Un o actorion mwyaf adnabyddus Cymru heddiw a phrif leisydd poblogaidd.
Wyddech chi?: Ymddangosodd Bryn fel hync y mis yng nghylchgrawn She yn yr 1980au.Magwyd Bryn F么n ym mhentref Llanllyfni a dechreuodd ganu yn fachgen ifanc yn y capel, yn yr ysgol ac fel aelod o'r Urdd. Astudiodd ymarfer corff ac astudiaethau'r amgylchedd yn y coleg cyn mynd i weithio ar fferm tra'n ceisio cychwyn ar yrfa yn y byd adloniant.
Enillodd ei gerdyn ecwiti hollbwysig pan gymerodd ran yn yr opera roc Dic Penderyn yn 1977. "Roedd o'n 'chydig o fedydd t芒n" meddai Bryn. "Ro'n i mewn theatr newydd, yn canu gyda band mawr am y tro cynta, a'r sioeau i gyd wedi gwerthu allan."
Cafodd gychwyn disglair i'w yrfa ar y sgr卯n fawr pan chwaraeodd gymeriad a wnaeth i Katherine Hepburn gr茂o yn y ffilm The Corn is Green, a gafodd ei ffilmio ym Metws-y-coed ac Ysbyty Ifan.
Aeth ymlaen i actio yn y ffilm gyntaf ar S4C, Y Gosb.
Hywel Morgan oedd y gyfres gyntaf iddo actio'r brif ran ynddi. Roedd rhaid iddo wneud nifer o'r styntiau ei hunan ac roedd yn gyfres eithaf corfforol. Ond fel un oedd wedi astudio ymarfer corff, fe wnaeth fwynhau'r marchogaeth a'r holl waith caled roedd rhaid iddo'i wneud.
Ond mae Bryn F么n hefyd yn enwog fel canwr. Ffurfiodd y gr诺p Crysbas ar 么l gadael y Coleg, a ffurfiodd Sobin a'r Smaeliaid yn 1988. Bellach mae Bryn wedi hen arfer perfformio i filoedd o ddilynwyr mewn digwyddiadau fel G诺yl y Faenol a'r Eisteddfod gyda'i fand.
Er hynny, mae'n dweud fod ei nerfau wedi gwaethygu dros y blynyddoedd diwethaf.
"Fel yr enw ar dop y bil, ganddoch chi mae'r cyfrifoldeb o sicrhau fod pawb yn gyrru adref wedi cael noson dda", meddai Bryn. "Mae gorfod wynebu dros 3,000 o bobl yn gwneud i mi deimlo'n nerfus iawn, ond ar 么l cychwyn canu, mae popeth yn dod yn iawn eto."
Mae'r anfarwol Tecwyn Parry yn C'mon Midffild a Les yn y gyfres Talcen Caled ymysg ei berfformiadau mwyaf adnabyddus ar deledu. Chwaraeodd ran Les yn wreiddiol ar lwyfan, flynyddoedd yn 么l.
Mae Bryn, a briododd 芒'i wraig Anna ym Mhortmeirion eleni, yn byw gyda'i deulu yn Llanllyfni. Meddai: "Dwi'n lwcus 'mod i'n gallu fforddio dod n么l i fyw o fewn milltir i ble ces i fy magu. Ar 么l byw i ffwrdd, dwi'n teimlo ei bod hi'n bwysig dod n么l a dwi'n lwcus i gael gyrfa sy'n caniat谩u imi wneud hynny."