主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Y S卯n Roc

主播大秀 主播大秀page
主播大秀 Cymru
主播大秀 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

主播大秀 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Gabrielle 25 Gabrielle 25
Gydag un yn bobydd a'r llall yn gweithio efo coed - does ryfedd fod Daniel Amor (canol), sy'n ateb yr holiadur tra ar ganol gwisgo ei drowsus, yn disgrifio Gabrielle 25 fel 'golden labrador hapus'.
Aelodau
Dwi'n canu (Daniel), Noel Jones ar y git芒r, Mark Halford ar y b芒s a Hefin Huws ar y drymiau.

O lle
Penmachno, Betws-y-coed, Dolgarrog a Chaernarfon.

Pryd wnaethoch chi ffurfio?
1999.

Pam ddaru chi ffurfio band?
Ro'n i a Noel yn y dafarn yn Betws yn s么n am gerddoriaeth a dyma ni'n deud, "Gad inni gael band". Ar y pryd roedd Noel yn bobydd a finnau'n gweithio i'r Comisiwn Coedwigaeth.

Gig gwaetha
Ym Manceinion pan fethodd yr offer 芒 gweithio.

Gig gorau
Ym Maes B, Eisteddfod Meifod. Roedd o jyst mor ecseiting, efo lot o bobl, llwyfan mawr ac roedd y s?n yn dda.

Pwy ydy'ch hoff artistiaid chi?
Mae pawb yn hoffi pobl gwahanol - o'r clasuron i unrhyw beth sydd allan rwan. Mae yna lot o fandiau lleol da hefyd, mae'r s卯n yn ffrwydro yn yr ardal yma ar hyn o bryd.

Sut ydych chi'n mynd ati i sgwennu caneuon?
Fel arfer, dwi'n sgrifennu'r rhan fwyaf ar git芒r a 4-trac, yn enwedig y rhai Cymraeg, ac mae'r band yn dweud "beth am hwn", "ie, neis" neu "na, too slyshi". Ond mae'r aelodau i gyd wedi sgwennu caneuon i'r albym newydd.

Be ydych chi'n ei wneud ar 么l gig?
Pacio a mynd adre. Ond ar 么l gig Maes B mi wnaethon ni yfed dipyn a mwynhau'r parti.

Pa berson enwog fyddech chi'n licio rhannu cornflakes efo nhw?
Neil Finn (gynt o Crowded House.)

Ydy eich ardal chi wedi dylanwadu ar eich cerddoriaeth mewn unrhyw ffordd?
Do, andros o lot. Os ydech chi eisiau ysbrydoliaeth, does dim ond angen ichi edrych allan drwy'r ffenest. Mae hynny'n swnio'n pretentious ond mae'n wir. Mae'n bendant yn helpu byw yn fan hyn.

Pe bai eich band chi'n anifail, pa un fydde fo?
Golden Labrador hapus.

O lle ddaeth yr enw?
Gabrelle 25 oedd enw'r gath gyntaf i fynd i'r gofod.

Disgrifiwch steil y band mewn tri gair:
Myfyriol, mellow, dadlennol.

Pe baech chi'n cael dewis unrhyw le yn eich ardal i gynnal gig, lle fyddai?
Yn y cae wrth ymyl y t?.

Beth ydych chi'n ei wneud yr eiliad hon?
Dwi ddim ond wedi hanner gwisgo achos mae gen i ddiwrnod i ffwrdd o'r gwaith heddiw.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Wrecsam):

Sylw:




Mae'r 主播大秀 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
主播大秀 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy