主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

主播大秀 主播大秀page
主播大秀 Cymru
主播大秀 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

主播大秀 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Yr Wyddgrug
Genod Droog Gigs y Steddfod
Elain Wyn o Ysgol Glan y M么r, Pwllheli, sy'n edrych ymlaen at brif gigs Eisteddfod Genedlaethol Sir Fflint 2007 ar gaeau Pentrehobin ger yr Wyddgrug.
"Pob blwyddyn ceir gigiau llawn bwrlwm a chyffro'r to ifanc yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol ac nid yw Eisteddfod Sir y Fflint yn eithriad.

Bydd amryw o fandiau ar lwyfannau Maes B ac mae Cymdeithas yr Iaith wedi trefnu gigs bob noson yng Nghlwb Rygbi yr Wyddgrug sydd yn cychwyn am 8 yr hwyr.

Mae'r wythnos yn dechrau gyda'r Chiz-feistr, Elin Fflur a'r band lleol Labrinth yn chwarae mewn gig Cymdeithas yr Iaith, ac ym Maes B mae Celt, Nathan Williams a Calansho ar y nos Sadwrn.

Mae'n draddodiad bellach i gynnal cystadleuaeth Brwydr y Bandiau ac eleni mae hi'n digwydd ar y nos Lun a'r nos Fawrth ym Maes B. Ar ddechrau'r wythnos bydd Cymdeithas yr Iaith yn cyflwyno Steve Eaves, Brigyn, Gwyneth Glyn, Y Ffyrc a'r anhygoel Meic Stevens.

Rhag ofn eich bod yn berson sy'n hoffi dewis eich cerddoriaeth, o ganol yr wythnos ymlaen bydd Maes B yn cyflwyno nifer o fandiau ar ddau lwyfan gwahanol. Ar y nos Fercher, bydd Bryn F么n, Daniel Lloyd a Mr Pinc a Fflur Dafydd a'r Band ar lwyfan 1 ac yn y babell arall bydd Gareth Bonello, gwesteion arbennig a Meic Stevens yn cloi y noson. Mae gan Gymdeithas yr Iaith arlwy arbennig iawn ar y nos Fercher hefyd gyda Pwsi Meri Mew, Gwibdaith, y Cowbois o Ben draw Llyn a Gai Toms yn diddannu.

Uchafbwynt yr wythnos yw'r ddwy noson olaf ym Maes B ac yng Nghlwb Rygbi yr Wyddgrug. Heb unrhyw amheuaeth mae'r trefnwyr wedi llwyddo i gael bandiau gwych i ddod a'r wythnos i ben mewn steil!

Ar y 10fed o Awst, sef y nos Wener, mae Yucatan, Dan Lloyd, Fflur Dafydd a'r anfarwol Bob Delyn a'r Ebillion yn nhref yr Wyddgrug ac ym Maes B bydd Gwyneth Glyn, Cowbois R.B. ac Euros Childs ar un llwyfan a Mr Huw, Y Rei a Sibrydion ar y llall.

Ar 么l y cwrw, y cusanu dieithr a'r chwerthin drwy'r wythnos, beth sydd well na chlywed Frizbee a'r Genod Genod Droog yn perfformio ar lwyfannau Maes B neu gael diwrnod cyfan yn mwynhau cerddoriaeth Gymraeg ar ei gorau yn ystod gig olaf Cymdeithas yr Iaith yng nghwmni Coda, Mattoidz, Cofi Bach a Tew Shady, Derwyddon Dr Gonzo a Radio Luxembourg i gloi.

Mae digonedd o ddewis i chi, felly mwynhewch yn s诺n cerddoriaeth bandiau ifanc, ffres a newydd Cymru ac ym mwrlwm yr hen gewri!"

Gigs eraill

  • Yn ogystal 芒 nosweithiau Maes B a gigs ar lwyfanau amrywiol o amgylch maes yr Eisteddfod, mae nosweithiau Maes C - nosweithiau cerddorol, stand-yp a barddonol - yn cael eu cynnal ar faes carafanau'r Eisteddfod ar st芒d Pentrehobin, filltir o dref yr Wyddgrug. Manylion:
    Rhestr Gigs C2
    Maes B -
    Maes C a Chyngherddau'r Pafiliwn -
    Cymdeithas yr Iaith -

    Nid yw'r 主播大秀 yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol


  • Cyfrannwch

    Tom o Dinbych
    Edrych ymlaen i gigs Cymdeithas yr Iaith. Edrych yn wych.


    Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


    Lleol i Mi
    Radio Cymru
    Ffilmiau


    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy