主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Gwyliau

主播大秀 主播大秀page
主播大秀 Cymru
主播大秀 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

主播大秀 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Llwyfan Wakestock Wakestock
Wrth i 诺yl sgilfyrddio mwyaf Ewrop ddychwelyd i Ben Ll欧n am y degfed tro, rhwng 10-12 Gorffennaf, edrychwn ymlaen at yr hwyl ar y llwyfan ac ar y m么r - yn yr haul, gobeithio!

Mae Huw Stephens, DJ Radio Cymru/Radio 1, yn dipyn o arbenigwr ar sut i oroesi gwyliau erbyn hyn.

"Fy nhip gorau yw ewch a welis - a menig, i dynnu nhw i ffwrdd! Hefyd, ewch i weld bandiau nad ydych wedi clywed am o'r blaen - mi wnewch chi fwynhau."

Mae Huw wedi mwynhau rhoi rhestr o fandiau a DJs at ei gilydd i chwarae llwyfan Relentless Live ar nos Sul Wakestock eleni.

"Mi fydda'i hefyd yn gwneud set DJ ar y nos Sul. Dwi fel arfer yn rhoi'r set list at ei gilydd munud olaf, er dwi 'fo syniad o beth i chwarae. Rhywbeth i gadw pobl ar eu traed ar y noson olaf!"

"Ddaru Wakestock ofyn i mi dewis bandiau ar y nos Sul fydd yn cael pobl yn dawnsio a theimlo'n hapus.

Mae Huw hefyd yn falch fod Y Promatics, band lleol o Ddyffryn Nantlle, am fod yn rhan o'i noson. "Maen nhw wedi gwneud sesiwn ar C2 i mi ac maen nhw'n wych.

"Er bod Wakestock yn 诺yl fawr efo lot o fandiau mawr Saesneg erbyn hyn, maen nhw wastad wedi rhoi cyfle i fandiau o Gymru a rhai sy'n chwarae miwsig Cymreig, sy'n wych."

Y Promatics Mae Dafydd Foxhall, drymiwr Y Promatics, yn gwerthfawrogi'r cyfle i chwarae ar lwyfan Huw Stephens. "Mae cael chwarae yn Wakestock jest yn superb. Dyma 诺yl fwyaf Cymru erbyn hyn, a'r gig mwyaf erioed i ni. Dwi'n cofio gweld y Zutons yna cwpl o flynyddoedd yn 么l a r诺an mi fyddaf yn chwarae yn yr un 诺yl a nhw!"

Wrth ddisgrifio naws ei fand, meddai Dafydd, "nid oes yna lot o fandiau fel ni yng Nghymru. Rydym yn ffans mawr o Bloc Party ac yn teimlo nad oes yna dim fel yna ar hyn o bryd. Ein bwriad yw gwneud rhywbeth bach yn wahanol."

Ond mae o wedi bod yn sialens i'r band, ddaru gyfarfod yn Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes, aros gyda'i gilydd ar 么l iddynt wasgaru dros y wlad. "Mae o wedi bod yn hynod o anodd i ni baratoi gan fod dau aelod o'r band yn byw yn Nottingham, ac un arall yn y brifysgol yn Aberystwyth. Nid yw ein canwr yn dod adref tan wythnos cyn yr 诺yl, a dwi'n gweithio, felly does 'na ddim lot o amser i baratoi! Ond 'da ni'n defnyddio lot o synths a backing tracks sy'n handi i fi gan fy mod i efo drymiau electronig i ymarfer adra."

Mae Dafydd wedi cael y profiad o ymweld 芒 Wakestock fel ffan a drwy ei waith fel peiriannydd sain. "Roeddwn yn gweithio yn Wakestock yn 2008 ac mi ges i weld yr 诺yl o safbwynt un sobor tu 么l i'r llwyfan. Mae o'n wych. Coaches yn y bore yn mynd a chi i Bwllheli i wylio'r sgilfyrddio, sy'n brofiad yn ei hun, heb s么n am y gerddoriaeth! Cyfarfod pobl o Hawaii, Awstralia, Seland Newydd - mae'n nuts pa mor fyd eang yw'r 诺yl. Felly fy nghyngor i yw trio sicrhau eich bod yn cael amser i fynd i weld y sgilfyrddio - mae o'n wych."

Ond nid oes rhaid i chi fynd lawr i'r traeth i weld 'bach o sgilfyrddio. Dyma Rebecca Tappin, un o'r t卯m trefnu, i egluro sut mae'r pwll ar y maes yn gweithio. "Mae o fwy fel dau bwll, un yn ddyfnach na'r llall, gyda rheiliau trwy'r canol. Mae yna winsh sy'n tynnu'r sgil fyrddwyr ar hyd y rheiliau er mwyn iddynt wneud triciau yn y d诺r."

Yn 么l i draeth Pwllheli, ac mi fydd pencampwr y byd, Nick Davies, yn cystadlu yn erbyn Dan Nott, sydd eisoes wedi ennill teitl Relentless Wakestock dair gwaith, ynghyd a sawl un o Awstralia, America a Seland Newydd.

Rhagor o wybodaeth:

Lleoliadau
Mae'r adloniant fel arfer yn digwydd mewn tri lle:

  • Penrhos - Safle 40 erw gyda lle i dair mil o bobl wersylla, gyda'r holl gyfleusterau gofynnol ar gyfer g诺yl fawr. Yma mae yr holl adloniant gerddorol yn digwydd.
  • Traeth Abersoch - Yma cynhelir y cystadleuaeth ar gyfer sgilfyrddwyr pro kicker. Yn y gystadleuaeth hon mae'r byrddwyr yn cael eu tynnu ugain troedfedd i'r awyr i frwydro i fod yn bencampwr 'Big Air' yr 诺yl.
  • Marina Pwllheli - Mae'r prif gystadlaethau sgil fyrddio yn cael eu cynnal ym Marina Pwllheli sydd yn cael ei addasu'n bwrpasol at yr achlysur.

    Beth ydy sgilfyrddio?
    Fersiwn yr haf o eira fyrddio ydy sgilfyrddio. Mae'n gyfuniad o sg茂o d诺r, bwrdd sglefrio, eira fyrddio a syrffio. Mae'r byrddiwr yn defnyddio bwrdd tebyg i un eira fyrddio ac yn cael ei dynnu gan gwch modur. Gan ddefnyddio'r tonau, neu'r llwybr mae'r cwch yn ei adael ar ei 么l yn y d诺r, mae'r byrddwyr yn perfformio pob math o driciau a throelliadau.


    Rhagor o Wakestock.


  • 0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    主播大秀 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy