主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

主播大秀 主播大秀page
主播大秀 Cymru
主播大秀 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

主播大秀 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Cerflun Hedd Wyn, Trawsfynydd Dathlu hanes pentref
Mae gan bobl Trawsfynydd gyfle i gyflwyno hanes eu hardal i gynulleidfa ehangach yn sg卯l agor canolfan dreftadaeth yn y pentref.
Mae rhai o drysorau hanesyddol yr ardal yn cael eu harddangos am y tro cyntaf yn Nghanolfan Treftadaeth Llys Ednowain.

Un o'r prif atyniadau ydy copi o Gwpan Trawsfynydd - sef tancard o bren ac efydd sy'n dyddio n么l i gyfnod y Celtiaid.

Mae hefyd ben bwyall o Oes y Cerrig i'w gweld yno ac arddangosfa amlgyfrwng o'r enw Y Sant a'r Bugail sy'n olrhain hanes Hedd Wyn a'r Sant John Roberts OSB. Mae'r ysgol gynradd leol wedi rhoi'r groes wreiddiol oddi ar fedd Hedd Wyn i'w harddangos yn yr amgueddfa.

Cwpan TrawsfynyddMae canolfan Llys Ednowain wedi ei lleoli ynghanol y pentref yn hen adeilad Highgate, sef yr hen gopar茅t, sydd wedi ei brynu a'i adnewyddu gan gwmni Trawsnewid.

Meddai Dewi Prysor, rheolwr cyntaf y ganolfan: "Lle i addysgu ein pobl ein hunain am ein hanes fydd hwn - rhywbeth y dylen ni fod wedi ei ddysgu yn yr ysgol. Rydyn ni'n gobeithio y bydd o fudd i ysgolion, y gymuned leol ac i Gymru gyfan."

Ychwanegodd mai'r bwriad ydy denu twristiaeth ddiwylliannol a chynaladwy a fydd yn y pendraw yn rhoi hwb i economi'r pentref: "Y gobaith ydy y bydd yn cyfrannu at adfywio Trawsfynydd, sef holl bwrpas sefydlu cwmni Trawsnewid yn dilyn cau'r atomfa," meddai.

Yn ogystal 芒 chanolfan dreftadaeth mae lloriau uchaf yr adeilad wedi ei droi yn hostel hunangynhaliol i feicwyr, cerddwyr a physgotwyr er mwyn manteisio ar yr ymwelwyr sy'n heidio i'r ardal i fwynhau ei hadnoddau naturiol fel canolfan feicio fyd-enwog Coed-y-Brenin gerllaw.

"Mae'r ganolfan wedi ei henwi ar 么l Ednowain," ychwanegodd Dewi Prysor, "sef Arglwydd Ardudwy yn y 12fed Ganrif, a oedd yn cynnwys gogledd Meirionnydd hefyd wrth gwrs. A fo roddodd yr enw gwreiddiol ar Drawsfynydd hefyd - sef Llanednowain."

  • Mae'r ganolfan ar agor i'r cyhoedd rhwng 10am a 5pm, saith diwrnod yr wythnos yn ystod tymor yr haf a'r Pasg a phum diwrnod yr wythnos weddill y flwyddyn. Rhif ff么n: 01766 770 324. Gall ymwelwyr sydd am holi am yr hostel ffonio tu allan i oriau agor yr arddangosfa.

  • 0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    主播大秀 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy