主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

主播大秀 主播大秀page
主播大秀 Cymru
主播大秀 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

主播大秀 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Rhos
Hanes p锚l-droed yn y Rhos

Cafodd y g锚m b锚l-droed gyntaf yn Y Rhos ei chynnal ar ddydd Sadwrn, Chwefror 3 pan gollodd t卯m Neuadd Llannerchrugog o 1-0 yn erbyn t卯m o Weision Sifil o Wrecsam, a oedd yn cynnwys nifer o chwaraewyr rhyngwladol.

Doedd hyd yn oed colli'r rhan fwyaf o'r gemau cynnar ddim yn ddigon i dorri calon y pentrefwyr ac fe chwaraewyd p锚l-droed byth ers hynny.

Bu nifer o dimau yn cynrychioli'r pentref: Rhosllannerchrugog, Rhos Olympic, Rhos, Levers, Rhos, Rhos Comrades, Rhos Eagle Wanderers, Rhos Early Closes, Rhos Rangers, Rhos United, Rhos Church, Rhos Albino, Rhos Victoria, and Rhos. Athletic, Rhos Chums, Ponciau Welfare, Llannerch Colts ac yn fwy diweddar, Rhos Aelwyd.

Pan sefydlwyd Cynghrair y Welsh League ym 1890, roedd cyfraniad Mr Cotterill o Bronwylfa, Rhos yn un pwysig. Aelodau gwreiddiol y gynghrair oedd Rhos, Bangor, y Derwyddon, yr Wyddgrug, Rhostyllen Victoria, Rhyl, Rhiwabon ac Westminster Rovers o Wrecsam.

Yn ystod degawd olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg, bu Rhos yn cystadlu'n rheolaidd yng Nghwpan FA Lloegr ac ynghyd a th卯m Y Waun, nhw oedd yr unig ddau glwb o Gymru fu'n cymryd rhan yng nghystadleuaeth cyntaf Cwpan Amatur Lloegr ym 1894.

Daeth llwyddiant cenedlaethol i'r Rhos am y tro cyntaf ym 1898 wrth i lowyr t卯m y Rhos Eagle Wanderers drechu t卯m o werthwyr tybaco o'r Amwythig, Singleton and Coles, o 6-1 yn rownd derfynol Cwpan Amatur Cymru yn yr Waun.

Wedi chynnig aflwyddiannus ar 么l troi'n broffesiynol yn ystod y 1900au cynnar, yn rownd derfynol Cwpan Amatur Cymru ym 1912 bu i d卯m Rhosllannerchrugog guro Summerhill o 2-1 mewn ail chwarae ar y Cae Ras yn Wrecsam.

Yn nhymor cyntaf Adran y Gogledd Cynghrair newydd y Welsh League ym 1921-22, sicrhaodd Y Rhos y 'dwbwl' ond dirywio wnaeth y t卯m proffesiynol gyda dirwasgiad y 1920au yn cael effaith mawr ar gymunedau glofaol gogledd Cymru.

Y t卯m nesaf i gynrychioli'r pentref oedd y talentog Llannerch Celts yn ystod y 1930au. Yn ogystal ac ennill sawl chynghrair a chwpan, bu i nifer o chwaraewyr y Celts gynrychioli t卯m amatur Cymru.



Hanes
Radio Cymru
Trefi


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy