主播大秀

Explore the 主播大秀
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Y S卯n Roc

主播大秀 主播大秀page
主播大秀 Cymru
主播大秀 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

主播大秀 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Meinir Gwilym Meinir Gwilym
Hoffai hedfan fel y nico dros Baradwys ym M么n - ar 么l rhannu brecwast efo Sali Mali. Dyma gyfrinachau cerddorol Meinir Gwilym.
Aelodau
Fi!

O lle
Yn wreiddiol o Langristiolus, Ynys M么n.

Pryd wnaethoch chi ffurfio?
Dwi 'di bod yn canu erioed ond mi wnes i ryddhau fy EP gyntaf yn 2002.

Pam ddaru chi ffurfio band?
Ro'n i wastad yn sgwennu caneuon ac felly eisiau i bobl eraill eu clywed nhw - beth ydy pwrpas sgwennu caneuon heb gael barn ac ymateb eraill?

Gig gwaetha
Pan wnes i golli fy llais ar 么l canu mewn tafarn heb system PA! Roeddwn i'n methu canu am o leiaf wythnos wedyn.

Gig gorau
Dwi wedi mwynhau pob un gig dwi 'rioed wedi ei wneud - hyd yn oed yr un gwaetha. O ran y niferoedd o bobl yn y gynulleidfa, Y Faenol ydy'r gorau - mae'n wych cael gymaint o ymateb gan y dorf. Ond mi wnes i hefyd fwynhau G?yl Pen Draw'r Byd, Aberdaron, yn fawr. Roeddwn i'n canu tu allan yn yr haul a phawb yn canu efo fi - roedd yn dda teimlo agosatrwydd y gynulleidfa.

Pwy ydy'ch hoff artistiaid chi?
Mi fuaswn i'n gallu llenwi'r dudalen efo'r artistiaid dwi'n eu hoffi! Dwi'n licio gymaint o rhai gwahanol.

Sut ydych chi'n mynd ati i sgwennu caneuon?
Weithia dwi'n sgwennu caneuon ar y git芒r, weithia ar y piano. Ar adegau eraill mae'r g芒n yn fy mhen bron yn gyflawn.

Be ydych chi'n ei wneud ar 么l gig?
Ffeindio rhywle distaw!

Pa berson enwog fyddech chi'n licio rhannu cornflakes efo nhw?
Sali Mali

Ydy eich ardal chi wedi dylanwadu ar eich cerddoriaeth mewn unrhyw ffordd?
Do yn sicr - dwi'n credu fod yr ardal lle ti'n cael dy fagu yn ddylanwadol iawn, i fi beth bynnag. Dwi'n teimlo fy ngwreiddiau'n gryf ac mae llefydd yn aml yn bwysig mewn ryw ffordd yn fy ngherddoriaeth - un ai fy nghartref, neu deithio.

Pe bai eich band chi'n anifail, pa un fydde fo?
Nico - dwi'n licio'r nico yn fawr ac mi fuaswn i'n cael hedfan!

Disgrifiwch steil y band mewn tri gair:
Dwi'm yn licio rhoi label ar fy ngherddoriaeth gan nad ydw i eisiau cyfyngu fy hyn byth.

Pe baech chi'n cael dewis unrhyw le yn eich ardal i gynnal gig, lle fyddai?
Coed Carrog, ym Mharadwys Sir F么n.

Beth ydych chi'n ei wneud yr eiliad hon?
Jest ar fin mynd i gyflwyno rhaglen i Radio Cymru gyda Dylan Wyn.


Cyfrannwch

Sara Jones o'r Bala
Mae Meinir Gwilym yn wych!! Mae mam a finnau wrth ein boddau yn gwrando arni yn y car gan drio ei dynwared ond ofer fu bob tro!! Lwc dda i ti yn y dyfodol Meinir!! x
Sun Mar 2 15:41:14 2008

Manon Fowler o Ashbourne, Derbyshire
Dwi'n meddwl bod dy ganeuon yn brill. Cd newydd arall yn fuan gobeithio.
Thu May 3 19:59:51 2007

Dyfrig o Rhuthun
Hoffi Meinir yn canu!!
Sun Apr 22 20:35:04 2007

hefin o wrecsam
CD newydd eto,plis,Meinir. Cerddores o fri. Gig yn ardal Wrecsam??? xxxx
Tue Dec 26 13:09:30 2006

Ffion, tremadog
Hoffi meinir, yn dda iwn a hoffi album 'sgandal fain' - mae o yn wych. gwybod rhan fwya o'r ganeuon
Tue Oct 3 22:44:10 2006

Claire Moss o Borthaethwy
mae meinir yn person wych. mae canuon meinir gwilym yn ardderchog ac dwin hoffi canu i nhw ar ol ysgol.
Sat Sep 30 17:18:00 2006

Dylan Meirion o Borthmadog
Angen gig yn Porthmadog Meinir, heb gael neb o safon yma ers ioncs. Mae dy gerddoriaeth ar y blaen yn Gymru yn sicir, hwyl Dyl M Port
Fri Aug 25 17:09:59 2006

catrin o llanrwst
Dwi wrth fy modd efo Meinir Gwylim! Es i'w gweld yn Sir Fon yn ymarfer i'r noson lawen yno - roedd hi n ffantastic. Mae hi'n wych ac n amazing. pob lwc i'r dyfodol Meinir!
Mon Jul 17 12:21:54 2006

no.1 ffan o Tremadog
hi Meinir ti yn bril dani gid yn lvio chdi
Mon Jun 26 18:20:37 2006

Sera Williams o Rhiw
Dwi a fy mrawd bach wrth ein boddau efo caneuon Meinir Gwilym.'Da ni'n meddwl ei bod hi'n WYCH!! Tydy fy mrawd heb 'di stopio son amdani ers iddo ei chyfarfod yn Sioe Mon blwyddyn dwythaf.
Sun Jun 18 11:01:16 2006

Robin o Sir Ddinbych
Dwi wedi dotio gyda miwsig Meinir Gwilym, mae ei llais yn unigryw a dwi'n gallu uniaethu gyda'i chaneuon. Fy hoff gan ar hyn o bryd yw Cachu ar y Walia, mae'r gan byth a beunydd ar fy chwarewr cd. Dal ati Meinir a plis plis nei di gigio fwy aml!!
Mon Apr 10 12:32:50 2006

Ellis o Lanrug
Dwi'n meddwl fod miwsig meinir gwilym yn cwl, mwy o gigs plis meinir! Ti'n gret
Mon Apr 10 00:30:38 2006

Meinir Jones o Llanfechell
Y fi ydy ffan mwyaf Meinir Gwylim! Mae pob CD gen i ac rwy'n gwybod pob can oddi ar pob CD. Gai jyst dweud dwi'n licio'r CD newydd yn fawr iawn. Pob lwc i ti a gweddill y criw yn y dyfodol.
Tue Jan 10 13:22:02 2006

Gwerfyl Jarrett, Trawsfynydd
Mae Meinir Gwilym yn 'OSSOM'. Dwi Newydd gael ei cd newydd hi 'Sgandal main' Dolig yma a dwi yn lyvio hi. Dydw i ddim yn gallu aros i'r cd newydd ddod allan. Hwyl
Mon Dec 26 21:08:02 2005

Lowri o Borthaethwy
Ma Meinir yn amazing! Fy hoff gan ever ydi 'Dubl Jin A Tonic' a 'I'r Golau' coz mae'n neud imi deimlo'n hapus. Dwi di gweld Meinir yn perfformio 3 gwaith (y Faenol, Eisteddfod Genedlaethol 2005 ac yn yr ysgol). O ia a ma dy dad di'n dysgu drama imi!
Sat Dec 17 22:32:16 2005

Sarah Johnson o Llanasa
Roedd o'n gr锚t, yn enwedig rhannu cornflakes hefo Sali Mali!
Tue Dec 6 11:35:43 2005

Non Wyn
Achubwraig cerddoriaeth Cymraeg.
Sun Oct 2 11:13:31 2005

Bob Owen o Trawsfynydd
Dwi yn goro deud mae Meinir yn ffantastic. Dwi yn licio pob can off y ddau album yn ddiawledig. Fedrai ddim witchad am yr album newydd. Merch talentog iawn. Mae hi wedi dod a steil newydd i miwsic Cymraeg dwi yn meddwl. Dwi yn lyvio Meinir Gwilym!
Tue Sep 27 14:44:44 2005

James Whittaker o Gaernarfon
Ma Meinir Gwilym yn bodan os gai ddeud, a mae hi TUA oed fi hefyd so ella dwi efo chance yn fano?!
Tue Sep 6 23:17:59 2005

Miriam Elis o Gaerdydd.
Meinir Gwilym yn wych! Mae'n unigryw ac yn ysgrifennu ei theimladau gwir, dim yn canu rhyw ganeuon pop di-bwys a di-deimlad a gafodd eu sgwennu gan rywun rywun. Ysbrydoliaeth i bobl ifanc Cymru. Gwych!
Wed Aug 31 21:05:17 2005

Non a Lisa o Ysgol Glan y Mor, Pwll
Gwych!
Fri Jul 8 11:29:21 2005

Elin Chilton o Lanrwst
Wedi mwynhau ei gweld yn Llanraeadr ym Mochnant!!!
Mon Jun 27 10:20:29 2005

Lotty yn wreiddiol o Bodorgan
Oes yna EP newydd ar y gweill?
Mon Jun 6 15:55:10 2005

Mari Gwyn o Gwynedd
Fi a fy ffrind gorau (Sian Mererid)ydi yw eich ffans mwya erioed! Rydym ni yn hoffi chwarae eich caneuon ar gitars ac yna dangos i'r ysgol, (ysgol Llanllechid) ac yn hoffi gweld chi yn canu ar lwyfan wrth gwrs! Chi ydi'r person gorau am ganu!
Wed May 18 17:31:40 2005

Jaci Owen Evans o Llangrannog
Hoffi Meinir Gwilym llawer - mae yn unigryw naturiol - llais,cymeriad,presenoldeb, steil canu da - mae yn wahanol gyda safon. Llysgennad eang i Gymru. Dim rhyw gantores blastig wedi ei phrosesi. Lwc dda iddi hi a'r criw i gyd
Fri Mar 4 11:32:45 2005


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Wrecsam):

Sylw:




Mae'r 主播大秀 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
主播大秀 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 主播大秀 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy