1900. Yn 1910 yr oedd yna ddau gant o gytiau newid ar y traeth. Erbyn heddiw mae'r boblogaeth dros 25,000.

Nid llanw a thrai y m么r yn unig a brofodd trigolion Y Rhyl. Gwelwyd codi, llosgi, codi eto a dymchwel Pafiliwn Mawr yno, ac mi fu yno bier hefyd.

Yn y 1920au byddai Ronald Tree yn hedfan pobl mewn awyren dros y dref am bum swllt y tro. Yn dipyn o ferchetwr, arhosai yn y Westminster Hotel ac yr oedd sawl merch o'r Rhyl yn cyfrif ei bendithion pan glywyd ar 么l iddo adael yn sydyn i'r heddlu yn Lloegr ei arestio am fwrdwr!

Oddi ar yr arfordir yma y suddodd y llong danfor arloesol y Resurgam ar ei mordaith gyntaf o Lerpwl. Mae hi wedi ei hachub erbyn hyn o wely'r m么r.

PrestatynY chwedl yw i'r dref nesaf i'r dwyrain, Prestatyn, gael ei henw ar sail y ffaith fod yr hen Rufeiniaid, wrth gloddio am fwyn, yn gofyn i'w gilydd, "Be gefais ti, pres ta tun?"

Ond mewn gwirionedd yr un enw ydi Prestatyn a Preston (Priestholm) yn Lloegr ac yn golygu fferm neu dyddyn yr offeiriad.

Y mae i Dreffynnon ei chysylltiadau crefyddol hefyd wedi ei henwi ar sail ffynnon sydd yno wedi ei chysegru i'r Santes Gwenffrewi. Yn wir bu Llanwenfrewi yn enw ar y lle ar un adeg.

Mae pererinion yn dal i ymweld 芒'r ffynnon a bu'n arferiad ymdrochi yn y dyfroedd rhinweddol.

Ymhlith ymwelwyr y gorffennol yr oedd y nofelydd Daniel Defoe, awdur Robinson Crusoe, yn 1724 a'r Dr Johnson a ryfeddai fod dynion a merched yn ymdrochi gyda'i gilydd yn nwr y ffynnon.

"Y mae'r baddon yn anweddus o agored ac yr oedd gwraig yn ymdrochi tra'r oedem ni yn edrych arni," meddai.

Cofgolofn llanelwyOnd er cystal cysylltiadau Treffynnon; yn Llanelwy, ddeng milltir i'r gorllewin, y mae'r gadeirlan gyda chofeb fawreddog i William Morgan, a chyfieithwyr eraill y Beibl, y tu allan iddi. Yno y gorwedd ei gorff hefyd.

Bu Felicia Hemans, bardd ac awdur y geiriau "The boy stood on the burning deck" yn byw yma pan yn blentyn ac wedi iddi briodi. Ar bont a adnabyddir fel Pont Hemans y byddai'n cyfansoddi.

Anodd credu hynny heddiw ond yr oedd Rhuddlan, gerllaw, yn borthladd ar un adeg gyda'r m么r sy'n stopio yn Y Rhyl heddiw yn cyrraedd yno. Rhudd a glan ydi'r elfennau gyda'r rhudd yn cyfeirio at gochni'r pridd.

Castell Cymreig oedd yr un gwreiddiol yma ond olion un o greadigaethau Edward brenin Lloegr i gadw'r Cymry mewn trefn sydd i'w gweld heddiw.

Ond cyn hynny dyma leoliad buddugoliaeth Offa, Brenin Mercia, dros Garadog.

Cynlluniwyd t诺r eglwys Rhuddlan fel ei fod yn hawdd ei adnabod oddi ar fwrdd llongau yn hwylio heibio ar y m么r.




0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
主播大秀 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy