主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

主播大秀 主播大秀page
主播大秀 Cymru
主播大秀 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

主播大秀 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Yr Wyddgrug
David Jones Hwb i'r Gymraeg
Brodor o Gei Connah a chyn weithiwr yng ngwaith dur Shotton yw Swyddog y Dysgwyr yn Eisteddfod Genedlaethol 2007. Mae David Jones yn gweld dyfodiad y Brifwyl i'r Wyddgrug fel cyfle gwych i godi ymwybyddiaeth yn yr ardal.
"Pan ddaw y Brifwyl i'r Wyddgrug ym mis Awst eleni fe ddaw efo hi gyfle amhrisiadwy i ddysgwyr a darpar ddysgwyr yr iaith Gymraeg yn yr ardal.

Dyma 诺yl deithiol fwyaf Ewrop yn galw ar ein stepyn drws. Ac y mae pob Eisteddfod Genedlaethol yn darparu'n helaeth dros ddysgwyr gan gynnal pabell enfawr drwy gydol cyfnod yr 糯yl, Awst 4-11 2007.

Ceir gwledd o ddigwyddiadau, adloniant, gwybodaeth, gwersi ac wrth gwrs rhestr hir o gystadlaethau yn arbennig i ddysgwyr.

I goroni gweithgareddau Adran y Dysgwyr fe gynhelir rownd terfynol y gystadleuaeth i enwi "Dysgwr y Flwyddyn, 2007" yng Nghwesty Plas Hafod.

Rhan allweddol r么l y Swyddog yw cydlynu rhaglen y babell, sef "Maes D", ac felly i weithio efo, ac ar ran, Pwyllgor y Dysgwyr, sy wedi bod yn cyfarfod ers mis Mai.

Golygir hyn gydweithio efo'n gilydd i ddarparu rhaglen ddeniadol, llawn a gwerthfawr i wneud y gorau o'r cyfle. Byddaf i'n trefnu a chyhoeddi amserlen i bopeth fydd yn digwydd a rheoli'r babell yn gyffredinol er bydd criw o'r Pwyllgor a stiwardiaid yn rheoli gwahanol agweddau.

Rhan fawr o'm r么l felly yw cynllunio at bopeth a fydd yn rhan o Maes D. Ar wah芒n, mae Noson Wobrwyo Dysgwr y Flwyddyn, sy bellach wedi ennill ei lle fel un o brif gystadlaethau'r Eisteddfod Genedlaethol.

Y nod yw tynnu sylw at y ffaith bod pobl yn llwyddo i ddysgu Cymraeg a llawer yn ogystal yn mynd ymlaen i gyfrannu at fywyd Cymraeg. Byddaf i'n cydlynu'r cystadleuaeth a'r noson arbennig a drefnir i wobrwyo'r enillydd.

Nid yw ymwybyddiaeth am yr Eisteddfod yn gryf ymysg dysgwyr a'r di-Gymraeg a bydda i'n ymdrechu i godi hyn yn ystod y cyfnod sy'n arwain at yr Eisteddfod gan ymweld a dosbarthiadau ac esbonio. Rydw i am i drigolion yr ardal fanteisio ar ymweliad yr Eisteddfod i'r fwyaf.

Byddaf i'n annog dysgwyr presennol i gystadlu ac i fynychu ym mis Awst. Peidiwch a bwcio gwyliau bryd hynny! Y mae rhaglen amrywiol a deniadol iawn o ddigwyddiadau drwy gydol eleni yn cael ei threfnu dros ddysgwyr - er enghraifft Eisteddfod y Dysgwyr yng Nghlwb y Cynfilwyr, Yr Wyddgrug, ar ddechrau Chwefror.

Mae darparwyr (gweler "courses" ar y wefan) wedi dechrau cyrsiau newydd ym mis Ionawr ac mi fyddaf i hefyd yn dysgu ar gyrsiau sy'n arbennig i fusnesau, gwestai, siopau ac eraill a fydd yn elwa gan wybodaeth sylfaenol erbyn dechrau'r 糯yl.

Hefyd rydw i'n dysgu sawl dosbarth fy hunan ers Medi. Cyflogir y swydd ar y cyd rhwng Canolfan Arweiniol Dysgu Cymraeg i Oedolion,(lleolir ym Mhrifysgol Cymru Bangor)a'r Eisteddfod. Os oes gan unrhywun gwestiwn yngl欧n 芒'r Eisteddfod, dysgu Cymraeg yn gyffredinol, digwyddiadau neu unrhywbeth, croeso iddynt gysylltu."

Hanes David: Magwyd David, sy'n 57 oed, yng Nghei Connah o dras Cymreig - roedd ei nain, sawl modryb ac ewyrth yn medru'r Gymraeg a'r teulu'n mynychu capel Cymraeg, ond doedd dim Cymraeg ar yr aelwyd.

Er iddo ddysgu rhywfaint o Gymraeg yn yr ysgol, roedd rhaid iddo ddechrau o'r dechrau ym 1988, ar 么l symud yn 么l o Sheffield, lle roedd yn gweithio. Aeth i Ysgol Nos a Thafarn y Pentan yn Yr Wyddgrug, safodd arholiad lefel A 'Defnyddio'r Gymraeg' yn 1991 ac ennill gradd A cyn treulio blwyddyn ar Radd Allanol gyda Phrifysgol Aberystwyth.

Ers 1991 mae wedi bod yn diwtor rhan-amser tan iddo orffen gweithio yn y diwydiant alwminiwm. Cyn hynny roedd yn gweithio yng nghwaith dur Shotton ac wedyn yn Sheffield.

Ers gorffen gweithio mae wedi bod yn tiwtora llawer mwy ac hefyd wedi ennill cymhwyster CELTA ac wedi bod yn dysgu Saesneg i dramorwyr. Mae'n byw ym Mhenarl芒g efo'i wraig, Dilys, a 3 spaniel! Mae ganddo fab, Alun, a merch, Sian, ac mae'n daid i Owen.

Ymhlith ei ddiddordebau mae gwylio adar, cerdded, cefn gwlad, pysgota, darlunio, darllen, hanes lleol, teithio a chwaraeon.



Lleol i Mi
Radio Cymru
Adolygiadau


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy