主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bywyd Bro

主播大秀 主播大秀page
主播大秀 Cymru
主播大秀 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

主播大秀 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Cerflun coffa i arwr
Mae Dic Evans wedi bod yn arwr i bobl Moelfre a thu hwnt ers tro a'r llynedd cafodd cerflun efydd ohono ei ddadorchuddio yn ei bentref genedigol.

Cerflun o Dic Evans (Llun gan Gareth Roberts o Fangor)

Roedd Dic Evans yn o'r ychydig sydd wedi ennill medal aur gan fudiad y badau achub (RNLI) am ei ddewrder ar y m么r fel arweinydd bad achub Moelfre.

Yr artist a ddewiswyd i'w anfarwoli ydy'r cerflunydd Sam Holland. Er mai ar gwch ar yr afon Medway yn ne Lleogr mae hi'n byw bellach, mae ganddi gysylltiadau cryf gyda Moelfre a thraddodiad morwrol y pentref.

"Roedd fy nhaid yn ffrindiau mawr gyda Dic Evans ac fe wnes i ei gyfarfod sawl gwaith tra ro'n i ar wyliau ym Moelfre fel plentyn," meddai Sam.

"Felly pan es i am y cyfweliad am y gwaith o greu'r cerflun, ro'n i'n gallu dangos mod i'n gwybod dipyn amdano a pha fath o ddyn oedd o. Ro'n i wrth fy modd yn cael y cyfle i greu cerflun o Dic Evans."

Yn 么l Sam Holland, fe gymerodd yr holl broses ychydig dros flwyddyn i'w gwblhau. Ychwanegodd ei fod yn ddarn mawr - trydydd ran yn fwy na maint dynol go iawn.

Gwylfan Moelfre lle mae'r cerflun wedi ei osod"Fe ddechreuais drwy chwilio am hen luniau o Dic, ond doedd hi ddim yn hawdd cael darlun o'i wir gymeriad o hen luniau gan eu bod i gyd wedi eu tynnu mewn digwyddiadau swyddogol fel priodasau ac angladdau, lle mae pawb yn edrych yn stiff! Fe ofynnais i fy mab fodelu fel mod i'n gallu cael yr ystum yn iawn.

"Yn y cerflun, mae Dic yn pwyso i mewn i'r gwynt, yn brwydro i gadw ar ei draed ar ddec llong mewn storm. Darn mawr o graig wedi ei osod ar ongl yw'r plinth sy'n dal y cerflun ac fe fydd yn wynebu allan tuag at y m么r.

"Dwi'n gobeithio y bydd pobl Moelfre yn ei hoffi. Mae pawb wedi bod yn help mawr ac yn gadarnhaol iawn hyd yma. Rydw i'n gobeithio fy mod wedi dal cymeriad Dic ac y bydd yn gerflun coffa haeddianol iddo fo a'r holl waith da wnaeth o."

Cafodd y cerflun 14 troedfedd o Dic Evans ei ddadorchuddio mewn seremoni arbennig gan y Tywysog Siarl ym Moelfre ar 23 Tachwedd, 2004.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
主播大秀 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy